Archif | Medi, 2020

Dau go’ Mericia

30 Medi

Ffrae ar teli neithiwr ’de co’, dau go’ Mericia ia? Un co’ o’i go’, ’de, a co’ arall wedi colli’i go’. Grêt o ffrae ia?

Ffordd ryfedd o’i roi

16 Medi

Darllen ar BBC Cymru Fyw y bore ’ma: ‘… dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, bod y penderfyniad yn “newydd siomedig” … ond cafodd ei groesawu gan grŵp gwrth-niwclear Pobol Atal Wylfa B …’. Fel yna hefyd Penawdau’r Newyddion am 9.00.

Yr OND CAFODD sy’n fy nharo i’n od. Onid A CHAFODD ddylai fod?

Rhag ailadrodd ar fore’r cyhoeddiad arwyddocaol a chwbl dderbyniol hwn, rwyf yn eich cyfeirio at nifer o hen flogiadau y dowch o hyd iddynt yn ddigon rhwydd yn yr archif; rhai ohonynt hefyd yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda.

3 Chwefror 2013 – Ynys Ynni

5 Chwefror 2014 – Hitachi heddiw …?

3 Mai 2015 – Ewch am y pecyn cyfan

26 Mawrth 2017 – Y ddamnedigaeth

5 Ebrill 2017 – Neges ddifrifol i ymgeiswyr

20 Ebrill 2017 – A oes yna ugain …?

27 Ebrill 2017 – Y Mater Mawr eto

§

Wedi’r cyhoeddiad, mae nifer o bethau i’w setlo er mwyn cau pen y mwdwl:

● Disgwyliwn gyhoeddiad gan y blaid wrth-niwclear, Plaid Cymru, yn croesawu’r newydd yn llawen a diamod.

● Beth am yr holl dir lle bu tyrchio a thryfalu ar gyfer yr atomfa nad-yw? Beth yw’r cynlluniau i’w droi yn ôl yn dir amaethyddol? Pwy a’i pryn?

● Beth yw hanes y maes parcio mawr tua Chaernarfon ar gyfer yr wyth mil o weithwyr ychwanegol?

● Fe “enillwyd” (dyfynodau trwm iawn) brwydr y peilonau pan gytunwyd i wario ffortiwn anferth ar gladdu’r linellau trydan dan y tir a than y Fenai dlos. Bellach gall y gwifrau a’r peilonau ddiflannu’n sydyn ac am ffracsiwn fechan fach o’r arian y bwriedid ei wario. Oes cwsmer i lwyth o haearn sgrap?

● PWYSICAF OLL. Fel y soniais yn rhai o’r hen flogiadau, mewn gwrandawiadau cyhoeddus ar y mater fe wnaed cyhoeddiad ‘o dop ei phen’, fel y dywedir, gan un o swyddogion cynllunio Gwynedd y byddid yn newid y polisi iaith, h.y. ei lacio neu ei ystwytho neu ei lastwreiddio, i wneud pethau’n haws i gwmni Horizon. YN AWR. (1) A gafodd y newid hwn ei gymeradwyo o gwbl gan y Cyngor cyfan, neu gan y pwyllgorau perthnasol? (2) Os do, a gawn ni sicrwydd yr eir yn ôl at y polisi gwreiddiol? Dylai rhai o’r mudiadau iaith yn awr bwyso am y sicrwydd hwn.

Dyna ni felly. Dim mwy o fwgiau te Horizon i gyrff a mudiadau diniwed. A, gobeithio, dim mwy o’r Hen Linell Bell hyd faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enwi corff arall a wnaeth dipyn o ffŵl ohono’i hun.

