Dyma inni ddewis o ddau ‘fodel tridarn’.
1. (a) Y pedair etholaeth werdd, sef ‘Yr Hen Dywysogaeth’ neu ‘Cymru Cunedda’, llai Sir Fôn. (b) Bloc coch y de-ddwyrain, yn llai ei faint ac wedi ei ysgwyd dipyn gan yr unig beth, mae’n ymddangos, a allodd ei ysgytio o’i farweidd-dra Llafuraidd canmlwydd oed, sef dwbl dôs o Brydeindod. (c) Y wlad las, sef y Mers, wedi ymestyn a dyfnhau nes meddiannu’r dwyrain oll a’r pegynau hyd at Gaergybi yn y gogledd a Thyddewi yn y de.
2. (a) Fel (a) uchod eto. (b) Sir Fôn. Keith Best. Déja vu. Pwy a ddehongla feddwl yr Ynys Dywell? (c) Gweddill Cymru.
* * *
Yng ngwlad 1 a 2 (a), gallaf feddwl mai ochenaid ddiolchgar, nid gorfoledd gwawr newydd, a groesawodd lwyddiant y pedwar Aelod. Diolchgar i bwy? I’r pedwar eu hunain yn sicr, ac i’w timau a weithiodd yn galed ac effeithiol. Hefyd, dipyn bach, i … (sibrwd) Brexit. Heb ymyrraeth y Brexitiwr gallai Caerfyrddin-Dinefwr yn hawdd fod wedi mynd yr un ffordd â Maldwyn, Brycheiniog-Maesyfed, Dinbych, Môn, Penfro. A buasai mwyafrif Dwyfor-Meirion yn llai, er yn sefyll. Am Geredigion, wn i ddim, er synnwn i damaid na ddenwyd tipyn o’r hen Ryddfrydwyr at y Brexit – ‘Ewropeaid’, ‘Arhoswyr’, choelia’ i fawr! Bron yn sicr y denwyd Rhyddfrydwyr a Llafurwyr at y Tori. Ond cynyddodd pleidlais Ben Lake yn ogystal â’i fwyafrif, a haedda bob clod am hynny.
A oes ddiolch yn ddyledus i’r ‘Gynghrair Aros’? Dim o gwbl, hyd y gallwn weld. Efallai, efallai y bu i neges gref Caroline Lucas ennill dau neu dri o Wyrddion i Hywel, ond ni bu Plaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol lwchyn elwach yn unman o’u ‘cytundeb’. Ffars o’r cychwyn. Hyd yma ni chlywais yr un cenedlaetholwr yn cydymdeimlo â’r ‘partneriaid’ yn eu colled!
Beth ddigwyddodd i’r ‘eliffantod’ y soniais amdanynt o’r blaen yn Arfon a Cheredigion? Pan es i bleidleisio ym Mangor Uchaf yma tua chanol y bore yr oedd ciwiau o fyfyrwyr yn disgwyl eu twrn. Ymbaratoais i fod yn stoicaidd fel chwarelwyr Kate Roberts a T. Rowland Hughes. Ond daeth achubiaeth o rywle. Beth oedd stori’r blychau pleidleisio tybed? Byddai’n ddiddorol clywed gan rywun sy’n gwybod. A oedd Cymry godreon Eryri wedi llyncu’n galed y tro hwn gan benderfynu peidio â dal yn erbyn Hywel droeon sâl Cyngor Gwynedd?
Yn ôl y down at yr hen wirionedd. Beth cariodd hi yn ‘y pedair sedd’? Ateb: y Gymraeg. Nid ei bod hi’n ‘bwnc’ yn yr etholiad: yn y llenyddiaeth a welais i, nid oedd fawr o sôn amdani yng nghyswllt tai, economi, swyddi, cynllunio a phethau felly; ac yn wir nid yw’n berthnasol iawn bellach i wleidyddiaeth San Steffan. Ond fe wyddai’r credinwyr dros beth y dylai’r Blaid fod yn sefyll. Pleidleisiwyd unwaith eto dros y peth hwnnw, gan adael y Blaid yn rhydd ar yr wyneb i sôn am bethau diniwed, diystyr, amherthnasol. Gweithiodd hyn y tro hwn eto. Ond am faint y gweithia yn y dyfodol heb ryw newid mawr mewn cylch ehangach?
