Archif | Ebrill, 2015

Gwagedd o wagedd

29 Ebr

Digwydd agor rhifyn mis oed o GOLWG a tharo llygad eto ar yr hysbyseb hon:

cymwysterau

Gan y rhagwelir y bydd y ‘corff newydd uchel ei broffil’ yn weithredol erbyn mis Medi, y tebyg yw fod y saith swydd un ai wedi eu llenwi erbyn hyn neu yn y broses o gael eu llenwi.

Ond beth petai yna anawsterau? Beth petai prinder ymgeiswyr cymwys?  Dywedwch rŵan, beth pe na bai’n bosib penodi Uwch Reoleiddiwr (Monitro a Chydymffurfio), dim ond Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio?  Pwy fyddai’n gwneud y Monitro a’r Cydymffurfio wedyn?  Beth petai raid cyfuno swyddi’r Cyfarwyddwr Cyswllt (Cymwysterau Cyffredinol) a’r Cyfarwyddwr Cyswllt (Cymwysterau Galwedigaethol)?  Sut y byddid yn dod i ben?  A allai un dyn bach ymdopi â’r holl Gymwysterau Cyffredinol a’r holl Gymwysterau Galwedigaethol yna yr un pryd, ynteu a fyddai hynny’n ormod o dreth ar fod meidrol?  A allai’r Uwch Swyddog Polisi weithredu o gwbl heb Bennaeth Polisi Strategol wrth ei benelin?  Neu yn wir, a allai’r Pennaeth Polisi Strategol ddod i’r lan heb Uwch Swyddog Polisi i roi pwniad iddo bob hyn a hyn?

Neu yn wir, beth petai hi’n dod i’r gwaethaf … ? Beth pe bai – na ato Duw – yn amhosib llenwi mwyafrif y swyddi pwysfawr ac anhepgoradwy  hyn?  Neu ddim un ohonynt?  Beth pe bai Cymru heb ei chorff proffil uchel y mis Medi hwn?  A fyddai olwynion gwareiddiad yn peidio â throi?  A fyddai’n ddiwedd y byd?

Os oes UNRHYW UN yn credu hynny, anfoned air, ac rwy’n addo cyhoeddi ei ateb ar y blog hwn.  Ac os oes, gwahoddaf ef neu hi hefyd i ateb y cwestiwn, be fuom ni’n ei wneud tan rŵan? Sut y llwyddodd gwareiddiad i oroesi hyd yma heb y corff arfaethedig, ‘Cymwysterau Cymru’?

O ran rhyw ddiawlineb, mi edrychais y wefan y cyfeirir ni ati.  Mewn llai na hanner eiliad roedd ‘adborth’ ac ‘asesiad’ wedi fy nharo yn fy nhalcen.  Yn fuan wedyn daeth ‘achredu’, ‘sgiliau hanfodol’, a’r camddefnydd anfad o’r gair ‘addysgu’ (‘addysgu pwnc’).  Digon! Diffodd!

Difrifoli yn awr.  Pa werth sydd, pa angen fu erioed, pa gyfiawnhad all fod o gwbl, i swyddi di-fudd, diystyr, dialw-amdanynt, di-bwynt, diwerth a di-ddim fel y rhain, a digon o rai tebyg iddynt mewn cwangoau diffaith a dienaid ar hyd a lled y wlad?   Pa fath bobl sy’n debyg o ymgeisio amdanynt, a’u cael?  Neu a’i roi fel arall, pa gymelliad a all yrru unrhyw un yn ei iawn bwyll i feddwl fod unrhyw werth mewn llenwi swyddi fel y rhain? Ni allaf feddwl ond am yr hen gymhelliad hwnnw a grynhowyd mor gofiadwy gan Dwm o’r Nant – ‘Pob teiladaeth rhag tylodi’.

