Archif | Mehefin, 2014

Fukushima, dyma ni’n dod …

16 Meh

Darllen ddoe a heddiw am ddirprwyaeth uchel o Sir Fôn a fydd yn mynd i Japan i astudio atomfeydd.   Hwyl ar y daith ’te hogia.  Cyn mynd, hwyrach yr hoffech chi ddarllen ambell i hen eitem ar y blog hwn, e.e. 5 Chwefror a 9 Chwefror eleni, ac yn arbennig eitem 16 Tachwedd y llynedd, “Dyma drôns i Fôn”.  A dowch â chyflenwad o’r tronsiau gwrth-ymbelydrol yn ôl efo chi.  Fe ddylen-nhw werthu fel slecs ar draethau’r Benllech a Rhosneigr yr haf yma.

Gofod ymarferol ac ardal chwarae

12 Meh

Plwyfol yw testun yr hen G.A. heddiw.  Ond eto efallai fod ymhlygiadau gweddol eang iddo.

Prif bennawd GOLWG 360 echdoe (10 Mehefin): “Watkin Jones yn ennill cytundeb i adeiladu ysgol newydd.”  Ew, dyna ichi stori i ddechrau!

Ysgol newydd y Groeslon, Arfon sydd dan sylw, ac er mwyn mynd ymlaen â’r cynllun bwriedir cau ysgol y Fron a’m hen ysgol innau, ysgol Carmel.

Dylwn ddweud nad wyf erioed wedi delfrydu ysgol am fy mod i wedi bod ynddi, na delfrydu ysgol am ei bod yn fechan, na delfrydu ysgol o gwbl.  Lle o helbul yw ysgol, gyda thipyn o hwyl weithiau i wneud bywyd yn weddol oddefadwy.  Y peth da ynghylch ysgol ddyddiol yw ei bod yn cau am hanner awr wedi tri, a’r peth da ynghylch ysgol yn gyffredinol yw ei bod yn dod i ben.

Ond gofynnaf eto gwestiwn yr wyf wedi ei ofyn droeon o’r blaen, ac ar y blog hwn hefyd os cofiaf yn iawn:   sut le fydd Carmel heb ysgol?  Gwell?  Ynteu gwaeth?  “Gwaeth” oedd ateb y rhieni a’r rhan fwyaf o’r ardalwyr flwyddyn a llai yn ôl.  Beth yw eu teimlad erbyn hyn, wn i ddim.

“Gwell” yw ateb y Cyngor Sir.  Dyfynnaf GOLWG 360:  “Fe wnaeth y bwriad i gau ysgolion Cymraeg yn yr ardal ennyn beirniadaeth lem gan rieni, ond mae cynghorwyr yn credu bydd y cynllun newydd o les i’r gymuned.”   Dyna ni felly.

Wedyn mae’r adroddiad yn dyfynnu geiriau’r Cynghorydd Ioan Thomas:  “rydym yn hynod falch fod cwmni o Wynedd wedi dod i’r brig.”   Arferiad go gyffredin gan awdurdodau o bob math heddiw, ac yn arbennig ym myd addysg, yw cyhoeddi eu bod yn falch iawn fod penderfyniad y maent hwy eu hunain newydd ei wneud wedi ei wneud. “Rwyf yn falch iawn fod y penodiad hwn wedi ei wneud,” meddai’r sawl a wnaeth y penodiad.  “Rydym yn falch iawn fod y penderfyniad hwn wedi ei gymryd.” medd y pwyllgor a gymerodd y penderfyniad.   (Ac o’r ochr arall, dweud fod penderfyniad negyddol ganddyn nhw eu hunain yn “anffodus”.  “Yn anffodus, allwn ni ddim cynnig y swydd ichi.”  Pam “anffodus”?  Dyna’ch penderfyniad chi.  Rhaid eich bod chi’n meddwl ei fod y peth gorau.  Penderfyniad oedd o, nid anffawd. Arbedwch eich anadl. Peidiwch â siarad lol.)

“O ganlyniad,” â Mr. Thomas yn ei flaen, “dyma sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill …”.  Wel, wn i ddim wir.  Ydi Carmel ar ei ennill?  Oes rhywun yn gwir gredu hynny?   

“Bydd yr ysgol newydd,” darllenwn, “yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd grŵp, gofod ymarferol, neuadd fodern, cyfleusterau ar gyfer staff a sawl ardal chwarae i’r plant.”   Be wnaethom ni, dwedwch,  yr holl flynyddoedd heb ystafelloedd grŵp?  A be wnawn ni yn y gofod ymarferol?   Sut neuadd yw neuadd fodern?  A fydd chwarae mewn ardal chwarae yn wahanol mewn rhyw ffordd i chwarae mewn iard neu gae fel y byddem ni ers talwm?  

