Archif | Medi, 2014

Ffitio poced

29 Medi

Dyma gyfres newydd o lyfrau i ffitio poced y Cymro – yn y ddwy ystyr.

taflen llyfrau bach

taflen llyfrau bach 2

Ffitio HOSAN NADOLIG hefyd.

Cofiwch y PECYN BARGEN !

Llais yr ifanc

23 Medi

Ie, Ysgol Profiad.  Mae rhywun yn cael rhyw achos i ailfeddwl o hyd. Mi sgrifennais ar 12 Rhagfyr 2012:

“Tipyn o sôn y dyddiau hyn am estyn yr etholfraint, sef yr hawl i bleidleisio, i ddau ddosbarth o bobl yn arbennig, plant 16-18 oed a charcharorion. 

“Ymateb cyntaf yr hen Glyn Adda? Hm … wn i ddim …. Mae’n fy nharo i fod un peth go bwysig yn gyffredin i’r ddau gategori hyn. Eu bod yn geidwadol. Yn fy nghof i beth bynnag – efallai fod pethau wedi newid erbyn hyn – rhyw greaduriaid bach digon adain-dde oeddem ni hyd at yr un-ar-bymtheg, ac efallai dipyn dros hynny. Mae’r mwyafrif, rhaid derbyn, yn para’r un fath weddill eu hoes; ond mae rhyw nifer ohonom, digon weithiau i ffurfio lleiafrif gweithredol, wrth nesu at y deunaw oed, yn dechrau gofyn beth sydd o’i le ar ein cymdeithas a’n byd, sut y gellir eu newid, a beth yw ein cyfrifoldeb ni yn hynny.    Carcharorion wedyn. Nid troseddwr yw pob carcharor wrth gwrs; mae’n debygol, ar bob adeg, y bydd rhyw nifer bychan mewn carchar ar gam, a bod rhyw un neu ddau o garcharorion cydwybod yma ac acw. Ond troseddwyr yw’r mwyafrif mawr mawr, hogiau proffesiynol sy’n credu fel mater o egwyddor mewn torri deddf yn hytrach na’i newid.

“Ennill i blaid Cameron felly, y ddau dro? Neu, yng Nghymru, i Lafur? Fe all fod. Hyd yma nid yw’r Ceidwadwyr wedi eu hargyhoeddi, na llawer o’r gwleidyddion Llafur chwaith.  Y 16+ i gael pleidleisio yn refferendwm yr Alban? Unwaith eto, wn i ddim …  Ond diau fod Alex Salmond yn gwybod ei bethau.”

Wel, ar y pen hwn o leiaf, ymddengys fod Alex yn gwybod ei bethau. Hanner cant a phedair oed oedd y cefn deuddwr, medd y dadansoddwyr; yr ochr isaf, IE, yr ochr uchaf, NA.  Y cywion iau mor gryf o blaid (70 +) ag oedd taid a nain yn erbyn. Clywais esboniad credadwy iawn yn nhermau’r technolegau cyfathrebu: yr ifanc, meddir, yn dilyn y “cyfryngau cymdeithasol”, drwy’r We; a’r hen yn coelio’r “cyfryngau torfol, traddodiadol”, sef y wasg gyfalafol a’r ddwy brif sianel deledu.

Beth bynnag arall fydd canlyniad refferendwm yr Alban, fe all mai un canlyniad fydd “magu blas chwaneg” yn y mater hwn.  Oddi ar flwyddyn hanesyddol 1956 mae byd cerdd, adloniant, ffasiwn a rhai pethau eraill wedi bod yn dra awyddus i apelio at y rheini y byddai’r hen, hen G.A. yn dal i’w galw yn “blant hŷn”  – “arddegau” meddai’r rhan fwyaf, syniad a gydiodd ar raddfa fawr yng ngwledydd Prydain y flwyddyn honno, wedi ei fewnforio o America.  Pa blaid sydd am ddweud ei bod yn ofni “pleidlais yr ifanc”, neu heb ddymuno ei chael ?

Felly fe all ddod.  Beth fyddai’r effaith yng Nghymru, dyn a ŵyr !  “Beth amdanoch chi, bobl ifainc Ysgol George Thomas yn y cefn yn fan’cw?”  “Wel … sort o … Yn bersonol, fel person ifanc, dwi’n meddwl, fatha, mae fo ddim rîli rîli pwysig i, sort o, person ifanc fatha fi. So.”

