Archif | Rhagfyr, 2023

Iawn o syniad ?

30 Rhag

Tipyn o sbort fel arfer efo Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, ac eleni dyma restr ffrindiau Liz Truss i ychwanegu at y ffars.

Ryw flwyddyn, yn lle diwrnod yr anrhydeddau, beth am gael diwrnod talu iawn? Iawndal i bobl a gafodd gam dan law’r awdurdodau yn ystod y flwyddyn hon neu flynyddoedd cynt, a’r enghraifft fawr fawr y dyddiau hyn yw’r postfeistri a erlidiwyd mor erchyll. Ni all yr iawn byth fod yn ddigonol, ond dylai fod ar raddfa ddigon mawr fel ag i arddangos edifeirwch y gymdeithas am yr hyn a ganiatawyd. Yn sicr, talu gan y wladwriaeth, gan mai dan ei haden hi y digwyddodd yr anghyfiawnder, ond talu hyd at yr asgwrn hefyd gan y rhai a wnaeth y cam – y cyhuddwyr celwyddog, y cyfreithwyr a’r bargyfreithwyr a elwodd o’r achosion, y barnwyr calongaled, yr archwilwyr ariannol, y plismyn a’r swyddogion carchar. ‘Dim ond gwneud eu gwaith.’ Gwaith y Cythraul. Gweler blogiadau 21 Medi a 4 Awst, a’r dolennau o’r olaf.

Egwyddor ardderchog yn yr hen gyfraith Gymreig: mai yn erbyn y colledwr neu’r dioddefydd y gwneid y trosedd, nid yn erbyn Hywel Dda. Dylid adfer yr egwyddor hon.

Hefyd y nonsens a’r sarhad o roi ‘pardwn brenhinol’, yn fuan neu’n hwyr, i rywun a brofwyd yn ddieuog ar ôl derbyn cosb. Pardwn wir, dylai fod yn ymddiheuriad gan y Goron ac yn swm mawr o arian.

Pam nad yw ein gwleidyddion ceiniog-a-dimai yn trafod pethau fel hyn?

Gwyrth !

20 Rhag

Ar University Challenge y Nadolig heno, buddugoliaeth dda i dîm ‘Banger University’ chwedl yr holwr Amol Rajan. Ond mwy na buddugoliaeth hefyd – digwyddodd gwyrth! Daeth Banger University i fod yn 2007, ymhell ar ôl i’r pedwar bangiwr oedd o’n blaenau heno orffen eu hastudiaethau. Ai dyma’r tro cyntaf i’r ornest boblogaidd gael ei hennill gan dîm sefydliad nad oedd yn bod?

Newydd da o Ynys yr Iâ

19 Rhag

Tipyn o le ar Ynys yr Iâ heddiw, llosgfynydd wedi chwythu a’r fflamau’n llamu o holltau mawr yn y ddaear. Pethau’n dod o dan reolaeth fesul tipyn meddai awdurdodau’r wlad, sy’n gyfarwydd ag argyfyngau fel hyn.

A’r newydd da? Does dim atomfa ar ben yr un o’r holltau. Pam? Does dim atomfeydd yn y wlad. Dyna ichi bobol gall.

Holl drigolion Môn a Meirion, brysiwch i ddarllen llyfr ardderchog Mabon ap Gwynfor, Going Nuclear.

Dirgelwch y pum cant

12 Rhag

GOLWG 360 yn adrodd fod ‘Gwynedd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor sy’n destun premiwm treth gyngor y sir dros y flwyddyn ddiwethaf.’ Pum cant yn llai o’r rhain oddi ar fis Tachwedd y llynedd, medd yr adroddiad,

Be sy wedi digwydd iddyn nhw? Adroddir bod ‘y cyngor yn ceisio adnabod y rhesymau am y gostyngiad’, a dyfynnir aelod cabinet, nad oes ‘dim digon o dystiolaeth i ddweud bod hynny o ganlyniad i’r premiwm ei hun.’

