Ambell beth o’r dyddiau diwethaf. Weithiau trio cofio, crafu ’mhen, edrych ambell “stori blaenorol” chwedl Golwg 360.
● Symudiadau pleidiol a fydd efallai’n rhoi mwy o ddewis i ni’r etholwyr. Plaid Diddymu’r Cynulliad yn addo gwneud tipyn o sioe ohoni. Dwyn tipyn oddi ar y Torïaid, ac efallai oddi ar Lafur hefyd? Help bach i Blaid Cymru?
Ar y llaw arall, Llafur am roi ymgeiswyr o blaid annibyniaeth yn Arfon, Meirion-Dwyfor a Cheredigion. Cawn weld beth fydd gryfaf ym meddwl pleidleiswyr Llafur, eu hymlyniad wrth y label “Llafur” ynteu eu Prydeindod? Os yr ail, dyma ennill i’r Ceidwadwyr. Newydd nid mor dda i Blaid Cymru … ?
A rŵan Llafur-Annibyniaeth. Pwy fydd eich ymgeisydd ym Môn? A beth am Wrecsam, Delyn, Aberafan, Cwm Cynon, Blaenau Gwent, seddau Caerdydd … ?
● Syr Keir Starmer yn gwneud darllediad ar gefndir Jac yr Undeb. Y Guardian yn datgelu cynnwys adroddiad cyfrinachol o fewn y Blaid Lafur yn argymell “parch ac ymrwymiad at y wlad”. GOLWG 360 yn crynhoi: “defnydd o’r faner, cyn-filwyr, gwisgo’n smart ger y gofeb ryfel a.y.b. yn rhoi i bleidleiswyr synnwyr o arddel gwerthoedd gwirioneddol.” Llafur yn dod allan fel “Torïaid coch”? Be sy’n newydd? Rywsut ni weithiodd i Gaitskell yn y 1950au, ond fe weithiodd i Tony Blair. A’r enghraifft fwyaf llwyddiannus ohono yw buddugoliaeth ysgubol Llafur yn etholiad 1945, buddugoliaeth rheolaeth gymdeithasol a chydymffurfiaeth os bu un erioed. Attlee yn ddyn bach teidi. Bwstas bach. Wrth benelin Churchill drwy’r rhyfel, ond am gadw’r holl reoliadau yr oedd Churchill am eu bwrw ymaith. (Gweler fy llyfr O’r India Bell a Storïau Eraill, tt. 35-6.)
A sylwer uchod: “defnydd o’r cyn-filwyr”. Pryd y daw cyn-filwyr, ac o ran hynny milwyr, i ddeall mai cael eu defnyddio y maent? A fu unrhyw beth mwy di-chwaeth dros y dyddiau diwethaf na’r defnydd o’r Capten Syr Tom?
● Ond a fydd yna Iwnion Jac i Syr Keir ei lapio’i hun ynddi? Yn y Mail on Sunday roedd Peter Hitchens am ddyfeisio baner newydd i’r hyn a fyddai ar ôl o Brydain Fawr, gan roi lle i Gymru arni. Meddai’r pennawd: “Say goodbye to Scotland, put Wales on our flag – and let’s save England!” Ar ôl “so there goes St. Andrew’s Cross” roedd y colofnydd am “gywiro cam hanesyddol” drwy sodro’r Ddraig Goch, â thipyn o wyrddni dan ei thraed, ar ben Croes San Siôr. Tipyn o gawdel artistig, a chawdel cyfansoddiadol hefyd. A Chroes Andreas a’i chefndir glas wedi mynd, nid oes gwladwriaeth unedol mwyach, nid oes Prydain Fawr, ond cynrychiolir Cymru o hyd gan arwydd Lloegr, canys rhan o “this our kingdom of England” yw “this our principality of Wales” oddi ar 1536 a than nes digwydd rhyw ddaeargryn. A phroblem aruthrol arall: pa liwiau y byddai’r Red Arrows yn eu chwythu wedyn?
● Problemau Prydeindod eto. Yr Athro Russell Deacon o Goleg Gwent sy’n poeni’n arw, ac ni wnaf yn well na dyfynnu adroddiad Nation Cymru. “He claimed that younger people have ‘no sense of what it means’ to be British. … So you don’t find any kind of British institutions that push themselves in Wales. Things like for example the Imperial War Museum, there’s none of these in Wales. There’s no British Museum in Wales. It’s all Welsh institutions, so they’re not really seeing what the British side is, only what the Welsh side is.’” Ofnadwy onid e!
Ond yn rhan gyntaf ei gyfweliad mae’r Athro’n llawer nes ati, lle’r awgryma mai’r ffordd fwyaf tebygol i Gymru gael ei hannibyniaeth fyddai i Loegr ei chicio allan. Ie, cofiwn bob amser adnod Gwyn Alf, “We Welsh look like being the last of the British. There is some logic in this. We were, after all, the first.” A darllenwch eto y blog hwn, 3 Rhagfyr.
● A sôn am sefydliadau cenedl. Yn ystod dadl yn y Bae ganol yr wythnos, clywyd y sylw “Nid adeilad ar ben bryn yn Aberystwyth yw’r Llyfrgell Genedlaethol.” Finnau wedi meddwl … ond gwell imi lanhau fy sbectol mae’n debyg.
Hefyd, siŵr bod deng mlynedd er pan ddywedais yn rhywle fod yr unfed ganrif ar hugain yn tynnu ’mlaen ac mai arwydd o anaeddfedrwydd – y pryd hynny hyd yn oed – oedd sôn am lusgo pethau i mewn iddi.
● Tebyg y bydd etholiadau Senedd Cymru’n cael eu gohirio o fis Mai tan ddiwrnod Guto Ffowc. A fydd y dyddiad yn ddewis ffafriol i Blaid Diddymu, cawn weld. Ond un canlyniad da yw rhoi hanner blwyddyn arall i Blaid Cymru ailystyried ei phenderfyniad i alw’n syth am refferendwm annibyniaeth os daw hi i safle o ddylanwad. Mae ysgrifau doeth ar Nation Cymru wedi galw am ymbwyllo, a gallwn ddarllen rhybuddion taer Simon Brooks mewn trydariadau. Er mwyn y nefoedd, gadewch inni weld sut yr aiff pethau tua’r Alban yna, ac adeiladu wedyn ar y sefyllfa hollol newydd a all ddod i fod. Gweler fy mlog, 4 Rhagfyr.
● Neithiwr ddiwethaf yr oeddwn yn darllen sylw a dadogir ar Einstein: “Dau beth sy’n ddi-ben-draw, y greadigaeth a ffolineb dynion. Ac nid wy’n siŵr am y cyntaf.” A heddiw dyma ddarllen am lywodraeth Cymru’n ystyried prynu tir yr arfaethedig Wylfa B gan gwmni Horizon a’i gadw tan y dydd y gwelir rhyw ddatblygiad niwclear yno eto. Pa werth datganoli dan law pobl fel hyn? Fôt i Blaid Diddymu?