§

Un egwyddor fawr arall cyn inni adael pleidlais yr ifanc.  Dylai myfyrwyr bleidleisio gartref.  Gwnâi wahaniaeth sylweddol mewn o leiaf un sedd yng Nghymru, Ceredigion.  Ar Gyngor Gwynedd golygai golli un sedd gan Blaid Cymru ym Mangor; y tro diwethaf gwelsom ei chynrychiolaeth yn ymfudo en bloc ganllath i fyny’r ffordd, o un ward i’r nesaf, pan symudwyd Neuadd John Morris-Jones.

§

Ar fater pleidlais i’r carcharorion, deil G.A. yn ddiedifar.  Y dyddiau hyn, UKIP fyddai’n medi’r cynhaeaf yma. A dychmyger refferendwm ar grogi yn yr etholaeth hon !  Dyhead calon pobl ddrwg yw credu fod rhywrai’n waeth na hwy eu hunain.   Dyhead yn y byd tu allan hefyd, am mai creadur drwg yw dyn.

Tro i’r Alban

22 Medi

Awdur gwadd heddiw: Gethin Jones

Hon mae’n debyg oedd noson fwya digalon, siomedig ac isel fy mywyd. Tebyg iawn i’r profiad o golledigaeth, ond hyd yn oed yn waeth rywsut.

Wedi cychwyn o stesion Bangor am un ar ddeg y bore gyda fy nghyfaill o Radio Ysbyty Gwynedd a chriw mawr o fyfyrwyr ifainc o  Brifysgol Aberystwyth, yr oeddwn yn hynod hyderus y byddai’r ochr IE yn ennill yn bur gyfforddus neu hyd yn oed chwalu yr ochr NA yn rhacs,  – yn enwedig ar ôl yr holl waith caled diflino gwych gan yr ochr IE. Nid wyf erioed wedi profi nac yn  mynd i brofi ychwaith byth eto ymgyrch gystal â hon. Ymgyrch ddoniol, ddychanol, bositif, hwyliog, gynhyrfus, egnïol, glyfar a gwreiddiol.

Wedi cyrraedd Caeredin am bedwar y prynhawn hwnnw, cefais fy nharo yn syth gan faint o sticeri IE oedd o gwmpas:  bron iawn bawb o’r to iau oedd yn mynd heibio yn gwisgo un. Wrth gymryd tacsi  o’r stesion dyma ni’n dau’n  gofyn i’r  gyrrwr a oedd wedi pleidleisio. Oedd, meddai ef,  i’r ochr IE, ac roedd yn credu fod yr ochr honno yn mynd i ennill yn hawdd. Wedi i ni dipio’r gyrrwr yn fwy hael na’r arfer, dyma fynd i mewn i’r hostel. Hon oedd un o’r hosteli butraf  a welais erioed, os nad y waethaf. Gyda llaw enw’r lle ydyw Brodies ar y Stryd Fawr. Lle i’w osgoi. Yr oedd mor aflan nes penderfynodd y ddau ohonom ollwng ein bagiau yno a mynd allan yn syth ac efallai peidio mynd yn ôl yno y noson honno, hyd yn oed os oedd rhaid cysgu ar fainc.

Allan â ni am rywbeth i’w fwyta. Môr o IE gwyn a glas ym mhobman. Erbyn hyn roeddwn yn fwy postitif fyth. Nid yw Caeredin yn lle cenedlaetholgar o bell ffordd, ond roedd gweld yr holl geir â sticeri IE yn chwifio baneri yn arwydd da. Nid oedd yr ochr NA yn weledol o gwbl. Hyd yn oed petawn yn awyddus i fynd i ffraeo a chwffio gyda Phrydeinwyr, nid oedd hynny yn bosib achos nid oedd dim o’u hôl yno.

Rhaid dweud, yr oedd digon o gefnogaeth o Gymru yno, rhai yn gweithio yn rhoi pamffledi allan. Cafwyd cefnogaeth gref iawn o Gatalonia a gwlad y Basg hefyd.

