Rhai o’r cyfryngau’n adrodd ddoe mai un o ddymuniadau’r cyflwynydd Huw Edwards fyddai cael sgwrs â Lloyd George. Dyma ni felly …
HUW. Iarll Lloyd George o Ddwyfor ac Is-iarll Gwynedd, croeso i’r rhaglen. Mae’n fraint arbennig eich cael chi yma.
Ll.G. Diolch machgen i. Ydi mae’n hyfryd bod yn sŵn Hen Afon Dwyfor unwaith eto.
HUW. Fe ddown ni’n syth at gwestiwn yr awr. Beth fyddai eich cyngor chi i Boris Johnson y dyddiau hyn ?
Ll.G. Yn gyntaf, paid byth â thorri dy wallt. Yn ail, cofia’r hen dôn Jabez, a chana arni bob bora, ‘Os dof i trwy’r anialwch / Moliannaf fyth dy ras.’
HUW. Dau gyngor ymarferol iawn. Wedyn y dyddiau yma mae tipyn o broblem gyda’n hannwyl Deulu Brenhinol. Oes gyda chi ryw feddyliau am hyn?
Ll.G. Cofio’r hen frenin Siôr V yn dda iawn. Doedd dim llawer yn ’i ben o. Pobol syml gyffredin iawn ydyn nhw, a hwyrach ar y cyfan bod hynny yn eitha peth.
HUW. A’r hyn sy’n poeni pawb ohonom ni drwy’r byd ers dwy flynedd bellach yw’r Covid ofnadwy yma. Welwch chi ryw ateb?
Ll.G. Pa bryd y derfydd yr aflwydd hwn? Duw a ŵyr! Duw a ŵyr! Ond mi wn i hyn ’y mhobol i: fe fydd byw y Gymanfa a’r Eisteddfod, a bydd y Cymry’n dal i forio canu eu hen alawon a’u hen emynau.
HUW. Mae hynna’n mynd â ni’n ôl at wleidyddiaeth. Fel un a fu’n arweinydd ar glymblaid, wedi’r cytundeb diweddar rhwng Plaid Cymru a Llafur, beth fyddai’r cyngor chi i Adam Price?
Ll.G. Tyfa dy wallt. Tyfa fwstas. A chana bob bora ar hen dôn Capten Morgan, ‘Plant y Bryniau, heriwn dwyll a brad, / Creigiau Cymru wen fo’n castellu’n gwlad.’
HUW. Wedyn, tra byddwn ni wrthi, beth fyddai’ch cyngor chi i Syr Keir Starmer?
Ll.G. Pwy?
HUW. O’r gore, fe adawn ni hynna. Ond wyddoch chi am Jeremy Corbyn?
Ll.G. Gwn yn iawn. Ac mi ddeuda’ i wrthach chi: mae’r rhaid i’r Torïaid bob amser gael bwgan.
HUW. Wedyn mae Brexit, a’i effeithiau’n debyg o fod gyda ni cyn belled ag y gellir rhagweld. Sut rydych chi’n edrych ar hyn?
Ll.G. Ddoe bûm yn fy hen bentref, yn Llanystumdwy. Crwydrais drwy’r coed oedd gynefin i mi yn fy machgendod. Yno gwelais blentyn yn hel coed tân, a meddyliais am yr oriau a dreuliais innau wrth yr un gorchwyl hyfryd a phroffidiol, oherwydd bûm innau hefyd yn dipyn o backwoodsman ac fe ddysgais un profiad bryd hynny sydd o fantais i mi heddiw. Dysgais yn blentyn nad oedd fawr o bwrpas mynd i’r coed ar ôl cyfnod o dywydd llonydd a braf gan y trown yn ôl yn waglaw fel arfer: ond yn dilyn storm gref dychwelwn o hyd a’m breichiau yn llawn. Rydym yn wynebu tywydd garw. Hwyrach y cawn aeaf o stormydd fydd yn siglo’r goedwig, yn malu llawer cangen sydd wedi gwywo ac yn gadael llawer hen goeden wedi ei dadwreiddio. Ond pan gliria’r awyr medrwch fod yn sicr y bydd rhywbeth wedi ei ddwyn o fewn cyrraedd y bobl, a rydd wres a sirioldeb i’w bywyd llwyd, rhywbeth fydd yn gynhorthwy i ymlid y newyn, yr anobaith, y gorthrymder a’r camwri sydd ar hyn o bryd yn oeri cymaint o aelwydydd.
HUW. Anfarwol ! Fe all hwn fod yn gwestiwn anodd. Odych chi mewn sefyllfa i ddweud wrthon ni nawr beth yn union oedd eich amcan chi yn ymweld â Hitler yn 1936 ?
Ll.G. Wyddoch chi be, does gen i ddim rhyw gof clir iawn am hynny. Dim ond cofio’i fod o’n areithiwr mawr, peri i rywun feddwl am Hen Bregethwyr Cymru – John Elias, Christmas Evans, Williams o’r Wern …
HUW. Beth wedech chi yw siawns Cymru ym Mhencapwriaeth y Chwe Gwlad eleni?
Ll.G. Rhyw ffwtboliaeth anfywydol.
HUW. O’r gore, newid testun eto. Beth fyddai’ch cyngor chi i Gymro ifanc sy am ddechrau gyrfa?
Ll.G. Llundain yw’r lle.
HUW. Iefe wir?
Ll.G. Ond cofiwch hyn. Meddyliwch chi am afon Hafren. Mae hi’n cychwyn yn ffrwd fechan ym mynyddoedd Cymru, ac yn mynd ymlaen heibio i odre Pumlumon a thrwy ddolydd Maldwyn, ac yna croesi’r terfynau a dyfrhau’r dyffrynnoedd ffrwythlon drosodd yn Lloegr. Yna gwelid yr afon yn troi yn ei hôl i Gymru – hen wlad ei genedigaeth – ac yna’n ymgolli yn y môr. Pwy oedd yn dywedyd fod Hafren wedi troi ei chefn ar Gymru? Y mae hi yn llaw Duw, fel yr ydym ni i gyd. Felly rhaid i Gymry wasanaethu eu cenhedlaeth megis y mae Rhagluniaeth yn eu harwain. Pryd bynnag y cwympaf innau ar y ffordd, gobeithiaf gael gorwedd ym mynwes Cymru a deffro a gweled ei hen fynyddoedd.
HUW. A dyma fan addas rwy’n meddwl inni gymryd saib a gwrando ar record fach. Be fydd hi?
Ll.G. Beth am yr hen dôn Jabez?
- * *
Am ragor o berlau Dewin Dwyfor, mynnwch eich copi o Hen Lyfr Bach Lloyd George, £3, gan eich llyfrwerthwr neu gan dalennewydd.cymru.
