TAI
Mae’r amser wedi dod pan ddylai’r awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn benodol y cynghorau sir, fod â pholisi o rannu cost pob tŷ sy’n mynd ar werth yng Nghymru – neu, ddywedwn ni, mewn ardaloedd dynodedig o Gymru – yn ei hanner â phrynwyr o Gymry. Y gyd-berchenogaeth i barhau wedyn tan y dydd y dewisai’r perchennog preifat un ai brynu siâr yr awdurdod neu werthu ei siâr ei hun i’r awdurdod. (‘Perchennog preifat’ = un ai unigolyn neu bartneriaeth briod, sifil neu ddi-briod.)
‘Tŷ hanner Cownsil’, ffordd o haneru pris tŷ i Gymro, a pheth y mae’n rhaid ei wneud ar frys yn yr argyfwng presennol. Onid e, bydd popeth ar ben.
Beth yw ‘Cymro’? Gwneler diffiniad at y pwrpas. Dylai’r diffiniad gynnwys (a) unrhyw un wedi ei fagu yng Nghymru, a (b) unrhyw un o unrhyw fan yn y byd sy’n medru Cymraeg.
A oes gan y cynghorau sir yr adnoddau i wneud peth fel hyn? Nefoedd annwyl, nac oes. Mae’n rhaid i lywodraeth Cymru neilltuo swm mawr o arian at y pwrpas, i’w ddyrannu i’r awdurdodau lleol. Ac i wneud hynny mae angen deddf.
Pa lywodraeth a fyddai’n llunio deddf o’r fath? Pa bleidiau a fyddai’n ei hyrwyddo? A barnu wrth y taflenni sy’n dod trwy’r drws yma y dyddiau hyn, nid oes gan y prif bleidiau unrhyw glem sut i gwrdd â’r broblem. Mae gan Blaid Cymru yr un polisi difäol â’r lleill, sef codi mwy o dai. Gwyddom pwy fyddai’n eu prynu. A digon hawdd dweud ‘tai fforddiadwy’. Gwyddom yn rhy dda fforddiadwy i bwy. A phris y farchnad sy’n rheoli: y tŷ sy’n ‘fforddiadwy’ heddiw, bydd yn ddwbl ei bris mewn ychydig flynyddoedd.
Sut mae cael hyn i bennau gwleidyddion lleol a seneddol?
Mae’r amser yn fyr.
Mae’r cloc yn tician.
Gadael Ymateb