O gwmpas yr wyth o’r gloch penderfynodd y ddau ohonom fynd i lawr at Senedd Holyrood i weld a oedd modd gwylio’r canlyniadau ar sgrîn fawr. Nid oedd yno sgrîn, dim ond criw eitha mawr o gefnogwyr IE, y plismyn, a dau neu dri o’r NA yn dal Jac yr Undeb fawr i fyny a golwg fel ynfydion Bangoraidd ar eu hwynebau ynfyd. Dechreuodd criw ohonom ganu “The Yes side’s having a party and the No’s have gone to bed” a “Yes, yes, yes”. Ond fe ddaeth gweision yr adain dde i’n tawelu.

Penderfynodd y ddau ohonom decstio un o’r criw Aberystwyth i weld ym mha le yr oedden nhw yn y ddinas. Cafwyd neges yn ôl i ddweud eu bod lai na dau gan llath i ffwrdd mewn tafarn IE yn gwylio’r cwbl ar deledu. Penderfynwyd mynd yno. Wrth ddisgwyl i fynd i mewn dechreuais sgwrsio gyda chriw o fyfyrwyr Albaniadd oedd yn un plastar o sticeri IE. Newydd bleidleisio o blaid annibyniaeth ac yn ffyddiog o fuddugoliaeth. Yr oedd un Sais o fyfyriwr yn eu plith oedd â sticer IE ar ei dalcen ond a oedd wedi pleidleisio y ffordd arall ! Nodweddiadol, meddwn. Mi fyddai hyn yn cael ei chwyddo  hanner can mil gwaith drosodd yng Nghymru.

Wedi mynd i mewn i’r dafarn orlawn, boeth a chwyslyd, sylwodd y ddau ohonom fod cynrychiolaeth gref o Gymry yno. Y rhai yr oeddym wedi eu cyfarfod yn barod ac ambell un arall o Brifysgol Caeredin a oedd wedi pleidleisio o blaid. Gwahanol iawn oedd y rhain i’r giwed afiach o gywion Cymry gwellt, tatws poeth. a oedd yn cael eu holi gan y BBC y noson honno,  – i gyd wedi datgan yn glir eu bwriad o rwystro annibyniaeth.

Daeth y canlyniad cyntaf i mewn.  Orkney oedd hwn. Rhywbeth fel tair mil o blaid a phum mil yn erbyn. Doedd dim i boeni amdano yma, meddyliais. Poblogaeth fechan o Norwyaid a chenedlaetholwyr Prydeinig yw’r rhain a byddai pleidlais fawr i’r IE  yn Glasgow a Dundee yn eu dileu yn syth. Ond erbyn y pedwerydd canlyniad sef Ynysoedd y Gorllewin,  suddodd fy ngobeithion a gobeithion pawb arall yn yr ystafell. Dyma etholaeth sydd wedi ethol  yr SNP i San Steffan ers 1970, ac wedyn i Holyrood.  A heno’n dod allan â mwyafrif da i NA.  Diffoddwyd y teledu yn syth a mi drodd yr awyrgylch fel cnebrwng. Teimlais fel dyn wedi cael ei daro yn ei fol â bat criced, a chi yn cnoi fy llaw yr un pryd tra’n cael y llun afiach yma yn fy mhen o  Neil Kinnock, Owen Smith, Gareth Edwards, Eddie Izzard, Ian Rush, George Galloway, Dan Snow, Rob Brydon, Barack Obama, Eluned Morgan, y dyn gwallgo ar Question Time yn bloeddio “The Highland Regiments!”, ac un hanner y gynulleidfa o raglen affwysol arall Pawb â’i Farn o Gaeredin.   Y rhain i gyd yn chwerthin am fy mhen.

Y teimlad gwaetha i mi ei gael  erioed oedd gadael y dafarn a dechrau cerdded yn ôl i’r cwt chwain o hostel yn gwybod fod y Sefydliad Prydeinig a’r bobl difetha hwyl wedi ennill. Mae’n debyg drwy dwyll, fel yr awgrymir erbyn hyn. Wedi cyrraedd y cwt chwain, dyma roi fy mhen i lawr ar y gobennydd budur drewsawr a syrthio i gysgu.

