Archif | Mawrth, 2017

Gwasg mewn Gwasgfa (2)

30 Maw

Dyma unwaith eto ddogfen a gyhoeddais ar y blog hwn, Gorffennaf 2013, ar ôl ei hanfon at ‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen’ a sefydlwyd gan lywodraeth Cymru ar y pryd. Credaf fod rhai o’r sylwadau yn dal yn berthnasol yn wyneb y drafodaeth heddiw ar ddyfodol Y CYMRO.

*          *

Bûm yn darllen Bob, cofiant R. Williams Parry gan Alan Llwyd; a thua’r un adeg bûm yn pori’n helaeth yng ngweithiau W.J. Gruffydd. Dyma ddau gynrychiolydd o genhedlaeth eithriadol ddawnus beirdd Cymraeg hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yr oedd i’r genhedlaeth hon ei hathrylith ei hun, ond bu hefyd yn ffodus yn ei hamgylchiadau, – er iddi fyw drwy flynyddoedd dreng a phrofi o beth o’u gofid. Un wedd ar ei ffawd dda oedd bod ganddi gynulleidfa, a gwedd arall gysylltiedig oedd bodolaeth gwasg Gymraeg helaeth a chref. Yr oedd digon o bapurau wythnosol Cymraeg fel y gallai Williams Parry neu Gruffydd, pe baent yn dewis, gael papur bob dydd, a rhai dros ben. Yr oedd digon o lwyfannau i gyhoeddi gwaith a’i drafod, ac nid esgeulusid llenyddiaeth Gymraeg ychwaith gan y Western Mail (er mor adweithiol oedd hwnnw ar rai pethau), na chan y cylchgrawn Welsh Outlook. Truenus mewn cymhariaeth yw’r wasg denau, dila heddiw. A rhaid inni gofio hyn bob amser: fe aeth y papurau Cymraeg i lawr a diflannu, nid am eu bod yn bapurau gwael, ond pan oeddynt yn bapurau da. Yr esboniad? Y Cymry’n troi’n Saeson, sef y ffaith seml a adlewyrchir yn ystadegau iaith 2011.

Ond mae’n rhaid dal ati. Ac un o’r problemau y mae’n rhaid mynd at eu gwraidd, os oes modd yn y byd, yw problem y wasg. Yn dilyn mae’r ddogfen fer a anfonodd Dalen Newydd Cyf. yr wythnos ddiwethaf at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ‘Y Gymraeg a Datblygu Economaidd’. Sefydlwyd y Grŵp gan Edwina Hart, y Gweinidog Datblygu Economaidd, ac fe’i cadeirir gan Elin Rhys. Dyma’r trydydd tro i Dalen Newydd gyflwyno’r syniadau hyn i banelau wedi eu sefydlu gan lywodraeth Cymru; ni chafwyd unrhyw ymateb y ddau dro cyntaf.

*             *

1         Mae sefyllfa’r wasg Gymraeg a’i dyfodol yn bynciau perthnasol iawn i unrhyw ystyriaeth o’r Gymraeg a Datblygu Economaidd.

2        Deil penderfyniad y Llywodraeth ar fater Y Byd, Chwefror 2008, yn siom ac yn ddirgelwch. Yr oedd tri o aelodau Dalen Newydd Cyf. yn fuddsoddwyr yn Dyddiol Cyf., ond eisoes yn gweithio ar gynllun gwahanol a chyfochrog y gobeithid y byddai’n llenwi bwlch arall mewn newyddiaduraeth Gymraeg. Y cynllun hwnnw oedd cyhoeddi cadwyn o bapurau Cymraeg wythnosol am ddim, gan ddechrau ym Môn ac Arfon.

3         Drwy’r cyfan mae rhyw ‘afael’ ar bapur newydd, – papur go-iawn, wedi ei wneud o bapur. Dylai cymuned ieithyddol o hanner miliwn allu cynnal tri neu bedwar papur dyddiol. Ond beth a wneir pan yw dau o bapurau Saesneg Cymru, y Western Mail a’r Daily Post, yn wynebu anawsterau, yn rhannol oherwydd gwasgfa economaidd ac yn rhannol oherwydd cwymp enfawr yn eu cylchrediad, ynghyd â her technoleg wahanol?