Jargon anfad byd Addysg.  Rwtshi-ratsh.

A dyma ragor ohono. Dyfynnir y Cynghorydd Gareth Thomas:  fod “swyddogion y Cyngor wedi darparu cynlluniau cyffrous”, ac y bydd yr ysgol yn “darparu awyrgylch dysgu modern arbennig”.  Be sy’n GYFFROUS felly? A pham mae’n rhaid i bob coblyn o bob dim fod yn GYFFROUS?    Sut awyrgylch yn union yw awyrgylch dysgu modern?  Beth am weddill plant y sir, sy’n dal mewn adeiladau hŷn, at ei gilydd?  Sut awyrgylch dysgu fydd gan y rheini?

Iaith sbin a iaith swyddfeydd sydd yma.  Iaith colli cysylltiad â bywyd. Clywaf hefyd, yn y cefndir, acenion plaid wleidyddol wedi colli ei ffordd.

Gobaith Is-Ganghellor

4 Meh

Gan fy mod wedi mynd yn Guardianista, dyma fi’n ista unwaith eto’n darllen y Guardian.  Papur ddoe. Ynddo mae ysgrif ar hen bwnc tra chyfarwydd i ni Gymry, sef dwyieithrwydd. Is-Ganghellor Prifysgol Caergrawnt yw ei hawdur.  Yr Athro Leszek Borysiewicz yw hwn, Pwyliad o dras – ei deulu wedi dod yn ffoedigion i Gaerdydd ddiwedd yr Ail Ryfel, ar ôl gofidiau lawer – ac yn ei ddisgrifio’i hun fel ‘Cymro a Phrydeiniwr’.  Fel y gwyddom ni, mae mwy nag un ystyr i’r ddau derm fel ei gilydd; pa ystyron y byddai’r Athro Borysiewicz yn eu dewis pe byddid yn pwyso arno, ni wn.

Personal defence of Britain’s ‘living languages’ yw pennawd yr ysgrif.  Gwelir yn fuan nad at yr hyn sy’n weddill o hen ieithoedd brodorol Ynys Brydain y cyfeirir  – er na ddywedir dim yn erbyn yr un o’r rheini – ond at yr ieithoedd a ddaeth y mewnfudwyr yma gyda hwy.  Mae’r Athro am i’r rhain gael eu hystyried bellach, nid yn gymaint fel ‘ieithoedd etifeddol’ (heritage languages) ag fel ieithoedd priod ym Mhrydain.   Gan ddyfynnu’r ystadegyn fod un plentyn o bob chwech yn ysgolion cynradd Lloegr heddiw heb fod â Saesneg yn iaith gyntaf iddo  – a’i ddyfynnu nid mewn unrhyw ysbryd Daily Mail ond mewn ysbryd hollol groes i hynny  – dadleua:  ‘Ieithoedd go-iawn yw’r rhain:   ieithoedd byw sy’n rhoi i bobl ddealltwriaeth helaeth o ddiwylliant ac yn rhoi cyfleon ychwanegol i’r plant sy’n eu medru.’

 yn ei flaen i annog dysgu mwy o ieithoedd drwy ein cymdeithas yn gyffredinol ac i groesawu’r ffaith y bydd plant saith oed yn ysgolion Lloegr – mewn egwyddor o leiaf – yn cael dysgu ail iaith o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Un o’r gofidiau a fydd yn poeni’r hen G.A. yn yr oriau mân yw na ddysgodd fwy o ieithoedd pan allasai gael cyfle, na dysgu’n drylwyrach yr ychydig oedd ganddo.  Cofiaf fod yn Luxembourg flynyddoedd yn ôl ac edmygu’r  rhuglder mewn tair neu bedair iaith a oedd gan bobl ifainc na honnent fod yn ‘ddysgedig’ o gwbl, gweithwyr mewn siopau a thai bwyta.  Oes, mae rhywbeth braf yn y cymhwyster hwn a diau ei fod, fel y dywed yr Is-Ganghellor, yn agor drysau.        