Cefais fy neffro am chwech y bore wrth glywed bloedd fawr o “NO, NO, NO”. Gêm ar ben, meddwn. Clywodd fy ffrind o’r ystafell arall “Rule Britannia” yn cael ei chanu yn rhywle. Teimlais y bore hwnnw fel dyn wedi cael andros o gweir gan Mike Tyson a Mohammed Ali yr un noson. Cefais gadarnhad gan fy ffrind am wyth y bore fod “NA” wedi ennill. Penderfynwyd gadael y twll lle yn syth a mynd adref  ddiwrnod yn gynnar.

Roedd yr awyrgylch y tu allan y mwyaf digalon a fflat. Dim golwg o ddathlu yr ochr negyddol. Mae ci sy’n brathu yn mynd yn ôl i’w gwt. Petai IE wedi ennill mi fyddai’r lle yn llamu a dawnsio. Alban annibynol, gyfoethog, lewyrchus, deg, ddi-niwclear. Yn lle hynny dim ond dydd Gwener arall digalon. Yr un hen stori.

Yr oedd fy ffrind wedi dweud o’r dechrau, ers dros flwyddyn,  ei fod bron â thorri ei fol isio i’r Alban gael ei hannibyniaeth, ond yn gwbl grediniol nad oedd hyn am ddigwydd. Dywedodd cyn y canlyniad, hyd yn oed petai yr ochr IE yn ennill na fyddai’r Sefydliad Prydeinig yn caniatáu annibyniaeth. Mi fyddai’r rheini yn medru rigio hyn mor hawdd â rigio dau ryfel anghyfreithlon.  Yn ogystal yr oedd fy nghyfaill wedi dyfalu canran y bleidlais yn berffaith. Yr oeddwn wedi cael bet deg punt yn ei erbyn, yn ogystal â bet arall gyda siop fetio y byddai’r IE yn ennill.

I roi halen ar y briw cefais wybod ar y trên adref fod Alex Salmond yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd yr SNP.  Gweld wedyn, ar Wings over Scotland, ymateb anwaraidd yr ochr NA mewn terfysg yn Glasgow. Mae ffasiwn beth â chollwrs sâl, ond enillwyr sâl yw’r pennau defaid Neo-Natsiaidd hyn. Eu cri oedd “No surrender! No surrender! ”  Dyma bobl newydd ildio grym i San Steffan a cholli gwerth triliwn o bunnau o olew Môr y Gogledd.  Ni thynnodd y rhaglenni newyddion sylw o gwbl at eu hymddygiad.  Oes rhyfedd bod llawer yn penderfynu “stwffiwch eich trwydded deledu” ?

Syniad gwyllt dyn gwellt

21 Medi

Fe all un peth, neu beth arall, fod yn wir.  UN AI (a) mae’r chwarae ar ben. Mae’r mudiad cenedlaethol yn yr Alban wedi ei cholli-hi’n derfynol:  NEU (b) fe all godi eto.  Un sy’n ofni yn ei galon mai (b) yw’r Cyn-Ysgrifennydd Cartref, Jack Straw.  Ddoe cyhoeddodd y Times ei sylwadau, dan y pennawd  “Let’s  preserve our union : law to stop the SNP pulling it apart.”

Y ddeddf  newydd y mae Straw yn galw amdani yw deddf yn gwahardd byth eto refferendwm ar ymwahaniad posibl unrhyw ran o’r Undeb.

Bu cryn ymateb.  Ar Wings over Scotland, er enghraifft.  (Ac mor dda yw gweld Wings yn dal i fynd er gwaetha’r trychineb erchyll.)   Mae un cyfrannwr yn ein hatgoffa, yn un peth, y byddai deddf newydd Straw yn torri Cytundeb Gwener y Groglith Gogledd Iwerddon, sy’n gwarantu refferendwm i’r dalaith honno ar gyfarwyddyd ei Hysgrifennydd Gwladol  – cytundeb a wnaed pan oedd Straw yn Ysgrifennydd Cartref !

Fe ddylid, meddai Straw : “dilyn esiampl gwledydd ffederal sefydlog (yr Unol Daleithiau ac India, er enghraifft) a dweud ‘mae’r Undeb hwn yn awr yn annatodadwy’”. A dylid deddfu rhag blaen yn San Steffan i’r perwyl.  I’r sawl a ŵyr rywbeth am hanes Cymru mae’r syniad, a’r geiriad, yn gyfarwydd.  Onid yw “hon ein tywysogaeth”, yn ôl Deddf 1536, yn dragwyddol gorfforedig a chynwysedig yn “hon ein teyrnas” ? Nid yw hyn wedi rhwystro pawb, nac yn wir rwystro neb, rhag meddwl y gall  ryw dro fod yn wahanol.   Ac yn nyhead Straw mae rhagdyb fod Prydain Fawr un ai yn “wlad ffederal sefydlog” neu ar fin mynd yn un; rhagdyb fawr iawn, a chwbl ddi-sail.