Tipyn o ddirgelwch felly, ac ni allwn ond dyfalu:

● I gyd wedi mynd yn gartrefi parhaol, cysurus, fforddiadwy i genhedlaeth newydd o Gymry ifainc? Go brin …

● Rhai, fel y dyfala’r Cyngor, wedi mynd yn fusnesion, h.y. unedau gwyliau hunanarlwyo?

● Ambell un – gwn fod un – wedi ei drosglwyddo gan deulu o Gymry i aelod o’r teulu? Busnes costus, ond cyfraniad bach tuag at y PETH MAWR a’r PETH PWYSIG, sef CADW MEDDIANT GAN GYMRY.

● Rhai wedi mynd yn ‘gartrefi parhaol’ i deuluoedd Mewnlifiad, gan nad oes premiwm ar eu ‘hail gartrefi’ yn Lloegr? Nid oes gennyf unrhyw ystadegau ar hyn, ond mi glywais ei fod yn digwydd.

Ar fater tai yn gyffredinol, mae gan Gyngor Gwynedd, fel cynghorau eraill, waith ailfeddwl. Pryd yr ydym yn mynd i wynebu’r ffaith mai GORMOD O DAI SYDD YNG NGHYMRU, a DIM DIGON O GYMRY I’W MEDDIANNU? Ryw sut neu’i gilydd, ac fel rwyf wedi dweud droeon, nid yw’n hawdd, rhaid dyfeisio rhyw gynllun fel bod Cymry’n medru meddiannu’r stoc sydd ar gael. Hyn yn hytrach na chodi mwy o dai, peth na bydd ond yn dwysáu’r broblem.

A dyfynnu adroddiad GOLWG 360 eto, ‘Cafodd penderfyniad ei wneud yn y cyfarfod [9 Rhagfyr] i beidio â gwneud unrhyw newid i drefniadau’r premiwm treth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.’ Dim eithrio brodorion felly? Tila iawn.

Rwyf wedi ceisio ymresymu â’r cynghorwyr ar y mater hwn. O blith y 60+, tri ateb personol, a rhyw ddau neu dri ymateb awtomatig. Ol-reit hogia, dim fôt, fel rwyf wedi dweud o’r blaen.

Ac yn y cyfamser, gan nad yw rhyddiaith blaen yn tycio, beth am help yr Awen?

LLETY ARALL

(Ymddiheuriadau i T.H.P.-W.)

Mae’r corn yn mygu ambell ddiwrnod oer,
A rhywun yno weithiau’n hwfro’r llofft,
A rhai yn synnu, rhai yn beio’r lloer,
A meddwl bod ni’n dechrau mynd yn sofft.
A rŵan dyma Gyngor doeth ein Sir –
Ydi Plaid Cymru wedi mynd o’i cho? –
Yn cosbi brodor sydd yn DAL EI DIR
A chadw’i dipyn troedle yn ei fro!
Be wnawn ni, codi clamp o row
Yn wyneb y fath bolisïau cam?
Does dim ond dal i hwfro dow i dow.
Dyna fel mae hi. Ac mi wn paham,
Sef jest rhag ofn i rywun dros y berth
Ddechrau cael syniad fod y lle ar werth.

Dwy Stori o’r Alban

3 Rhag

(1) Pôl gwahanol.

Gwyddom oll mai ‘un pôl sy’n cyfri’ yn y diwedd, ond mae pôl gwahanol yn ddifyr weithiau, ac fe gafwyd un yr wythnos diwethaf. STV ac Ipsos Mori oedd wedi cynnal ar arolwg gan ofyn i sampl o’r Albanwyr ‘i bwy y byddech chi’n pleisleisio pe bai etholiad cyffredinol San Steffan heddiw?’ Yr atebion:

% newid% seddau
SNP40– 148
Llafur30+ 17
Ceid.15– 1dim
D. Rhydd6dim2
Gwyrdd3dimdim
Arall5??dim

Stori go wahanol i eiddo nifer o bolau eraill oddi ar ‘Ddiwrnod Fred West’ y Gwanwyn diwethaf, a stori sy’n awgrymu mai cysgu yr oedd cenedlaetholwyr Rutherglen ddiwrnod yr isetholiad, nid wedi marw.