4         Yn wyneb ystadegau sobreiddiol 2011, daw yn amlwg mai sefydlogi ddylai fod yn flaenoriaeth unrhyw strategaeth ar gyfer y Gymraeg. O ran magu teimlad o ‘berchenogaeth’ neu ‘feddiant’ ar iaith, a thrwy hynny ei sefydlogi fel rhan o fywyd bob dydd, nid oes dim un ffactor pwysicach na’r gallu i’w darllen, a’r arferiad o’i darllen yn rheolaidd. Dyma pam, mewn sawl ardal o Gymru, y bu cyfraniad y papurau bro, oddi ar ddechrau’r 1970au, yn gwbl allweddol. Y rhain, heb unrhyw amheuaeth, fu llwyddiant diwylliannol mawr Cymru yn rhan olaf yr hen ganrif: buont yn angor i’r Gymraeg yn wyneb llawer o ddylanwadau eraill a oedd yn ansefydlogi.

5         Bwriad Dalen Newydd oedd, ac a fydd eto os gwelir amgylchiadau ffafriol, cyhoeddi dau bapur lleol masnachol wythnosol, Tarian Arfon a Tarian Môn. Yr ydym am bwysleisio mai papurau lleol a fyddai’r rhain, nid papurau bro; h.y. byddent ar yr un tir â’r AngHolyhead & Anglesey Mail neu’r Caernarfon Herald, nid Llais Ogwan neu Papur Menai. Gwnaed copïau peilot o’r ddau bapur, 32 tudalen yr un, a’u defnyddio i gynnal arolwg o ffynonellau hysbysebion yn y ddwy ardal. Byddid yn dosbarthu yn rhad ac am ddim, gan dalu i gwmni dosbarthu a chan anelu at gylchrediad o 30,000 (17,500, Arfon; 12,500, Môn). Byddai Tarian Arfon yn gwasanaethu hen sir Gaernarfon, sef rhan o sir bresennol Gwynedd a rhan o sir bresennol Conwy, a Tarian Môn y cyfan o Fôn. Cynulleidfa’r papurau bro fyddai ein sylfaen. Byddid yn adeiladu ar y sylfaen hon, a gweithio tuag at yr hyn a fyddai, i bob diben, yn wasg Gymraeg genedlaethol wythnosol gyda chynulleidfa eang, ond yn bodoli ar ffurf cyfres o fersiynau lleol.

6        Ni allwn anwybyddu casgliad ‘Arolwg Bianchi’ (2008): ‘Mae’r sector newyddion print Cymraeg yn dameidiog, yn dlawd ac yn rhy anghyflawn i ddiwallu hyd yn oed anghenion mwyaf sylfaenol y darllenydd modern am wybodaeth ynglŷn â’r gymdeithas y mae’n byw ynddi. … Nid oes dim cyfrwng print Cymraeg ar gyfer newyddion yng ngwir ystyr y gair.’

7        Ac eithrio hysbysiadau cyhoeddus, nid oes cronfa genedlaethol Gymreig o hysbysebion. Mae hysbysiadau Llywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus cenedlaethol yn allweddol yng nghynhaliaeth y wasg Saesneg ddyddiol ac wythnosol yng Nghymru heddiw. Dangoswyd hyn yn glir yn adroddiad gwerthfawr Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, The Regional and Local Media in Wales (2006).

8        Y dewis arall fyddai cymhorthdal uniongyrchol, megis a delir i rai cyhoeddiadau Cymraeg drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ond ar raddfa lawer yn fwy. Bydd y gweithgor yn ymwybodol o anawsterau hyn. Buom ninnau’n gyson yn pwysleisio nad oeddem yn dymuno dibynnu ar grantiau, a bod gwahaniaeth o ran egwyddor rhwng hynny a derbyn hysbysiadau cyhoeddus fel rhan o fusnes. I gyfiawnhau’r math hwnnw o gefnogaeth byddai raid i’r papurau Cymraeg, yn union fel y rhai Saesneg, gynnig cylchrediad a fyddai’n rhoi gwerth am arian i’r holl hysbysebwyr, preifat a chyhoeddus. Byddai Dalen Newydd yn troi pob carreg i sicrhau hysbysebion masnachol, ac yr ydym wedi arloesi drwy ymweld â thua 500 o brif fusnesion Môn ac Arfon.