Ymateb y rhan fwyaf o’r sylwedyddion heddiw yw fod yma gynnig ffordd lawdrwm iawn o rwystro trafodaeth.  Beth yw teimlad yr hen G.A. ?  Fel Straw, byddai’n well gen innau beidio gweld refferendwm arall, ond nid am yr un rheswm ag ef.  Dro neu ddau o’r blaen ar y blog, os iawn y cofiaf, rwyf wedi mynegi amheuaeth gref ynghylch y refferendwm fel offeryn llywodraeth.  Yn amlach na pheidio, cynhyrchu canlyniadau negyddol, adweithiol a wna refferendwm.  Ystyriwch, unwaith eto, refferendwm ar grogi ! Na, cynrychiolaeth seneddol yw egwyddor fawr llywodraeth Prydain : gwneled y cynrychiolwyr etholedig yr hyn y maent wedi addo’i wneud ac wedi cael cennad – “mandad”, fel y dywedir – i’w wneud.  Na chefnwn yn rhy aml ar yr egwyddor hon.

Gall hyn ein harwain, efallai, at y camau nesaf posibl i fudiad cenedlaethol yr Alban … a mentro rhagdybio, am y tro, y bydd hwnnw’n parhau.  Ym “mhydew du’r disberod” (T.H.P.-W.) yn union ar ôl y canlyniad, cawn fy atgoffa’n llethol boenus o ddau beth :   (a) enciliad llwyr y Parti Québecois ar ôl methiant ei refferendwm ; (b) y ffaith bod cenedlaetholwyr yr Alban yn llawer mwy niwrotig ac anunol na’r hen Blaid Cymru pan ddaw methiant, yn llai gwydn drwodd a thro.  Am (a), rwy’n credu y gallwn ei roi o’r naill du; iaith, a hynny’n unig, sy’n diffinio Québec; ni bu iddi erioed y cyfoeth o nodweddion cenhedlig sydd gan yr Alban.  Ac am (b), yn ystod y ddeuddydd diwethaf, o leiaf, ymddengys mai’r gwrthwyneb sy’n digwydd:  10,000 o aelodau newydd yn dylifo i’r SNP, a’r polau piniwn yn addo’n dda iawn iddi. Cawn weld …

Os daw yr SNP i sefyllfa gref yn etholiadol eto, boed iddi gofio bod moddion heblaw refferenda.  Ceisied hi gennad, “mandad”, a gweithredu arno.

Os gwelir y bydd hi, ryw dro eto ac am ryw reswm, yn ofynnol gosod cwestiwn o flaen etholwyr yr Alban, neu o ran hynny etholwyr Cymru, beth a ddylai fod ?  Cyfeiriaf y darllenwyr yn ostyngedig at un o’r ysgrifau cyntaf a roddais ar y blog hwn, eitem 23 Mawrth 2012.

Ni allaf gau trafodaeth ar Jack Straw heb ein hatgoffa’n hunain eto o’r diwrnod y penderfynodd ef ollwng yn rhydd ac yn groeniach y llofrudd Pinochet, ffrind mynwesol yr hen Thatcher, wedi iddo gael ei ddal yn Llundain.  Dyn gwellt ofnadwy yw Straw; mewn gwladwriaeth bwdr, un o’r pwdrod mwyaf.

Ddiwrnod yn ddiweddarach …

20 Medi

1.    Pwy sy am edrych ar gartŵn gwych, a’r tristaf erioed ?

2.    Ar ôl cysgu noson, mae rhywun yn dal i drio gwneud synnwyr o’r peth.   Hwyrach mai’r esboniad gorau, neu’r unig esboniad, yw fod hwrdd o wallgofrwydd adweithiol yn cydio mewn pobl weithiau, fel a ddigwyddodd ym Môn yn etholiad 1979.

