‘Ehangu cynllun i’r plant mwyaf disglair’ yw pennawd BBC Cymru Fyw heddiw wrth adrodd am fuddsoddiad ychwanegol gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yng ‘Nghynllun Seren’, ‘sy’n rhoi cymorth i ddisgyblion i ennill llefydd yn y prifysgolion gorau’.
Fe haeddodd Kirsty eirda yn y gorffennol, a hwyrach iddi gael peth ohono ar yr hen flog hwn, am ei hagwedd at yr ysgolion gwledig, – agwedd dipyn iachach nag eiddo ei dau ragflaenydd yn y swydd. Daeth y newid, gwaetha’r modd, yn rhy hwyr i achub rhai ysgolion a ddylai fod ar agor heddiw, yn cynnwys un o’m hen ysgolion i fy hun.
Ond heddiw rhaid gofyn, a yw’r Gweinidog mewn difrif wedi ystyried beth y mae’n ei wneud? Cyfeiria’r adroddiad unwaith eto at gasgliad adroddiad PISA; ‘roedd perfformiad disgyblion gorau Cymru yn is na mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.’ Wel oedd siŵr iawn. Fe ddylai fod, ar ôl yr holl allforio dros hanner canrif ar ein plant mwyaf galluog. Cynllun i barhau a chynyddu’r allforio hwn, ac i orffen dinistr y Cymry, yw ‘Cynllun Seren’. Roedd gan Darth Vader ei ‘Seren Angau’. Dyma inni un arall.
A chwestiwn bach wrth fynd heibio, onid oes ambell un o’r ‘prifysgolion gorau’ yng Nghymru bellach? Onid oedd ‘prifysgolion’ (h.y. cyn-golegau) Cymru i gyd yn mynd i fod yn WYCH ac yn ‘Ivy League’ a hyn a’r llall ar ôl bwrw ymaith iau’r hen Brifysgol Cymru?
Mae dyn yn blino traethu ar y pwnc hwn, ac nid yw dadl na dychan, na hwyl na her, fel petai’n cyrraedd i unman. Ond hwyrach yr hoffech ddarllen eto’r ddwy ysgrif ‘Y Cymro Twp’ a ‘Yr Hen, Hen Broblem’ yn y llyfr Meddyliau Glyn Adda, neu ar y blog, 4 Rhagfyr 2013 a 31 Awst 2017.
Gwnaeth Angharad Mair y pwynt hwn yn gryno ac yn rymus ar ‘Pawb â’i Farn’ nos Iau diwethaf.. ‘Dyma pam yr ydym yn dlawd,’ crynhodd mewn chwe gair. Diymateb oedd y gynulleidfa, a rheswm da pam. Oherwydd pwy yw’r rhan fwyaf o’r cynulleidfaoedd erbyn hyn? Y dosbarth proffesiynol Cymraeg, dosbarth â’i fys yn barhaol ar y botwm hunan-ddinistr.
A dychwelyd at fwriadau Kirsty Williams, sylwn mai distaw iawn yw gwleidyddion Plaid Cymru.
Pam tybed?