9        Hoffem feddwl y gallai’r ddwy Darian ddod yn gychwyn ar gadwyn o bapurau Cymraeg wythnosol yn ymestyn dros y rhan helaethaf o Gymru ac yn cynnig cylchrediad mawr (100,000 efallai, yn darged). Ac edrych ymlaen, un posibilrwydd fyddai cyhoeddi papur ar ddau ddiwrnod yr wythnos (unwaith am ddim ac unwaith ar werth, efallai), a phwy a ŵyr na byddai llwybr yn arwain o’r fan honno tuag at y nod o wasg ddyddiol – nod y mae’n rhaid ei gyrraedd, hwyr neu hwyrach, ryw fodd neu’i gilydd.

10       Ni byddem yn diystyru’r posibilrwydd o ddealltwriaeth â grŵp neu gwmni arall pe gwelid bod hynny’n ffordd o greu cylchrediad helaeth un ai ar gyfer hysbysebion cyffredinol neu (yn fwy addas efallai) ar gyfer hysbysiadau cyhoeddus cenedlaethol yn unig. (O ran hysbysiadau masnachol a hysbysiadau cyhoeddus lleol, byddai’r ddau grŵp yn gweithredu’n annibynnol ar ei gilydd, a byddent yn gwbl annibynnol yn olygyddol.) Un posibilrwydd fyddai cydweithio rhwng (a) Tariannau Môn-Arfon, gyda chylchrediad ‘trwchus’ o fewn ardal gyfyngedig, a (b) papur am-ddim arall gyda chylchrediad ‘teneuach’ ond cyffredinol drwy Gymru. Ond oherwydd y ffactor a grybwyllwyd o’r blaen, sef nad oes cronfa genedlaethol Gymreig o hysbysebion masnachol, ymddengys y byddai raid i (b) hefyd wrth ryw fath o sylfaen leol – y brifddinas, efallai? Y strategaeth (gan mai dyna’r allweddair) fyddai cychwyn yn y ddau begwn, Gwynedd-Morgannwg, a gweithio tuag at gyrraedd y rhan helaethaf o Gymru o dipyn i beth. (Fe ddylai fod gan Gaerdydd ei hun, am ei bod yn brifddinas, o leiaf un papur dyddiol Cymraeg. Ond stori arall yw honno.)

11          Gobeithiwn y gwêl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yma rywbeth perthnasol i’w ymchwil, a byddwn yn falch o fod â rhan mewn unrhyw drafodaeth yn dilyn o hyn.

*           *

O.N.   30 Mawrth 2017.

Gwnaed arbraw ac arolwg Dalen Newydd Cyf.  11 mlynedd yn ôl (2006).   Erbyn heddiw mae hysbysebion y wasg brint wedi prinhau yn ddirfawr eto, a rhai o’r papuraui mwyaf sefydledig yn teimlo’r wasgfa.

Copïau peilot o Tarian MônTarian Arfon ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb.

Y Ddamnedigaeth

26 Maw

Ydi, mae hi’n ddrwg. Dyn o’i go’ yn Arlywydd America. Dyn annymunol iawn yn Arlywydd Rwsia. Y lladdfeydd ofnadwy yn y Dwyrain Canol. Ffrainc, unwaith yn rhagor, yn fflyrtian ag eithafiaeth adain-dde.

A dowch i Gymru. Argyfwng Y Cymro, sef ein hargyfgwng ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg, a’n hargyfwng fel Cymry’n gyffredinol. Sef bod llai ohonom.

Ond y peth gwaethaf un. Edrychwch eto ar flog 9 Mawrth.

Dywedaf eto, dyma’r mater pwysicaf i godi yng Nghymru o fewn fy nghof gwleidyddol i, a’r peth gwaethaf – os gwneir y dewis anghywir.

Ein hatgoffa’n hunain.

(a) O dan ‘Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn’ mae hawl i gynghorwyr wrthod cynnig ‘a fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned’.

(b) Yn dilyn pwysau gan gwmni Horizon, mae adroddiadau y bwriedir newid hyn i ddarllen: hawl i wrthod ‘cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.’

Ar ran nifer o fudiadau sy’n gwrthwynebu’r newid mae eu hysgrifennydd, Ieuan Wyn, wedi tynnu sylw i ddechrau at wrthuni’r gair ‘sylweddol’. Mae rhyw niwed bach yn iawn, ydi?

