Archif | Awst, 2021

“Mynnwn ni ein mini-niwcs …”

26 Awst

Dyna ddymuniad gwallgo llywodraeth Cymru heddiw.

Os gwireddir hwn, dyna fydd ei diwedd hi. Waeth inni heb â malu am ddim byd arall yng Nghymru. Bydd y cwbl ar ben.

Bydd pawb yn ei iawn bwyll yn dwys ystyried y rhybudd isod a gyhoeddwyd gan PAWB a CADNO.

Ac yn awr wleidyddion Caerdydd. Pa rai ohonoch sydd am ddatgan llwyr wrthwynebiad i’r cynllun lloerig?

  • * * *

Datganiad i’r Wasg gan PAWB a CADNO 26/08/2021

DIGON YW DIGON – DIM MWY O NIWCS I DRAWSFYNYDD NA WYLFA

Cyhoeddwyd fod yr Americanwr Mike Tynan wedi ei benodi fel Prif Weithredwr Cwmni Egino, sef cwmni a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i barhau â gweithgaredd niwclear yn Nhrawsfynydd.

Mae PAWB a CADNO yn datgan yn eglur eu gwrthwynebiad i’r apwyntiad hwn.

Dylai safle hen atomfa Trawsfynydd fod yn ganolbwynt i ddatblygu technolegau adnewyddadwy a chynaliadwy sy’n cynnig swyddi i bobl leol yn y tymor byr a’r canolig, heb y peryglon sydd ynghlwm â niwclear.

Drwy apwyntio Mr Tynan, cyn brif weithredwr cwmni Westinghouse UK, rhan o’r cwmni niwclear dan berchnogaeth Toshiba a aeth i’r wal yn 2017, mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cefnogi technoleg ffaeledig a hen ffasiwn. Unwaith eto cawn weld codi gobeithion lleol am waith, heb fawr ddim addewidion o sylwedd. Gwelwn drachefn y ffydd ddiysgog mewn gallu rhywun o’r tu allan i ddiwallu ein hanghenion. Ac fel y gwelwyd droeon, mae elît y diwydiant niwclear yn sicrhau cyflogau ar draul y werin.

Beth yw cyflog Mr Tynan, tybed? Faint o adnoddau y mae ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i Cwmni Egino? Faint o swyddi fydd yna? Faint ohonynt i bobl leol?

Pam mae Llywodraeth Cymru yn fodlon croesawu cwmni Rolls-Royce i safle Trawsfynydd, ac o bosib y Wylfa, pan mae’r cwmni hwnnw yn brolio fod datblygu Adweithyddion Niwclear Bychan (sydd ddim mor fychan, gyda llaw) o fantais i allu Prydain i gynnal arfau niwclear?

Nid oes digon o brawf y bydd y dechnoleg wedi ei datblygu yn ddigonol i wneud gwahaniaeth yn y frwydr argyfyngus i ymladd newid hinsawdd mewn pryd. Yn ogystal mae adnoddau cyhoeddus prin sy’n cefnogi niwclear yn golygu nad ydi’r adnoddau hynny ar gael i dechnolegau gwirioneddol wyrdd a chynaliadwy.

Gyda llaw, mae digon o dystiolaeth y byddai’n fwy addas ymchwilio i eisotopiau meddygol yn y dinasoedd lle y cawn nhw eu defnyddio yn yr ysbytai arbenigol – rhyw abwyd i wneud ynni niwclear yn fwy derbyniol yw’r sgwarnog yma.

Ymddengys fod Llywodraeth Cymru yn hollol sinigaidd wrth honni fod Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyfrif. Gwell ganddynt groesawu diwydiant cyfalafol efo cyswllt amlwg efo’r diwydiant arfau niwclear.

Galwn ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i gefnogi’r diwydiant difaol hwn ar unwaith. Gwastraffwyd gormod o arian, adnoddau ac amser yn barod ar niwclear.

Dyma lle i gychwyn:

  1. Diswyddo Mike Tynan.
  2. Datgan mai ar gyfer datblygiadau cynaliadwy a gwyrdd fydd gwaith Cwmni Egino yn y dyfodol, ac nad oes croeso i niwclear yn Nhrawsfynydd na’r Wylfa.
  3. Penodi Bwrdd newydd heb gysylltiadau niwclear i Ardaloedd Menter Eryri a Môn, gan adlewyrchu mentrau cymunedol yn yr apwyntiadau.
  4. Cau y Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor.
  5. Sicrhau nad oes gan M-Sparc unrhyw gysylltiad pellach â’r diwydiant niwclear, ac apwyntio cyfarwyddwyr newydd i adlewyrchu hynny.
  6. Adolygu Cynllun Datblygu Lleol ar y cŷd rhwng Gwynedd a Môn; Cynllun Twf Gogledd Cymru; a Cymru’r Dyfodol gan dynnu pob elfen niwclear ohonynt, a rhoi’r adnoddau i gefnogi diwydiannau cynaliadwy fydd o fudd i’n pobl.

Newid hinsawdd, diffyg cartrefi, tlodi, anghyfartaledd – dyma broblemau dyrys ein hoes.