* * *
Down felly at 2 (c), ‘gweddill Cymru’, sy’n gorwedd yn ddyfnach nag erioed, yn etholiadol beth bynnag, ‘mewn rhyw dywyll farwol hun’. Cafodd Adam lawer o gymeradwyaeth gan gynulleidfaoedd stiwdio yn Lloegr, ond ni ddaeth hyn â phleidleisiau iddo yng Nghymru. I lawr, i lawr drwy Gymru las a choch, gan gynnwys y seddau yn y Cymoedd lle gwelwyd fflach o addewid hanner can mlynedd yn ôl. ‘Mae’r ifanc gyda ni’ … ers 90 mlynedd, ond to ar ôl to o’r rheini wedi mynd yn ganol-oed ac yn hen ac yn mynd i’r bwth pleidleisio mawr tragwyddol heb ‘ddod’ o gwbl. Dwy agwedd anghysurus arall:
(a) Hanner canrif yn ôl yr oedd y gwleidyddion a’r cynghorwyr Llafur yn poeni y byddai addysg Gymraeg yn magu cenedlaetholwyr. Nid yw wedi digwydd o gwbl.
(b) Cymry Caerdydd. Fel y canai Leila Megane:
Ple maent?
Ple maent?
A’r garreg yn ateb ‘ple maent?’
A meddyliwch mewn difri. Eisteddfod lwyddiannus yn Llanrwst. Pleidlais PC yn Aberconwy: 2,704 (8.9%). Dim cysylltiad o gwbl, er nad yw’n dilyn o angenrheidrwydd y dylai fod cysylltiad. Ar lwyfan ehangach, oni fu ‘deffroad’ yng Nghymru yn gynharach eleni? Onid oedd ‘pethau’n newid’? ‘Cofiwch Dryweryn’? Ralïau lliwgar ‘Yes Cymru’? Dim cysylltiad â’r bleidlais yn ôl pob golwg, ac eithrio o bosib yn Arfon. Ni olyga hyn – a phrysuraf i’w ddweud – na ddylai ymdrechion Yes Cymru barhau. Yn wir efallai mai arni hi y disgyn fwy a mwy y gwaith a’r cyfrifoldeb o gyflwyno’r ddadl wleidyddol nad yw’r Blaid yn medru nac yn dewis ei chyflwyno. Gan eithrio’r ‘pedair sedd’ i ryw raddau eto, caf y teimlad am y ‘mudiad cenedlaethol’ drwy Gymru y dyddiau hyn ei fod fel rhyw Bolo Mint mawr gydag anferth o dwll yn y canol lle dylai plaid fod.
Diamau y bydd y Blaid yn ‘gwella’i strategaeth’ fel y gwnaeth dro a thro o’r blaen. Bydd yn ystyried sut i ‘gael ei neges drosodd i bobl Cymru’. Bydd yn ffocysu. Efallai bydd ganddi ‘gomisiwn’. Rwyf wedi cyfeirio rai troeon o’r blaen at gasgliad ystyriol Anthony D. Smith yn ei lyfr da iawn The Ethnic Origins of Nations (1986) at wahanol ‘fandiau’ o bobloedd ddi-wladwriaeth yn y byd. Mae rhai o’r rhain na phetrusa i’w galw’n genhedloedd, ac enwa yr Alban, Catalonia a Fflandrys. Mae eraill y rhydd ef arnynt yr enw ethnies, pobloedd ag iddynt hunaniaethau ethnig digon gwydn, ond sydd rywsut heb yr adnoddau neu’r ewyllys i amddiffyn eu hunaniaeth yn wleidyddol. A rhyngddynt, mewn haen ddigon cymysg, mae’n gosod y Cwrdiaid (braidd yn rhy betrus efallai), y Naga, y Llydawiaid … a’r Cymry. Anodd rhagweld unrhyw fath o ddeffroad o gwbl yng Nghymru bellach ac eithrio yng nghyd-destun newid seismig wedi ei ysgogi gan genedlaetholwyr yr Alban, newid a fyddai’n gadael y wladwriaeth unedol a’i dosbarth llywodraethol ar eu hochrau yn y ffos. A hyd yn oed wedi i’r newid hwnnw ddigwydd, os yw i ddigwydd, sut, gyda’r cyfryngau tila tila sydd gennym, y mae cael i bennau’r Cymry ei fod wedi digwydd? Gallwn yn hawdd ddychmygu’r Cymry’n dal yn Brydeinwyr pan na fydd Prydain fel gwladwriaeth yn bod mwyach. Rhaid edrych eto ar wreiddiau teimlad y Cymry o israddoldeb, ac am hynny mae eisiau i bawb ohonoch, ddarllenwyr, astudio’n ofalus y golygiad newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain.
* * *
Ac i gloi heddiw dywedaf eto: o leiaf allwch chi ddim beio Leanne. Cipio’r Rhondda ganddi hi fu llwyddiant mwyaf Plaid Cymru oddi ar ddatganoli.