Arwydd o salwch cymdeithasol a diwylliannol dwfn yw ein bod yn goddef y math o nonsens y mae’r hysbyseb hon yn ei gynrychioli a’r math o gyrff sy’n ei bedlera.  Mewn byd call a chyfiawn byddid yn creu diweithdra ar raddfa fawr ym myd y cwangoau a chyflogi’r cyn-swyddogion ar ryw waith buddiol ac angenrheidiol megis sgubo’r stryd.  A oes unrhyw ymgeisydd mewn unrhyw blaid yn yr etholiad hwn am addo hynny?   Tra rydym yn mwydro a phaldaruo am ‘gymwysterau’ a ‘sgiliau’ a ‘safonau’ mae’r wlad yn mynd yn dwpach dwpach.  Hoffech chi enghraifft fach o hynny?  Awdurdod Addysg Gwynedd, ie ar ganmlwyddiant a hanner sefydlu’r Wladfa, am roi ysgol newydd 3-19 oed yn y Bala dan reolaeth yr Eglwys Anglicanaidd !  Dyma inni griw o gynghorwyr a swyddogion heb wybod DIM am hanes diweddar Cymru !

Beth well na dyfynnu’r hen Dwm o’r Nant eto?

Gwagedd o wagedd, a llygredd sy’n llym,
Y byd a’i holl dreigliad yn dŵad i’r dim.

Canmlwyddiant Cythraul Ceredigion

12 Ebr

Newydd fod yn gwylio rhaglen S4C ar ganmlwyddiant cyfrol sgandalaidd Caradoc Evans, My People.  Ar ddiwrnod braf ym Mai 1956 aeth fy mam i Gymanfa’r Annibynwyr ym Mhwllheli, a daeth â phresant imi o’r dref, y gyfrol newydd sbon o’r wasg, Welsh Short Stories (golygwyd gan Gwyn Jones).  O’r dydd hwnnw allan bu gennyf ryw fath o hoffter at storïau Caradoc. Gwell imi roi mewn llythrennau bras eto, RHYW FATH.  Drwy’r blynyddoedd wedyn bûm yn troi yn fy meddwl y cwestiwn pam na allwn byth ei anwybyddu, na’i lwyr ddiofrydu.

Soniais dipyn amdano mewn darlith i Gymdeithas Hanes yr Annibynwyr, 1997, a chyhoeddwyd honno wedyn yng nghylchgrawn Y Cofiadur, rhif 62 (Mai 1998).  ‘Annibynwyr dan yr Ordd’ oedd ei theitl, a chyfeiriais at waith pedwar neu bump o awduron ar ddwy lan Iwerydd.  Yna …