3.    Ond be ydi’r straeon yma am dwyll etholiadol ?

Wedi’r llanast ofnadwy

19 Medi

The rose of all the world is not for me.
I want for my part
Only the little white rose of Scotland
That smells sharp and sweet – and breaks the heart.
Hugh MacDiarmid  

Ie wel, dyna ni, “and a very good morning to you all,” fel y cyfarchwyd ni mor llon gan Huw Edwards ychydig oriau’n ôl.

“Buddugoliaeth foesol, – y peth diwerth hwnnw,” meddai rhyw ŵr doeth, a chystal cofio’r sylw cyn dechrau mwydro am fuddugoliaeth foesol ar fore fel hwn.   Edrychwch mewn difri, pwy sydd wedi ennill :

Carwyn Jones
George Robertson
Brian Wilson
Y BBC
Y Pab
Gareth Edwards
Boris Johnson
Prif Weinidog Sbaen
Barack Obama
Rob Brydon
David Cameron
Shrek
Simon Schama
Johann Lamont
Jim Murphy
Nick Clegg
Harry Potter
Alastair Darling
Y Daily Telegraph
Y Daily Mail
Prif Weinidog Awstralia
Luned Morgan
Yr Urdd Oren
Vera Lynn
Bruce Forsyth
John Reid
Marks & Spencers
George Galloway
Owen Smith
David Starkey
Simon Cowell
Griff Rhys Jones
Alan Titchmarsh
Y Western Mail
Eddie Izzard
Dan Snow
Ian Rush
Gordon Brown
A’r dyn gwallgo ar “Question Time” yn gweiddi “The Highland Regiments ! … In the name of Jesus !”

…  A llawer rhagor.

Ac eithrio’r ychydig funudau o orfoledd fel y cyhoeddid y canlyniadau, does dim rhyw sŵn dathlu mawr o’r gwersyll hwn y bore ’ma.   Sleifio yn ôl i’w gwt y bydd ci lladd defaid.

Y peth iawn

Yn y gwersyll IE mae’n debyg bod galar mawr, a holi ac ymholi.  Gobeithio na bydd ymgyhuddo. Fe wnaed y peth iawn, o ran cynnal y refferendwm a’r ffordd yr ymladdwyd ef. Ni allesid gwneud gwell.   Ac am y rheswm hwnnw, i ni Gymry mae heddiw’n waeth, yn llawer gwaeth, na 2 Mawrth 1979.  Y pryd hynny fe wyddem fod yr ymgylch IE yn anobeithiol.  Fe ymgyrchodd Alex, Nicola, Jim Sillars a Tommy Sheridan, a llawer eraill, yn ardderchog, a deil eu geiriau’n ysbrydoliaeth, er trwy len o dristwch. Blogiau fel “Wings over Scotland” a “Bella Caledonia” yn ddisglair dros wythnosau lawer.

Tri rheswm

Gan wybod y bydd dadansoddi mawr gan arbenigwyr, gohebwyr,  panelwyr a thrydarwyr am rai dyddiau i ddod, dyma ambell sylw byrfyfyr gan yr hen G.A. ar y cwestiwn braidd yn ddi-fudd hwnnw, “Pam ?”.   Ie, Pam yn y byd mawr, gwrthod yr arweiniad gwleidyddol gorau a welodd unrhyw wlad yn ein hoes ni ?

1.     Ym mhob cymdeithas mae carfan sydd am ddrysu’r hwyl. Bron nad yw’n byw i hynny.  Os gwêl hi ymgyrch neu ymgais yn mynd yn dda, ac ynddi ymroddiad, brwdfrydedd ac yn enwedig tipyn o hiwmor, mae’n rhaid iddi hi sbwylio pethau. Bu gan yr ymgyrch IE eleni y pethau hyn oll, ac oherwydd drygioni cynhenid y creadur dynol, dyna’n rhannol pam y methodd hefyd.

2.     Pan fydd y Sgotyn am dynnu’n wysg ei gefn, bydd yn gwneud hynny mewn modd mwy trychinebol hyd yn oed na’r Cymro.  Teimlad o euogrwydd neu gywilydd fel ddannoedd fach barhaus yw problem y Cymro oddi ar ddechrau ei hanes; tuedda’r Sgotyn i gael hyrddiau mwy egnïol o hunan-ddinistr.  Argraff bersonol hefyd – a maddeuer imi am ei nodi – prin y ceir yn y byd ddim mwy annifyr na Sgotyn annifyr.