Ac eto …

Mae ‘mantais dwyieithrwydd’ yn lein y bu rhai ohonom ni Gymry yn ceisio’i gwerthu ers bron i ganrif, heb lawer o lwyddiant.  Yr anhawster, yn yr achos hwn, yw mai’r Gymraeg yw’r ail iaith y ceisir ei chymell, iaith sydd, am resymau hanesyddol, diwylliannol, seicolegol a mythaidd, yn farc israddoldeb. Yr agwedd at y creadur a elwir ‘Cymro’ yw’r peth sylfaenol, o’r ddwy ochr. Nod, bathodyn Cymro yw’r  Gymraeg.  Hynny a achubwyd o bentewynion tân, fe’u hachubwyd nid gan awydd bod yn ddwyieithog ond gan awydd bod yn Gymry.  Ac o’r ochr arall, dros genedlaethau lawer, a heddiw hefyd i gryn raddau, nid methu siarad Saesneg yw’r hyn a gyfrifir yn wendid, yn anfantais, yn bechod, yn drosedd ond medru siarad Cymraeg yn ogystal. Hynny yw, nid i’r iaith y mae’r gwrthwynebiad sylfaenol, ond i ryw fod mythaidd o’r enw ‘Cymro’, nad yw i fod yn yr Ynys Brydain fythaidd.  Mae’r iaith yn fodd i adnabod y bod hwnnw, a dyna pam y mae gwrthwynebiad iddi.

Dyma un rheswm pam yr wyf dipyn bach yn sgeptig ynghylch gobaith yr Athro Borysiewicz, – er nad oes gennyf ddim yn ei erbyn.  Carchar fu dwyieithrwydd i’r Cymro, ac anodd gweld sut y daw fyth allan ohono.  Peth gwahanol yw amlieithrwydd gweithwyr siopau Luxembourg: gwybodaeth dda o ail a thrydedd iaith yw hwn, nid rheidrwydd yn codi o israddoldeb gwleidyddol.

Mae rheswm arall am y sgeptigiaeth, sef golygwedd, gobaith a thuedd ddiwrthdro mewnfudwyr i Brydain.  A ydynt am gadw eu hieithoedd ar ôl dod yma?  Nac ydynt, gydag eithriadau prin iawn.  Ni allant newid eu lliw, a bydd llawer ohonynt yn dewis cadw’u crefydd. Ond o ran iaith, bod yn Saeson yw eu nod, ac fe’i cyrhaeddir o fewn cenhedlaeth, fel nad oes angen i’r Daily Mail nac Ukip boeni dim ar y cyfrif yna. Gwywo a wna’r ‘ieithoedd dŵad’ yn ysgolion Lloegr ac yn y gymdeithas ac fe ddaw  plant y mewnfudwyr yn Saeson glân fel y daeth Isaiah Berlin, Eric Hobsbawm a Bernard Levin mewn cenhedlaeth o’r  blaen, ac fel y mae Natasha Kaplinski, Rita Chakrabarti a Michael Portillo heddiw.

Mae’r Athro Borysiewicz yn erbyn gosod unrhyw derfynau ar fewnfudo i Loegr, ac mae’n iawn.  Nid yw’r peth yn broblem o gwbl.  Os oes gan Loegr broblemau, nid yw mewnfudo yn un.

Daw’r mewnfudwr i Loegr i fod yn Sais. A daw’r  Sais i Gymru i aros yn Sais. Dyna beth yw problem.

Eisteddfod Fawr y Colegau

3 Meh

Unwaith eto mae’n ddiwrnod ‘Tablau Prifysgolion’ papur newydd y Guardian, a dyma GOLWG 360 yn crynhoi inni beth o lwydd ac aflwydd rhai o golegau Cymru.  Prifysgol Glyndŵr yn llamu i fyny 44 safle i rif 62 yn y Deyrnas.  Caerdydd i fyny 3 i 26, ac Abertawe i fyny 2 i 58.  Bangor i lawr 8 i 82; Aberystwyth i lawr 18 i 108.  Dywedaf, fel y dywedais rywdro o’r blaen – nid i fennu ar lwyddiant yr enillwyr, ond efallai i godi calon y rhai na buont mor lwcus eleni: dydi’r ffigurau’n golygu fawr ddim.  Rhyw chwarae plant yw’r cyfan, gyda ffyn mesur diystyr fel ‘bodlonrwydd myfyrwyr’ a ‘gwariant y pen ar bob myfyriwr’.  Dyma’r hen Aber wedi syrthio oddi ar du ôl lori’r cant uchaf oherwydd dirywiad mewn … daliwch eich gwynt … Seicoleg, ie a … Gwyddor Chwaraeon!  Lol-mi-lol, fel y gwêl pawb call.  Yn wir, pan eir i ofyn pa ffon fesur ddilys sydd yna mewn gwirionedd, mae’n anodd meddwl am yr un heblaw gofynion mynediad – a’r rheini mewn pynciau go-iawn.  ‘Beth am ansawdd ymchwil?’ meddech chi.   Wel ie, i ryw fesur efallai; ond cofiwch mai Steddfod yw hon hefyd, ac mai peth personol yw beirniadaeth.