Ymhellach, ac yn gwbl briodol, mae’r mudiadau’n gwrthwynebu’r newid geiriad, sydd (yn ôl a ddeallwn) mewn ‘fersiwn ymgynghorol’ o’r polisi, hwnnw i’w ystyried gan arolygydd ar ran llywodraeth Cymru, yntau i gyflwyno’i adroddiad ym mis Mai. Fel y dywed Ieuan mewn gohebiaeth â’r cynghorwyr, mae ‘lliniaru’ yn rhagdybio niwed.

Ac am y ‘cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny’ – ‘hwdiwch, mil o bunnau at Fenter Iaith Môn. Cerwch i ffwrdd yn blant da rŵan.’

Efallai fod gan yr arolygydd yr hawl i orfodi’r newid. Byddai hynny’n ddrwg, a drwg iawn hefyd. Ond gwaeth, a llawer iawn gwaeth eto, fyddai bod mwyafrif cynghorwyr y ddwy sir yn cydsynio.

Os digwydd hynny, dyna’i diwedd hi. Waeth heb â sôn a siarad ymhellach. Dyna’n diwedd ni’r Cymry. Diwedd. Dyna ni.

Ble saif, er enghraifft, ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad sydd ar ddod? O blaid (a) uchod, ynteu o blaid (b)? Cwestiwn syml iawn.

Dyma ddwy adnod:

‘O diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef?’ (Mathew 5: 13.)

‘A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni.’ (Ioan 3: 19.)

Diffinio gair

23 Maw

Cafodd y wasg felen, sef bron y cyfan o’r wasg ddyddiol Brydeinig, fodd i fyw pan fu farw Martin McGuinness. Cafwyd symffonïau o hunangyfiawnder ar ran pobl a gwladwriaeth nad ydynt ERIOED, yn eu HOLL HANES, wedi defnyddio YR UN TAMAID o drais i hyrwyddo buddiannau gwleidyddol.

Daeth i’m cof ddarn bach o ddialog gan George Bernard Shaw yn ei ddrama Saint Joan. Y cymeriadau yw: Cauchon (esgob Beauvais yn Ffrainc), Iarll Warwig (un o gapteiniaid byddin Lloegr), a John de Stogumber (caplan yn y fyddin honno).

THE CHAPLAIN [rising in a fury] You are a traitor.

CAUCHON [springing up] You lie, priest. [Trembling with rage] If you dare do what this woman has done – set your country above the holy Catholic Church – you shall go to the fire with her.

THE CHAPLAIN. My lord; I – I went too far. I – [.he sits down with a submissive gesture]

WARWICK [who has risen apprehensively] My lord: I apologize to you for the word used by Messire John de Stogumber. It does not mean in England what it does in France. In your language traitor means betrayer: one who is perfidious, treacherous, unfaithful, disloyal. In our country it means simply one who is not wholly devoted to our English interests.

CAUCHON. I am sorry; I did not understand. [He subsides into his chair with dignity].

Ffarwel i’r Llygad

22 Maw

Dyma ddehongliad goleuedig Private Eye (rhif 1438) o ddadl ysgol Llangennech:

PE - Copy (2)

Yn y rhifyn nesaf (1439) ymatebodd Robin Llywelyn:

PE

A heddiw (1440) dyma ddau ymateb iddo yntau:

PE - Copy

Yn y tŷ yma mae set bron iawn yn gyflawn o Private Eye oddi ar ei gychwyniad yng nghanol helynt Profumo, 1963. Ond yn awr daw ein tanysgrifiad fel teulu i ben. Digon yw digon. Gwyddem ers blynyddoedd, wrth gwrs, mai llais Chwigiaeth Brydeinig yw’r Llygad, ac mae gwrth-Gymreigrwydd ym mêr esgyrn honno. A pharodïo ymadrodd yn yr iaith fain, ‘deadlier than the Mail’.

Neges Nicola

14 Maw

Amrywiaeth o benawdau da y bore ’ma:

Daily Express – HOORAY ! MPs VOTE TO TRIGGER EU EXIT

Western Mail – Brexit could tear UK apart as Scots head for new vote

The Times – Sturgeon ambushes May

The Guardian – May’s Brexit plan upstaged as Sturgeon seizes her moment

i – Future of the UK in doubt

Daily Telegraph – The new battle for Britain

Scottish Daily Mail – SNP’s DAY OF BETRAYAL

Y ddwy ddiwethaf yn rhai go dda, ond mae’r wobr heddiw am y pennawd mwyaf plentynnaidd yn mynd i’r Daily Mail (Llundain) :

HANDS OFF OUR BREXIT, NICOLA !