*     *

At ein hawdur olaf. Fe ganwyd ‘Pererin wyf mewn anial dir’, yn unol â’i ddymuniad ef ei hun mae’n debyg, yn angladd Caradoc Evans. Ond wrth inni sefyll yn ôl, a’i weld yn erbyn cefndir gweddol eang, efallai y down i weld nad yw Caradoc, wedi’r cyfan, yn bererin mor unig â hynny. Mae ganddo rywbeth yn gyffredin â nifer o gymheiriaid eithaf amrywiol, ac rwyf am eu rhestru hyd at saith. (1) Oes, bid sicr, mae ganddo themâu yn gyffredin â’r tystion eglwysig a fu’n rhaffu celwyddau wrth y Comisiynwyr Addysg ganrif a hanner union yn ôl i eleni [1997]. (2) Yr oedd yr arfer llenyddol o ddarlunio Cymru fel rhyw le braidd yn afreal, a’r bobl fel rhyw greaduriaid hanner pan, yn bodoli cyn Caradoc, ac fe barhaodd ar ei ôl. Yr hyn a wnaeth Caradoc oedd creu darlun hunllefol yn lle’r darlun eidylig a oedd eisoes yn adnabyddus a phoblogaidd. Hynyna ar un ochr. Ond ar yr ochr arall, ystyriwch: (3) Y mae Caradoc, yn ei ffordd ei hun, yn cynrychioli’r un adwaith yn erbyn cefndir a magwraeth ymneilltuol, a’r un ymwrthod â honiadau Rhyddfrydiaeth, ag a gynrychiolir gan Saunders Lewis yn ei ffordd yntau: a’r ddau fel ei gilydd, yn y diwedd, yn methu â gollwng gafael. (4) Trowch at nofelau Elena Puw Morgan, neu at rai o straeon Moelona (dwy awdures a chanddynt gysylltiadau â’r un ardal â Charadoc): yma eto fe welwch fywyd gwledig lle mae digon o daeogrwydd a chaledwch calon, crafu a chribddeilio, a pharodrwydd i droi capel a chrefydd at bwrpasau isel a hunanol. [Nid wy’n sôn am Deulu Bach Nantoer, trowch at Storïau Moelona.]   (5) Trowch at ddramodwyr Cymraeg poblogaidd rhan gynta’r ugeinfed ganrif  –  D.T. Davies, R.G. Berry, W.J. Gruffydd, Idwal Jones a degau o rai llai adnabyddus: maent i gyd yn ffureta rhagrith, culni a gormes yn y gymdeithas wledig gapelaidd. (6) Meddyliwch am y llenorion Cymraeg a drodd y drol yng nghenhedlaeth Caradoc: Parry-Williams gyda’r Ddinas, Gwenallt gyda’r Sant, Prosser Rhys gydag Atgof, Kitchener Davies gyda Chwm Glo – fe bechodd Caradoc yr un bobl yn union ag a bechodd y rhain. (7) Beth bynnag arall oedd Caradoc, yr oedd yn Annibynnwr yn ymosod ar Annibynwyr eraill. Fe fu’n driw i’r rhan honno o draddodiad yr enwad a’i magodd, er iddo yn ei flynyddoedd olaf fynd yn wrandawr gyda’r Methodistiaid yn Horeb, y Groes Newydd. Pan ddywedodd ei wraig mewn gohebiaeth yn y Western Mail mai ‘Methodist Calfinaidd’ oedd o, fe neidiodd Caradoc i’w chywiro: ‘My wife … said I am a Methodist. I am not. I am a Congregationalist and just as bad as a Methodist’. Mae ganddo un llyfr, This Way to Heaven, heb Gymro ar ei gyfyl. Fe roddodd lonydd i wladwyr Rhydlewis am unwaith. Ond, yn y llyfr hwn hefyd, pryd bynnag y daw cymeriad i mewn sy’n gybyddlyd, yn rhagrithiol neu’n anniwair, mae Caradoc yn gofalu ei wneud yn Annibynnwr yn y fan!

Yr hyn sy’n gwneud Caradoc, yn y diwedd, yn arbennig ac unigryw yw’r ffordd sydd ganddo o ddethol. Rhan o act Caradoc yw anwybyddu talpiau helaeth iawn o’i fyd, neu gymryd arno nad yw’n gwybod rhyw bethau. Nid yw’n gyfrinach fod y ddau bregethwr y mae’n eu cystwyo gymaint, y ddau ‘Ruler of Capel Sion’ neu’r ddau ‘Religious of the Pulpit’, the Respected Davydd Bern-Davydd, a the Respected Josiah Bryn-Bevan, yn seiliedig, mewn rhan beth bynnag, ar ei hen weinidog ei hun, David Adams: ‘a man who might have been Hitler’s own schoolin’, meddai amdano. Yr oedd Adams yn ffigiwr gweddol ddadleuol yn ei oes ac o fewn yr enwad, oherwydd ei syniadau. Nid dyna gweryl Caradoc ag ef. Ym myd Caradoc nid oes diwinyddiaeth nac athrawiaeth na dim o’r cyfryw bethau. Nid oes awgrym fod Hegel na Darwin wedi bod wrthi erioed, nid oes adlais o’r ddadl rhwng llythrenoldeb ac uwchfeirniadaeth, na rhwng y ddiwinyddiaeth draddodiadol a’r ‘newydd’ fel y gelwid hi bryd hynny, na dim o’r dadleuon yr oedd David Adams yn eu canol. Fe allodd Caradoc wneud Ymneilltuaeth yn brif wrthrych ei gollfarn heb gyfeirio unwaith at ei chredoau hi, a dyma wahaniaeth pwysig rhyngddo a’i gyfoeswyr y dramodwyr Cymraeg, sydd bron yn ddieithriad â gogwydd gwrth-Galfinaidd cryf. Nid cwyno yr wyf am hyn, dim ond ceisio awgrymu mor bwysig yw dethol, cau allan, edrych drwy hanner llygad, fel rhan o ddull Caradoc. Yn y diwedd nid fel dychan y saif ei waith, ond fel gweledigaeth hunllefol bersonol o bobl ddiobaith golledig. Gwelwyd hyn yn lled fuan gan gyd-Annibynnwr: mewn sylw cryno, aeth W.J. Gruffydd heibio i’r holl wfftio ac at graidd y mater, ac mi gredaf fod ei ddisgrifiad y gorau eto:

Nid yw Mr. Evans yn pwrpasu nac yn cymryd arno draethu hanes, na rhoddi disgrifiad realistig o fywyd Cymru; rhyw Wlad y Tylwyth Teg o ddychryn, rhyw Annwfn pell annelwig ym myd y ffansi, sydd gan Mr. Evans, ac y mae harddwch a nerth mawr yn ei waith fel creadigaeth artistig.

Mae’n rhaid cael ambell i dderyn fel Caradoc. Roedd ganddo bwynt, a ffordd rymus, ddidrugaredd o’i wneud. Rhyngom ni a’n gilydd fel Annibynwyr, rwy’n fodlon cyfaddef fod gen i hoffter mawr o’i ddau lyfr cyntaf, My People a Capel Sion. Ond mae rhyw ddwy stori neu dair yn ddigon ar y tro.

[Fel Annibynwyr] nid ydym fawr gwaeth ar ôl y feirniadaeth yr wyf wedi bod yn sôn amdani. Nid collfarn Shakespeare na Brutus, na Hawthorne nac Arthur Miller, na hyd yn oed Caradoc Evans, sydd wedi dod â ni i’r cyflwr yr ydym ynddo heddiw, ond … pethau eraill, pethau y bydd yr Undeb hwn, mae’n bur sicr, yn eu hystyried a’u trafod eto eleni.

*      *
Ces gyfle i ddychwelyd at Caradoc wrth adolygu llyfr yr Athro M. Wynn Thomas (a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen heno), In the Shadow of the Pulpit : Literature and Nonconformist Wales.  Cyhoeddwyd yr adolygiad yn y cylchgrawn Diwinyddiaeth, rhif LXII (2011).  Wrth ystyried ychydig ar waith llenorion Saesneg o genhedlaeth Dylan Thomas, Gwyn Thomas a Rhys Davies, cododd M. Wynn Thomas y cwestiwn, pa un a ddaeth gyntaf yn hanes y bechgyn hyn, ai’r wrth-Ymneilltuaeth ynteu’r gwrth-Gymreigrwydd?  Mentrais ryw fath o ateb. Wedyn dyna droi am Rydlewis unwaith eto.

*      *
Ond y tu ôl i agwedd yr awduron hyn ac i’w mynegiant llenyddol ohoni, y mae un ffactor mawr arall, a’r enw arno yw Caradoc Evans. Yr oedd Caradoc o ran cefndir yn  gwbl wahanol i’w ddisgyblion, yn wladwr ac yn Gymro Cymraeg. Tystiodd rai troeon nad ewyllysiai unrhyw ddrwg i’r Gymraeg, er ei bod yn anodd gan lawer goelio hynny. Yn ei hanes ef, yr adwaith i’r capel a ddaeth gyntaf.