Un peth go od, cefnogaeth y Ceidwadwyr yn dal yn bur wastad at 15%, ond eto colli eu seddau bob un. Hyn yn awgrymu gogwydd syth ar Lafur mewn pump o seddau cyn-Dorïaidd, ond dim byd i helpu Llafur yn seddau’r SNP, sef yr hyn yr oedd y Sefydliad wedi mawr obeithio amdano, a’r hyn oedd yn mynd i sgubo’r SNP oddi ar y map a chwalu’r breuddwyd o annibyniaeth.

Ac yn yr un arolwg, IE dros annibyniaeth, 54%, y gorau ers tro byd os nad erioed.

Llwyddodd y coup yn gynharach eleni, ac arno holl nodau’r ‘wladwriaeth ddofn’ Brydeinig, i ddisodli yr hon a alwodd un o’r sylwebwyr y diwrnod o’r blaen ‘yr arweinydd Albanaidd mwyaf llwyddiannus oddi ar Robert the Bruce’. Ond os oes rhyw sylwedd yn y pôl hwn, nid yw’r cynllwyn wedi lwyddo yn yr amcan canolog. Diddorol.

(2) Cau adrannau prifysgol.

Hanes fod Prifysgol Aberdeen yn bwriadu cau nifer o’i hadrannau iaith a llenyddiaeth. Rhestrir Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg … a Gaeleg. Y mae llawer o bobl yn anhapus dros ben, a changen y brifysgol o’r SNP wedi cychwyn ymgyrch i wrthwynebu.

Ydyn, mae pynciau iaith a llên ar encil, does dim amheuaeth, gydag adrannau ieithoedd modern yn cau neu mewn perygl yn rhai o brifysgolion Lloegr, a hyd yn oed adrannau Saesneg yn dechrau teimlo’r wasgfa ac yn troi at bethau fel ‘comics’, ‘pop’ a ‘sgrifennu creadigol’ i geisio cadw’r blaidd o’r drws.

Pwynt da gan Neil Shadrach mewn ymateb i’r blog, 27 Tachwedd. Ydyw, mewn rhyw ystyr, mae’r We a’r ‘cyfryngau cymdeithasol’ wedi rhoi rhyw ail wynt i ddarllen, ac wedi newid ychydig ar ogwydd y chwyldro cyfathrebol yr oedd Marshall Mcluhan yn sôn amdano yn y 1960-70au. (Ac nid cymeriad allan o High Noon yw’r Marsial, gyda llaw.) Darllen, ond darllen pytiau, a hynny’n eithaf brysiog. Heb amheuaeth, rydym yn mynd yn llai abl i ‘ddarllen yn ddwfn’ i ddilyn trywydd neu ymresymiad ac ymateb iddo. Os yw ‘mynd yn llai llythrennog’ yn gyfystyr â ‘mynd yn llai llengar’, mae’n digwydd.

Os oes i hyn ei effaith ar adrannau iaith a llên yn gyffredinol, naturiol yw fod iddo effaith ar adrannau Cymraeg y colegau, problem ‘yr hen bwnc amhoblogaidd’ yr ydym wedi ei thrafod o’r blaen (e.e. Meddyliau Glyn Adda, t. 45.) Mae iddo’i effaith hefyd – a choeliwch chi fi – ar y sawl sy’n ceisio golygu, cyhoeddi … a gwerthu rhai o glasuron llên y Cymry!

Mae peth arall tu ôl i fwriad Prifysgol Aberdeen, sef rhagdyb, lein ffasiynol, ideoleg ddifäol fod yn rhaid i adran brifysgol fod dros rhyw hyn-a-hyn o faintioli cyn gallu parhau o gwbl. Un o ddaliadau’r polisi ehangu oddi ar ddechrau’r 1970au sydd yma, ac yn ddiweddar gwelsom ei effaith mewn cau nifer o’r pynciau sylfaenol a thraddodiadol, celfyddydau a gwyddorau fel ei gilydd, mewn ‘prifysgol’ nid nepell o’r tŷ hwn. Mae rhai pynciau nad prifysgol hebddynt, ac y dylid eu ‘proffesu’ gan y sefydliad hyd yn oed os mai hanner dwsin sydd am astudio pob un.