Mae gwefannau’r cenedlaetholwyr Albanaidd heddiw’n bur werthfawrogol, e.e. Craig Murray’n blês ar y neges, y modd y cyflwynwyd hi a’r amseriad.

Ie, sylwedd yw’r peth pwysicaf wrth gwrs. Ond fel y cydnebydd pawb mae delwedd yn bwysig hefyd. Llwydda Nicola i gyfleu’n wastad ei bod hi’n gwybod ble mae’n mynd a sut i fynd yno, yn wahanol i Brif Weinidog arall y gallem ei henwi, sy’n gwella’n feunyddiol ei dynwarediad argyhoeddiadol o iâr ddŵr wedi ffrwcsio.

Mae’r blog hwn yn ddigon aml wedi mynegi amheuaeth o refferenda. Ond dyna ni, mae’r SNP yn teimlo, mae’n debyg, bod yn rhaid iddi ddod allan o gysgod y refferendwm o’r blaen, ac mai dyma’r unig ffordd. Ni ddywedodd Nicola yn derfynol y bydd refferendwm. Dweud a wnaeth y bydd yn gofyn i’w Senedd wneud cais am un, a dweud tua pa bryd y bydd un, os bydd un. (Un cyngor bach. Crybwyllodd ‘rhwng Hydref 2018 a Gwanwyn 2019′. Ond peidier â’i gynnal yn y gaeaf. Tywydd drwg – hwyl ddrwg, fel yn hunllef 1979.) Erys un OS arall, sef cydsyniad llywodraeth Llundain.

Os na cheir y cydsyniad hwnnw, dyna’r ysgogiad i seneddwyr yr Alban gymryd hynt tuag Arbroath.

Byddai’n WELL pe gellid symud ymlaen fel hyn, sef bod y Blaid Genedlaethol yn datgan, os caiff hi fwyafrifoedd un waith eto yn etholiadau Holyrood a San Steffan, y cymer hi hynny fel trwydded i gyhoeddi annibyniaeth yr Alban. Ond nid yw’r amserlen yn caniatáu hynny. Cyn y cynhelir yr un o’r ddau etholiad, bydd Brexit wedi digwydd. Neu heb ddigwydd. (Daliaf, hyd yma, i gredu mai’r ail.)

Yn ôl at yr ymhlygiadau i ninnau’r Cymry. Pryd, sut, y gallwn gael gan bobl ddechrau meddwl am y rheini? Wrth nesu at ddiwedd Prydeindod (1965) gofynnodd J. R. Jones: ‘A oes sefyllfa a dynn y gorchudd oddi ar ideoleg Prydeindod ? … Sut y mae dinoethi ideoleg Prydeindod i drwch poblogaeth Cymru a rhoi dannedd yn y dinoethiad drwy ddefnyddio fel ein “sefyllfa ddinoethol” gyflwr y gellir cael gan drwch y boblogaeth i weld eu bod ynddo? … Gallai Lloegr, er enghraifft, o orfod ohoni gyfaddef o’r diwedd i’w haul fachludo, golli ei gallu oesol i fesmereiddio’r Cymry.’

Gall popeth fynd o chwith, wrth gwrs, fel y gwnânt yn aml, chwedl un o feibion enwocaf yr Alban, yn helyntion dynion a llygod. Ond efallai, efallai ein bod yn agos iawn – yn beryglus o agos – at y ‘sefyllfa ddinoethol’ hon. Heb wasg a chyfryngau, a heb fudiad cenedlaethol ag unrhyw siâp arno, sut mae cael y Cymry i weld a deall y sefyllfa?

Dyna dy broblem, Gymro.

Y Gorwel eto

9 Maw

Mae’n bryd dyfynnu unwaith eto ein cyfieithiad o’r englyn enwog:

THE HORIZON

Here’s a mirage like rim of wheel – around us,
Masterpiece of remarkable wizard;
Old line far that not exist,
Old finish that not finishing.

§

Ond gwamalrwydd o’r naill du.

Fore Llun (6 Mawrth) digwyddais daro ar un o gynghorwyr Gwynedd. “Be ydi hyn?” gofynnais i, “fod Gwynedd am newid ei pholisïau iaith a chynllunio i blesio Horizon?” Sicrhawyd fi na fydd hyn yn digwydd. Ond fel arall y dywed adroddiad Y Cymro, 3 Mawrth, ac adroddiad Golwg 360 ddoe.