Ac edrych drwy hyd a lled y Deyrnas, gwaith go hawdd – a chau’ch llygaid am eiliad  – yw dyfalu pwy ddaw i’r brig.  Ie, Caergrawnt yn flaenaf eleni, a Rhydychen yn ail.  Ymgysured y Glas Tywyll, fe ddaw eu tro eto, siŵr o fod. Ond, a bod yn deg, cofnodwn fod ambell brifysgol arall, megis Durham, wedi curo’r hen stejars hyn mewn ambell flwyddyn o’r blaen.

Chwiliwn tua chwt y rhestr. Na, ni welwn yno mo’r anfarwol Brifysgol South Bank, y bu bron iawn iddi gyflawni’r gamp o ddod yn olaf ryw 4-5 mlynedd yn ôl.  Yn fwy perthnasol i ni Gymry efallai, ble mae Prifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi Sant?  Na, nid oes arlliw ohoni.  Fel yr awgrymais o’r blaen, ac fe’i pwysleisiaf drachefn: mae’r cyfan, ydi, yn dipyn o jôc.  Eto i gyd, wrth gasglu bod YDDS wedi suddo yn nyfnderoedd rhyw gors ‘ymhell o gyrraedd llef’ chwedl y bardd, mae dyn yn sobri tipyn bach wrth feddwl mai yma hefyd y bydd holl raddedigion Prifysgol Cymru cyn bo hir os caiff Cynllwynwyr a Chynffonwyr eu ffordd.

Mae’r difrod a wnaed yn echrydus.  Anodd gweld y gellir adennill llawer.  Ond fe ddylai fod yn bosibl adennill peth.  Yr hyn a ddylai fod yn flaenoriaeth heddiw gan aelodau Prifysgol Cymru, sef ei graddedigion, yw diogelu uwchlaw pob pryder y pedwar ‘sefydliad prifysgol’, sef (unwaith yn rhagor); y Wasg, y Geiriadur, y Ganolfan Uwchefrydiau a Gregynog.  Fe ddylai cyrff rheoli’r pedwar sefydliad ddod ynghyd a ffurfio cyd-bwyllgor a fyddai wedyn yn diffinio’u hanghenion cyllidol dros, dyweder y 15-20 mlynedd nesaf.  Dylai’r Cyngor Cyllido (HEFCW) gytuno ar fformiwla a fydd yn gwarantu’r cyllid.  Dylai fod gofyn cyfreithiol arno i wneud hynny.  Dylai fod y gofyn hwnnw ymhlith cymalau’r Mesur Addysg Uwch sydd yn fuan i’w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.  A oes rhywun yn y Cynulliad yn barod i gynnig hyn fel gwelliant?  Fyddwn i’n synnu dim clywed nad oes, oherwydd hyd yma ni welaf fod gan neb yno unrhyw ddealltwriaeth o’r broblem.

Corff arall a ddylai fod yn ymwybodol o’r angen ac yn barod i wneud rhywbeth yn ei gylch yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru.  Dyma gorff a ddylai fod yn pwyso’n daer ar y Llywodraeth a’r Cyngor Cyllido.  Hyd yma, a hyd y gwn i, nid yw wedi dangos unrhyw ddiddordeb. Mae’r rheswm yn lled amlwg, ac mae fy nisgrifiad ohoni yn fy mhamffled Trwy Ofer Esgeulustod: Brad a Dinistr Prifysgol Cymru mor dda nes fy mod am ei ailadrodd wrthych yn awr:   ‘casgliad gorau’r byd o brif awduron y broblem’.

Down yn ôl at hen  gwestiwn y safonau.  Ddiwedd y 1990au, pan oedd Comisiwn Syr Ron Dearing yn eistedd, bu cryn drafod ar sefydlu safon gyffredin ar draws y prifysgolion, fel bod (dyweder) gradd dosbarth cyntaf yn golygu mwy neu lai yr un peth, os nad drwy’r holl brifysgolion, o leiaf mewn detholiad ohonynt wedi ymrwymo i’r un weledigaeth. Yr oedd y dichonoldeb hwn trwy’r blynyddoedd yng ngradd ffederal Prifysgol Cymru, ond fe’i taflwyd ymaith trwy ofer, ofer esgeulustod meddaf eto, ie fandalaidd a throseddol ac anfaddeuol esgeulustod hefyd.  Mewn byd call byddai pedwar cyn-goleg go-iawn Prifysgol Cymru – neu hyd yn oed dri ohonynt – yn dod at ei gilydd eto a sefydlu Gradd Gyffredin Prifysgolion Cymru.  Ond nid mewn byd call yr ydym yn byw.