Nid yw’r obsesiwn niwclear yn gwneud dim oll i ddatrys y problemau hyn; mewn gwirionedd mae’n ychwanegu atynt.

Cyswllt: CADNO – Meilyr Tomos 0790 545 1571. PAWB – Dylan Morgan 07391 814 235; Robat Idris 07799 41 66 96

Nodyn i olygyddion:

https://www.ft.com/content/70c7d7d7-6658-4d6a-9370-64087bf314e7

Ateb yr Ynfyd

22 Awst

Cyngor Llyfr y Diarhebion (26: 4) yw “Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo.” Am hynny fe geisiwn fod yn fyr heddiw, dim ond nodi fod y cyhuddiadau o hiliaeth a wnaed gan Undeb Gwrth-hiliaeth Cymru yn erbyn Cyngor y Celfyddydau a’r Amgueddfa Genedlaethol yn codi cwestiynau difrifol ynghylch safon trafodaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Yn ddiweddar mae’r lobïwyr diorffwys gwrth-Gymraeg wedi cael gafael ar erfyn newydd sef yr hyn y maent hwy yn ei alw yn wrth-hiliaeth. Effaith eu cŵyn yn y pen draw yw ensynio na all pobl o liwiau heblaw gwyn ddim dysgu iaith. Dylasent ddarllen llyfr newydd Simon Brooks, Hanes Cymry, cyn agor eu cegau.

Gwendid ar ran yr Amgueddfa a Chyngor y Celfyddydau fu gofyn barn y bobl hyn yn y lle cyntaf. Gwnaed y gwahoddiad yn gyfle i ymosod yn gyffredinol ar bolisi o ystyried y Gymraeg yn gymhwyster.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ateb y cyhuddiadau mewn termau ymataliol iawn. Ond pryd cawn ni glywed gan Adran Comisiynydd yr Iaith? Dyna’r corff a ddylai ddweud wrth yr ynfydion am fynd i ganu.

Pwynt a chwestiwn …

18 Awst

O’r pellter hwn ynghylch y dyddiau diwethaf yn Affganistán.

Bu Prydain ac America’n llwyddiannus yn erbyn pwerau mawr milwrol eraill oedd yn yr un gêm â hwythau – dau Ryfel Byd, ac yn wir y Rhyfel Oer. Ond colli bob amser yn erbyn ymladdwyr guerilla. Ffaith.

Cymharwch Gymru heddiw ac Affganistán. Crefydd gymharol rydd ac eangfrydig yn dymchwel yn dipiau o’n cwmpas; crefydd eithafol gaethiwus yn mynd o nerth i nerth. Sut yr ydych chi, ddarllenwyr y blog, yn esbonio hyn? Neu – cwestiwn cyffiniol, er nad yr un cwestiwn yn union chwaith – sut mai Cristnogaeth ac nid Moslemiaeth sydd wedi ei tharo gan seciwlariaeth y byd modern?

AmGen Eisteddfodol

8 Awst

Dyma’r wythnos wedi hedeg, a dyma ninnau wedi cael ein gwala o “rîli” a “rîli rîli”.

Do, fe lanwyd bwlch gan yr Eisteddfod AmGen, ac rydym yn ddyledus i bawb a’i gwnaeth yn bosibl. Ambell beth yn croesi’r meddwl:

  1. Efallai i mi golli rhywbeth, ond a wnaed rhyw sylw o ganmlwyddiant awdl a phryddest Caernarfon 1921, dwy o’r rhai mwyaf ysgubol erioed?
  2. Pethau i’r Orsedd yw’r pwynt hwn a’r nesaf: nid oes yma ond teimlad lleygwr. Dan amodau normal mae ymdaith y gwisgoedd gwynion i mewn a thrwy’r pafiliwn yn ddifyr, bron na ddywedem yn ddramatig ac weithiau’n cyflymu curiad calon. Tipyn yn ddiniwed y cefais i’r soft shoe shuffle a welwyd eleni. Byddai’n well petai’r Orsedd yn ei lle, i’r golau ddod arni ar ganiad y Corn Gwlad. Ond gobeithio’n wir y gallwn ddychwelyd at yr hen drefn yn Nhregaron.
  3. Teimlaf fwy a mwy o chwithdod ar ôl Gorsedd Beirdd Ynys Brydain. Mae mytholeg yr Ynys, y syniad o Ynys Brydain Frytanaidd, yn rhan o’n gwneuthuriad. Os anghofiwn y pethau hyn fe gollwn yr allwedd i’n sefyllfa fel Cymry heddiw, ac i’n problem, ac i’r ateb iddi. Efallai yr hoffech ddarllen eto fy hen flog, 18 Awst 2019.
  4. Ac yn olaf heddiw. Eisteddfodwyr ac eraill, ar boen eich bywyd ac er mwyn popeth, cofiwch osgoi’r gystrawen anfad ddiystyr “doeddwn i heb ..” lle golygir “roeddwn i heb …” neu “doeddwn i ddim wedi …”. Sawl gwaith mae’n rhaid dweud?