Os digwydd hyn (ac mae RHYWUN neu RYWRAI wedi penderfynu ei fod i ddigwydd), bydd y peth gwaethaf, salaf i ddigwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru yn fy nghof i.

Dywedaf hynna eto: bydd y peth gwaethaf, salaf i ddigwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru yn fy nghof i.

A oes rhywun am ymateb i’r blog hwn gan un ai (a) amddiffyn y penderfyniad neu (b) ddangos nad yw’r adroddiadau’n gywir ?

Lolipop

7 Maw

Sylwi bod tipyn o gorddi eto y dyddiau hyn, e.e. ar safle BBC Cymru, ynghylch swyddogaeth y Plisman Iaith yn ein gwlad.

Dyma lyfr bach y byddai’n dda i’r ddwy ochr yn y ffrae – Plismyn a Lladron – ei ddarllen.

clawr-blaen-iawn-bob-tro

Wn i ddim a yw’r awdur yn Blisman Iaith. Go brin efallai, mae’n greadur rhy galonfeddal. Ond os caiff fod yn Ddyn Lolipop Iaith, bydd yn reit fodlon.

Tystiodd myfyrwraig am y llyfr; ‘rwy’ wedi mynd i’r arfer o fynd ag o gyda mi i bob man.’

Gall y cyhoeddwyr gynnig disgowntiau hael am archebion da gan gyrff cyhoeddus, e.e. BBC Cymru. S4C.

Cysylltwch â dalennewydd@yahoo.com ac ymwelwch â’n siop, dalennewydd.cymru

Peth arall pwysig iawn …

7 Maw

Gwrandewch ar y sgwrs a’r apêl hon.

Y Santes yn Sgotland

4 Maw

Bu’r Santes Theresa yng Nhynhadledd Ceidwadwyr yr Alban yn calonogi’r ffyddloniaid ac, fel y gellid disgwyl,  yn lladd ar yr SNP. Gwnaeth nifer o bwyntiau diddorol, a dyma’r prif rai:

1. Sgrifennwyd storïau Harry Potter yng Nghaeredin, gan awdures o Swydd Gaerloyw. Dyna ichi brofi yn y fan werth undod y Deyrnas.

2. “Mae’r Alban yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at rôl fyd-eang y Deyrnas Gyfunol.” H.y. mae’n cartrefu Trident. Cofiwn ninnau mai dyna’r rôl y mae Llafur Cymru yn awchu am ei chyflawni. “Mwy na chroeso,” chwedl; Carwyn.

3. “Gweld trwy dwnnel” y mae Nicola. Os gwir hynny, mae Nicola’n eithaf sicr beth y mae’n ei weld. Mae Theresa’n dweud ei bod hi’n gweld teg oleuni blaen y wawr ôl-Brexit. Ond ai dyna mae hi’n ei weld mewn gwirionedd?

4. “Yr ydym yn bedair cenedl, ond yn ein calonnau yn un bobl.” Gosodiad rhyfedd iawn. I ddechrau, pa rai yw’r “pedair cenedl”? Lloegr, yr Alban a Chymru – dyna dair. Ond beth yw’r bedwaredd? Iwerddon gyfan? Ynteu’r Chwe Sir? Ers pryd mae’r Chwe Sir yn “genedl”? Yn ail, Iwerddon gyfan neu’r Chwe Sir, a yw’r Saeson yn teimlo yn eu calonnau eu bod “yr un bobl” â’r rhain? Neu y ffordd arall? A yw’r Cymry “yr un bobl” â’r Albanwyr? Yn drydydd, pwy oedd yn iawn, Theresa ddoe, ynteu J. R. Jones, a ddaliai mai “pobl, nid cenedl” yw’r Cymry?

5. Y mae gan Blaid Genedlaethol yr Alban “obsesiwn gydag annibyniaeth”. Peth rhyfedd yntê, plaid ag obsesiwn gyda’i phrif nod ei hun a phrif ddiben ei bodolaeth! Tybed na fyddai’n beth da petai gan Blaid Cymru obsesiwn gyffelyb? Rhywbeth iddi ei ystyried yn ei Chynhadledd Wanwyn heddiw.

Gwyliwch a gwrandewch Alex Salmond, trwy wefan Munguin’s New Republic, yn tynnu Theresa a’i haraith yn gareiau. “Does ganddi ddim clem” yw ei gasgliad. A dyna’r gwir.