Un peth am Corbyn, mae ganddo enw Cymraeg iawn. Peri meddwl am ‘Corbedyn’, llysenw Morrisiaid Môn ar Mr. Corbett, cydweithiwr i Lewis Morris.
Y peth arall am Corbyn, a’r peth mawr, yw ei fod wedi creu panig a hanner yn rhengoedd Llafur. Sut? Mae’r cyfan yn y gair ‘egwyddor’, sef y peth y mae gwleidyddion Llafur, yn draddodiadol, yn ei ofni’n fwy na dim.
Beth yw hanes arweinwyr o egwyddor ar ochr Llafur? (1) Gollyngwyd Keir Hardie yn ddiseremoni gan ei etholwyr ei hun, pobl Merthyr ac Aberdâr ac arweinwyr yr undebau llafur yn yr ardal, y funud y datganodd yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. (2) Ar ôl rhoi arweiniad clodwiw am flynyddoedd, trodd Ramsay Macdonald ar ei sawdl fel prif weinidog. (3) Disodlwyd George Lansbury gan ei gyd-Lafurwyr dan arweiniad Bevin, ar gwestiwn heddwch a rhyfel eto. (4) Trodd Aneurin Bevan hefyd ar ei sawdl ychydig cyn y diwedd, hynny’n drist iawn. (5) Ni chafodd Michael Foot fawr o gyfle, rhwng y crysbas mul, Rhyfel y Malvinas a phopeth.
Am arweinwyr eraill Llafur, buont un ai (a) yn ffigurau adain-dde yn eu hanfod, fel Attlee, Bevin, Morrison, Gaitskell (prif eicon adain-dde Prydain yr ugeinfed ganrif, oherwydd ei ymlyniad wrth arfau niwclear) a Callaghan, neu (b) yn ymgorfforiadau o’r egwyddor-o-ddim-egwyddor, fel Wilson. Kinnock, Blair, Brown. Bydd rhywun yn gofyn weithiau am ffigurau fel Alistair Campbell, Peter Mandelson a Jack Straw heddiw, a chyda hwy yr holl ymgeiswyr eraill yn yr etholiad presennol, pam na thrôn nhw’n Dorïaid dan un? Ond na, ni ddigwydd hynny chwaith. Sosialwyr ydyn nhw, ac mae un gwahaniaeth hanfodol rhwng Sosialydd a Thori. Mi geisiais ei esbonio yn fy llyfr Camu’n Ôl, tt. 173-4.
Onid sosialydd yw Corbyn? Onid sosialwyr oedd yr arweinwyr gwrthodedig a enwyd uchod? Dyna y byddent yn eu galw’u hunain mae’n siŵr, ond byddai ‘radicaliaid’ yn well gair. Annibynwyr oedd Foot a Benn.
Cymaint symlach oedd pethau ers talwm. Arweinydd y Ceidwadwyr yn ‘rhyw ddod’ allan o ryw ‘gylch hudol’. Ac ai gwir y stori fod Attlee wedi ei ddewis, gan guro Arthur Henderson, gan gyfrinfa neilltuol o fewn Transport House? Ni welais erioed lun o Henderson, i weld a oedd ganddo yntau ryw hen fwstas bach.
Llafur a democratiaeth ynghyd, dyna fformiwla am lanast. O na bai blaid yng Nghymru a allai fanteisio ar hyn. Ond na, achub teigrod, cau ysgolion, trethu poteli pop, o blaid ac yn erbyn niwclear, enw disynnwyr, ymgeiswyr jôc. Y nefoedd a’n helpo !