Yr oedd Caradoc yn llawer o bethau (ceisiais restru rhai ohonynt mewn trafodaeth o’r blaen, Y Cofiadur, 62). Yr oedd yn Gardi Drwg, yn darlunio Cardis Drwg fel ef ei hun. Yr oedd yn Annibynnwr, yn ymosod ar Annibynwyr eraill yn nhraddodiad gorau Annibynia.  Yn bwysicach na dim efallai, ac fel yr awgryma M.Wynn Thomas mewn brawddegau allweddol (t. 180), yr oedd yn Galfinydd wrth reddf. Buasai’n hapus gyda John Elias yn rhoi’r meddwon ar werth; yn lle hynny, oherwydd rhyw bethau yn ei hanes ei hun a’i deulu, rhoddodd y diaconiaid ar werth, a’r ddau ‘respected’, sef y gweinidogion, yn y fargen. A’r tro hwn, yn llai trugarog nag ym mhregeth John Elias, nid oes neb i ateb, ‘mi cymera’ i nhw’. David Adams, gweinidog capel Hawen a phatrwm tybiedig ‘the Respected Josiah Bryn-Bevan’ a ‘the Respected Davydd Bern-Davydd’ (neu ‘Hitler’s Own Schoolin’ fel y dywedodd Caradoc un tro) oedd prif ladmerydd y ddiwinyddiaeth ryddfrydol neu fodernaidd yng Nghymru ei ddydd.  Beth petaem yn awgrymu mai adwaith yn erbyn hyn, a’i dynfa ei hun at grefydd fwy ffwndamentalaidd, neu yn wir fwy brwmstanaidd, yw achos cynddaredd Caradoc yn erbyn ffigiwr cyfansawdd y ddau bregethwr?  Ar ôl troi’r awgrym lawer yn fy mhen, yr wyf yn penderfynu mai gormod temtasiwn fyddai ei ddilyn. Byddai hynny’n priodoli i Garadoc feddwl rhy ddosbarthus a dadansoddol; mae’n anodd dychmygu Caradoc yn ymboeni am bynciau fel ffydd a gweithredoedd, iawn digonol neu barhad mewn gras,  nac ychwaith am ddwy her gyfochrog esblygiad ac uwchfeirniadaeth. Calfinydd cynghreddfol ydoedd, anima naturaliter Calvinistica, yn gweld yr holl gymdeithas o’i gwmpas, ei bonedd ymneilltuol a’i gwreng, gormeswyr a dioddefwyr, dwl-ddiniwed a choeg-ddysgedig – oll yn syrthiedig anadferadwy ddiobaith, gan eithrio lleiafrif bychan bach o rai, efallai, â rhyw siawns iddynt, sef y meddwon a’r hanner-pan. Ym mhen hyn oll, ni allwn anwybyddu’r stori neu’r traddodiad yn ei gylch mai ei wir awydd yn fachgen a llanc oedd mynd yn bregethwr. Mewn pennod o’r llyfr, gan gydio mewn ymadrodd o eiddo’r Cymro Awstralaidd T. Harri Jones, cynigir mai ‘pregethwyr wedi eu handwyo’ (‘spoiled preachers’) yw pob un o’r awduron gwrth-Ymneilltuol. Mae’n sicr gennyf fod hynny’n wir, a’i fod hefyd yn rhan o wirionedd ehangach. Gan gofio fod gwahaniaeth rhwng dychanu ar y naill law, a phardduo, grwgnach ac enllibio ar y llall, da yw inni ein hatgoffa ein hunain pwy yw prif ddychanwyr Ymneilltuaeth yng Nghymru. Dyma hwy eto: Daniel Owen, Emrys ap Iwan, Tegla Davies; a chyda hwy, am  y tro,  Brutus a Charadoc: pregethwyr, neu bregethwyr manqué, bob un. …