Plant Gwener

14 Medi

Bywyd ar y blaned Gwener? Oes siŵr iawn, fel y cofia pawb ohonom a ddarllenodd rifynnau cyntaf Eagle tua 1950. Yr oedd yno bobl, ac fe’u rhennid yn Ddiriaid a Dedwydd. Yn hanner gogleddol y blaned trigai’r Treens, creaduriaid sarrug, dinistriol, tebyg iawn i ddynol ryw heblaw am eu lliw gwyrdd; eu brenin oedd y Mekon, rhyw dinllach bach eiddil efo talcen mawr moel. Yn yr hanner deheuol trigain’r Therons, pobl glenia’ fyw, gwaraidd ac adeiladol, nes at yr angylion nag at y rhan fwyaf ohonom ni. Yn y diwedd fe aeth mei naps y Mekon yn ormod o lanc, a bu raid i Dan Dare a’i ffrindiau drefnu corfflu o blith y Gymanwlad Brydeinig i fynd i fyny yno a’i setlo. Pwy, wedi ei weld, a anghofia ruthr y Mowntis, y Gyrcas ac eraill o oreugwyr y blaned Ddaear yn gyrru’r cythreuliaid ar ffo? Hyd y gwyddom, ni laddwyd y Mekon, er iddo gwympo oddi ar y soser fach a oedd bob amser yn ei gario ryw lathen uwchlaw wyneb Gwener. Fel y Twrch Trwyth a’r Daleks, fe all ddod yn ei ôl.

Dyna un stori beth bynnag. Trown yn awr at Forgan Llwyd, a dyma’i ddarlun o ‘blant dan Venus’ yn ei gerdd hynod ddiddorol ‘Gwyddor Uchod’:

            Seren oer yw Venus dirion,
            Gwlyb a gloyw yn llithio’r galon,
            Yn llonyddu Mars ryfelgar
            Fel gwraig ddoeth a’i gwên yn hawddgar.

            Seren ddydd, mae’r haul i’w ffafrio,
            Ni fyn Venus fod oddi wrtho,
            Mamaeth cnawd a braster cnawdol
            Arian disglair, grisial nefol.

            Plant dan Venus, dynion digrif,
            Llawen, hawddgar ac annifrif:
            Caru cerdd, chwerthinog, anllad,
            Gwych eu llais, a da eu harogliad.

            Melyn wallt, wynebau crynion,
            Cydnerth gyrff a llygaid llawnion,
            Mwynaidd, gweddaidd, cymwynasgar,
            Ymadroddus a chymdeithgar.

            Dynion llonydd, anghyfreithus,
            A difalais, taclus, trefnus, – 
            Neu segurllyd a diofal,
            Mewn tafarnau aflan gwamal.

            Maent yn debyg i’r cŵn manaf,
            Ac i’r teirw a’r geifr ynfytaf,
            Fel cwningod neu betrisen,
            Fel aderyn to neu glomen.

            Drwy naturiaeth, gwych, godidog,
            Hylaw, hwylus, hael a heulog:
            Ond heb ddofi’r galon ofer  
            Ni chânt fyned i’r uchelder.

            Gwelent frynted yw chwant cnawdol,
            Gwenwyn melys, siwgwr diafol:
            Rhaid yw lladd y chwant yn fuan
            Neu fe ladd yr enaid truan.     

Darllenwch y gerdd gyfan yn Hen Lyfr Bach Cerddi Morgan Llwyd. Bargen aruthrol am £3.00.

Doniolwch colegol

1 Medi

Atodiad bach digri yn rhifyn cyfredol Golwg. Mae’n nodi ac yn dathlu un ai “ganmlwyddiant” Prifysgol Abertawe neu ynteu ganmlwyddiant “Prifysgol Abertawe”. Ni waeth ble gosodwn y dyfynodau, ond byddai eu gosod yn ein dwyn ychydig yn nes at gywirdeb ysgolheigaidd.

Iawn, rydym yn rhoi 1751 fel blwyddyn sefydlu’r Cymmrodorion, er i’r Anrhydeddus Gymdeithas fod yn anweithredol am gyfnodau a chael ei hailgorffori yn 1820 ac yn 1873.

O’r gorau, byddwn yn olrhain hanes yr Eisteddfod i 1176. Mae rhywbeth yn hynny.

Ac olreit, yr oedd sefydliad prifysgol yn Abertawe ym 1920, ac mae sefydliad prifysgol yno eto. Ai yr un sefydliad? Oni wnaed pob peth yn newydd yn 2007 pan newidiwyd y siarter gan greu “prifysgol annibynnol” chwedl atodiad Golwg ? Fel gyda chyn-golegau eraill Prifysgol Cymru, onid oes yna ryw anghysondeb bach mewn dathlu’r hanes hir a’r hunaniaeth newydd yr un pryd? Onid oes yma fymryn o feddu’r gacen a’i bwyta? Gorau awen, fe ymddengys, rhyw hanner gwirionedd.