3.     Yr oedd llinellau’r frwydr yn syml a chlir.  Dewisodd y cenedlaetholwyr Albanaidd herio’r Sefydliad Prydeinig yn ei ddannedd, mewn modd ac i fesur na heriwyd mohono erioed o’r blaen mewn hanes.  Yr oedd y cwbl mewn gwirionedd yn troi ar un peth. Trident.  Totem y Sefydliad, a hoff beth ein hannwyl Carwyn. Esgusion oedd cwestiwn defnyddio’r bunt, aelodaeth o Ewrop a nifer o bethau felly.  Balchder Prydain oedd y peth mawr, ac fe alwodd y Sefydliad ar ei holl adnoddau er mwyn ei amddiffyn.  Yn syml, fe unodd y tair plaid unoliaethol yn erbyn Plaid Genedlaethol yr Alban, ac mewn undeb, ei threchu hyd yn oed lle mae hi’n dal seddau seneddol, ac wedi eu dal ers blynyddoedd lawer.

Sawl cenedl ?

Cyfeiriais o’r blaen (20 Awst) at osodiad canolog dadl yr Athro J. R. Jones : mai un genedl sydd yn yr Ynys hon, cenedl y Saeson, sydd hefyd yn mynd dan enw “y genedl Brydeinig”.   Petasai hi’n IE, fel yr awgrymais, byddai gofyn ailedrych ar y gosodiad.  Ond fore heddiw fe saif.

Yfory ?

“Gobaith a oeder a wanha y galon : ond pren y bywyd yw deisyfiad pan ddêl i ben”.  (Diarhebion 13 : 12)   Mae’r frawddeg gyntaf mor rymus (a’r fersiwn Saesneg hefyd, “Hope deferred maketh the heart sick”) fel bod peryg inni anghofio’r ail frawddeg. Mae’n debyg y “daw dydd Iau” eto, fel yr hoffai’r hen Gymry gredu;   ond dyn a ŵyr pryd nac ym mha fodd, na pha faint ohonom fydd yma pan ddaw.

Un peth sy’n weddol sicr, pan ddaw etholiad – yn enwedig etholiad Senedd yr Alban – bydd y glymblaid unoliaethol yn hollti’n dair eto, a bydd yn bosibl i’r Blaid Genedlaethol wneud yn dda, efallai’n dda iawn.  Rhaid iddi ddal i gredu hynny, yn hytrach nag ymsuddo mewn digalondid ac ymraniad, – fel y mae hi’n dueddol o wneud pan na fydd pethau’n mynd yn dda (am flynyddoedd ar ôl 1979 er enghraifft).

A’r dyfodol agos ?  “Ni bydd dim yr un fath,” medd lleisiau o hyd.  Dyfaliad yr hen G.A., am ei werth ?  Bydd pethau yr un fath, ond yn fwy felly.  Ni chaiff y Sgotyn mo’i asgwrn am fod yn gi da.  (Gweler eitem 21 Awst.)  Ac yn sicr ni chaiff y Cymro ddim.  Devo Max?  Ai dros hwnnw y pleidleisiodd y mwyafrif ? Choelia’ i fawr. Fe bleidleisiodd yn erbyn delfryd, cydwybod, anrhydedd ac egwyddor, – am fod y pethau hynny’n aml yn amhoblogaidd. Ac  nid oes diben dweud “O, mi gawn ninnau …”.  Na chawn. A pha iws cael heb fod wedi gofyn amdano?

Os nad yr hen gyfaill Devo Max, beth am yr ateb ffederal, peth gwahanol yn ei hanfod ?  A yw’n bryd i’r hen G.A. ailddechrau troi yn ei feddwl y posibilrwydd hwn, ar ôl penderfynu unwaith fod ei awr wedi mynd heibio ? Nid ailadroddaf ddim.  Hwyrach yr hoffai’r darllenwyr, os oes rhai, edrych ato ar eitem 24 Ionawr.

I’r rhai sydd wedi ymgyrchu mor hir a dygn a hwyliog, gallaf feddwl mai baich yw meddwl am droi “at y drin … eto draw”, hyd yn oed “yn drist a distaw”.

“Ond pren y bywyd yw deisyfiad pan ddêl i ben”.