I esgus-ddychanwyr plentynnaidd fel Gwyn Thomas, mae dynion yn wrthun os ydynt yn Ymneilltuwyr; i ddychanwr go-iawn  – Daniel Owen, dyweder, neu Emrys ap Iwan yn rhai o’i Homilïau disglair  – mae Ymneilltuwyr, ie hyd yn oed y rheini, weithiau’n wrthun am eu bod yn ddynion. Mae’r gwahaniaeth yn un hanfodol. Eto fe welir fy mod yn cynnwys Brutus a Charadoc Evans gyda’r dychanwyr, er na pherthyn iddynt ddim o gyfrwystra’r dychan gorau. Do fe ganfu Brutus rai pethau a oedd yn wir am ddosbarth o ymhonwyr a welodd eu cyfle pan oedd Ymneilltuaeth ar ei chynnydd, ac fe chwyddodd y rheini’n gartwnau bras.  Ac fe welodd Caradoc rai pethau sy’n wir am biwritaniaeth ym mhob man, ac am y gwladwr ym mhob oes: yn yr ail achos pethau digon tebyg i’r hyn a welodd Twm o’r Nant ymhlith ‘Ei Bobl’ yntau, gyda’r darlun o dyddynnwr cybyddlyd yn tyfu’n ddelwedd gyffredinol o hunanoldeb cibddall, babïaidd.

A yw ymosodiad yr awduron Eingl-Gymreig yn un o achosion dadfeiliad Ymneilltuaeth yng Nghymru?  Cred M.Wynn Thomas iddo fod yn ‘gyfraniad bychan ond arwyddocaol’.  Byddwn innau’n petruso honni hyd yn oed gymaint â hynny. Petai’r Caradoc ifanc wedi cael ei ddymuniad, ac wedi dod yn un o hoelion wyth y pulpud Annibynnol, ac am hynny heb sgrifennu gair o My People, rwy’n amau y byddai ‘Caersalem, Seion, Soar a Bethlehem’ wedi gwacáu yn union yr un fath, oherwydd y pethau mwy sylfaenol y ceisiais eu hawgrymu.

Ond mater o farn yw hynyna.  Gobeithio imi gyfleu imi gael budd a diddordeb mawr o ddarllen ac ystyried yr ymdriniaeth hon. Darllenwch hi, ‘people bach religious’!
*      *
ÔL-NODYN 1.

Wedi iddo ddychwelyd i Sir Aberteifi i fyw bu Caradoc yn gymydog am ychydig i Saunders Lewis. ‘Dau a adweithiodd yn erbyn Rhyddfrydiaeth ac Ymneilltuaeth,’ meddem efallai. Pa un bynnag am hynny, fe sgrifennodd S.L. tua’r adeg honno rywbeth fel hyn : ‘… fy nghymydog Mr. Caradoc Evans, sy’n ddyn mor wahanol i’r hyn y mae ei storïau’n ei awgrymu’.  Gan fentro meddwl fod ochr hael i gymeriad Caradoc, rhoddais ran iddo yn y stori ‘Wythnos yng Nghymru Fu’ yn yr hen gyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill.  

ÔL-NODYN  2.

O Rydlewis aeth Y Parchedig David Adams yn weinidog i Lerpwl.  Yr oedd brawd i’m tad yn aelod (neu efallai’n wrandawr) yn ei eglwys.  Bu ef farw’n ddyn ifanc un ar hugain oed.  Mae gennyf lythyr cydymdeimlad y gweinidog at fy nain.  Dyna fy unig gysylltiad, hyd y gwn, â ‘The Respected of the Pulpit’ neu ‘Hitler’s Own Schoolin’.

ÔL-NODYN 3.

Cofiwch ddarllen :

***  Hen Lyfr Bach Daniel Owen : Dewis Blaenoriaid 

***  Golygiad newydd Robert Rhys o’r Dreflan.