Archif | Mawrth, 2020

Ysgol Gyfraith Joe Biden, Prifysgol Bangor ….

11 Maw

A welwn ni hynny? Pam lai, a phrifysgolion Cymru wedi dechrau arferiad o enwi ysgolion cyfraith ar ôl ymgeiswyr Democrataidd aflwyddiannus ? Os Hilary Clinton yn Abertawe …

Gyda dyrnaid o ganlyniadau i law heddiw mae’n ymddangos, am y tro beth bynnag, mai’r di-ddim a’r anysbrydoledig Biden sydd ar y blaen i fod yn ymgeisydd yn erbyn Trump. Newydd da i Trump.

Trueni rywsut. Oherwydd ystyriwch ddigrifwch y sefyllfa a allasai fod ! Gyda Phrydain yn byped America ers blynyddoedd lawer, sut byddai hi petai Prydain adain-dde Boris yn byped i America adain-chwith Bernie? Byddai’n hwyl ofnadwy, ac ni byddai’r Sefydliad Prydeinig yn gwybod pa ffordd i droi. Ond yn ôl yr arwyddion heddiw, ddaw hi ddim.

Byddai’n werth i Bernie sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Dyna fyddai parhau’r ralïau, yr hwyl a’r her, calonogi pobl ‘Bernie or Bust’ ac ar ddiwrnod y pleidleisio rhoi mwy fyth o drwyn coch i’r Sefydliad Democrataidd am eu dichell a’u llygredd.

Ymlaen felly golegau Cymru, i enwi adrannau ar ôl Hubert Humphrey, Mondale, Dukakis, Al Gore ac anffodusion eraill ! Ond yn sicr, Biden i Fangor ! Wedi’r cyfan dyma’r coleg a wahoddodd, i agor cyfres newydd o ddarlithoedd er cof am un o’i athrawon Hanes, o holl bobl y byd, y dyn gwellt hwnnw Jack Straw, cymwynaswr mawr Pinochet ! Llwyr ddiffyg synnwyr a diffyg chwaeth ar ran pobl sydd i fod yn glyfar. Wyla, o Walia wen !

Galwad i’r gad !

2 Maw

Heddiw fe gawn ni anghofio am y coronafeirws, y llifogydd a’r newid hinsawdd, holl helbulon y Dwyrain Canol a’r byd yn gyffredinol, holl bantomeim Boris a Trump … oherwydd mae argyfwng newydd wedi taro gwareiddiad yn ddirybudd. Daw cryndod drosof wrth geisio geirio difrifwch y peth: gall – gall – y bydd raid i ddilynwyr rygbi dalu yn y dyfodol am wylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y teledu ! Ie, dyma’r newydd alaethus sydd wedi bachu penawdau blaen BBC Cymru Fyw a Golwg 360 y bore ’ma.

Ond diolch byth, mae gennym arweinwyr gwleidyddol sy’n fodlon sefyll a chael eu cyfrif gan fynd i’r afael â’r argyfwng enbyd hwn heb wastraffu eiliad yn rhagor. ‘Nid yw rygbi Cymru ar werth,’ cyhoedda Adam Price ar ran ei blaid wlatgar a diofn yn nannedd y dymestl hon. Wedi’r cyfan, mae ‘rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru’ mewn dygn berygl.

Newid cywair. Gofynnwn i ddechrau, faint yn fwy o bleidleisiau y bydd plaid Adam yn eu hennill ar gyfrif yr alwad hon i’r gad? Er mor ansicr yw pob darogan gwleidyddol, dyma fi’n mentro proffwydo heddiw: dim un.

Yna gofynnwn, pa bethau a ddylai fod yn ofal ac yn gyfrifoldeb ac yn flaenoriaeth gan blaid genedlaethol Gymreig heddiw a thros y misoedd nesaf? (1) GOFALU na ddaw yr un rhawiaid ychwanegol o’r MWD dros Fôr Hafren i gyffiniau Caerdydd a’r Fro. Mewn difri, beth yw CYNLLUN plaid Cymru i ddelio â hyn, ie i atal y peth? (2) GOFALU, hyd yn oed os golyga ddiarddel pob un o gynghorwyr P.C. Môn, y cadarnheir ac y sicrheir na welwn ni byth Wylfa B. (3) GOFALU nad adeiledir yr ‘adweithydd bychan’ yn Nhrawsfynydd. Mae tasgau eraill lawer, ond dyna ddigon am y tro.

Yn niffyg y blaenoriaethau hyn, ac yn wyneb y mwydro hollol bathetig heddiw am fater sydd ymhell islaw dibwys yng ngraddfa pwysigrwydd, mae dyn yn ymbalfalu am eiriau i gyfleu ynfydrwydd plaid fel hon, ac yn cael fod pob gair yn annigonol.

Daw teitl llyfr diweddar i’m meddwl – Wele Wlad ! Cofiwch ei ddarllen !