Yn yr atodiad fe gawn y pethau arferol – “canrif o gefnogi’n cymuned”, “bwrlwm gweithgareddau”, “boddhad myfyrwyr”, “sgoriau uchel mewn tablau”, “darlithwyr cyfeillgar”, “lot o sbri”, “ymateb i’r her” &c &c. Yn wir fe gymerai’r rhain eu lle yn atodiad unrhyw goleg, dim ond newid y pennawd.

Pethau bach diniwed fel yna. A rhai pethau hollol gadarnhaol hefyd, brysiaf i ddweud. Ond yr hyn sy’n ychwanegu pinsiaid bach o hiwmor at yr atodiad yw’r panel o hanes a thraddodiadau Adran y Gymraeg. Enwir rhai o gewri’r cenedlaethau – a phob clod iddynt. Ond yr un llun a ddewiswyd i ddarlunio’r eitem yw llun yr unig aelod erioed, hyd y gwn, i gael cic-owt o’r adran ac o’r coleg. “Un arall o fawrion y genedl oedd Saunders Lewis a fu’n ddarlithydd yn yr adran o 1922 hyd 1937.” Ni sonnir sut y daeth y cyfnod hwn i ben!

Gofidia’r is-ganghellor nad yw’n bosibl, oherwydd yr haint, cynnal gweithgareddau i ddathlu’r “canmlwyddiant”. Finnau’n meddwl, ar gyfer yr arddangosfa, pa dri llyfr y byddem yn eu dewis i gynrychioli gwaith llenorion a meddylwyr Abertawe?

● Gan S.L.,  Williams Pantycelyn ? Cystal â dim.
● Gan J.R. Jones, Prydeindod, i ddathlu llwyddiant Prydeindod yng Nghymru.
● Rhywbeth i’r byd mawr Saesneg, Lucky Jim.

Am reswm arbennig y dyddiau hyn rwyf wrthi’n ailddarllen ac ystyried rhai nofelau hunan-ddychan academaidd, yn cynwys gweithiau Malcolm Bradbury a David Lodge, a chyda hwy nofel John Rowlands, Tician Tician, sy’n rhoi gwedd Gymreig ar ddiletantiaeth ein proffesiwn a’n hamheuon ynghylch diben ein bodolaeth ein hunain ar y ddaear: oes, chware teg, mae “cornel y Cymry” yn ystafell gyffredin coleg Caerefydd ! Blaenffrwyth y cnwd diddorol hwn oedd Lucky Jim (1954). Creadur diog a thrwstan yw Jim, yn llwyddo i greu rhyw lanast ym mhob sefyllfa ond yn dod trwyddi’n weddol iach ei groen yn nhraddodiad y gwrth-arwr picarésg. Gyferbyn ag ef gosodir pennaeth ei adran, cymeriad coeg a diflas – siwd a bôr. Lleolir y nofel nid yn Abertawe ond mewn prifysgol “daleithiol” yn Lloegr. Ond gan mai Kingsley Amis yw’r awdur, gwell i enw’r pennaeth fod yn “Professor Welch”.

Go dacia’r Corona ! Peth arall allasai fod yn wych ar gyfer y “canmlwyddiant” fuasai cynhyrchiad newydd o Problemau Prifysgol. Cellweirus ac eironig yw’r teitl, fel y cofia pawb sy’n gyfarwydd â’r ddrama, oherwydd nid ymboena’r cymeriadau am eiliad â dim o’r gwir broblemau. Ac yn wir problem fwyaf y Brifysgol yr adeg yr ysgrifennwyd y ddrama oedd bod llawer o’i mewn yn dymuno’i dinistr.

Bellach dyma wireddu’r dymuniad.

Ie, pwdryn yw Jim. Pwdrod mwy yw’r holl academwyr Cymraeg na chlywyd bw na be o’u pennau pan ddigwyddodd yr hyn a ddigwyddodd yn 2007.