Peidio dweud, peidio gofyn …

18 Ebr

Robat Gruffudd, Gobaith Mawr y Ganrif (Y Lolfa, 2024), £9.99.

Pobl Caerdydd yw’r rhai y down i’w hadnabod yn y nofel hon, rhai ohonynt yn ‘hufen y ddinas’. Y byd yr oedd Gron y Dyn Dŵad yn chwe chyfrol Dafydd Huws yn ei weld oddi isod gan daro i mewn iddo weithiau, dyma’n gwahodd yn syth i’w ganol. 2008 yw’r flwyddyn. Fe sonnir am ambell swm go fawr o arian, gan ein procio ninnau i feddwl faint yn fwy fyddai’r symiau erbyn heddiw. Mae’r prif gymeriad, Menna Beynon, yn Brif Weithredwr (-wr, cofier) ‘Corff yr Iaith Gymraeg’; cawn ddehongli’r enw fel y mynnom, fel gyda ‘Phwyllgor Gorffen yr Iaith Gymraeg’ a grybwyllir unwaith neu ddwy yng nghwrs yr hanes. Diolch byth am hynny, mae gan Menna ei phwll nofio preifat lle gall ymlacio yng nghanol gofalon pwysfawr ei swydd. Yn yr hanner tudalen cyntaf, meddyliwch, darllenwn fel y bu raid iddi gyfarfod yn y bore â dau gynrychiolydd o Wlad y Basg ac yna mynd â hwy i ginio mewn bwyty Eidalaidd, a heno mae wedi addo mynd i seremoni’r BAFTAS yn Neuadd Dewi Sant i gefnogi Haf, ei ffrind o actores sydd wedi ennill un o’r prif wobrau. A thros y dyddiau nesaf, cyfrifoldeb aruthrol arall fydd dewis logo newydd fel rhan o ailfrandio’r Corff.

Teimlaf am y nofel hon, fel am nofel dditectif, na ddylai adolygiad ddatgelu gormod o’r plot. Cawn syndod newydd o hyd nes ein gyrru i ofyn beth yw cymhellion y cymeriadau, a thrwy hynny ein cadw i droi tudalennau, – sef y peth mawr. Ond gan ei fod yn y broliant ar gefn y llyfr, cawn ddweud beth yw’r taranfollt sy’n taro Menna cyn diwedd noson y BAFTAS. Daw llais o’r gorffennol, llais hen gariad coleg iddi, gan ei blacmelio am swm o arian. ‘Roedd Menna wedi tynnu allan o brotest a laniodd Trystan yng ngharchar, a thra bu ef yn straffaglu byw, cododd Menna i res o swyddi bras yn y brifddinas …’ Defnydd y nofel yw ymateb Menna i’r bygythiad hwn, a hefyd ymateb y ddau ddyn agosaf ati: Richie ei gŵr, sy’n ‘un o gyfarwyddwyr cwmni arwerthu Mansel Allen ar Churchill Way’; a Hywel, y bu iddi berthynas ag ef rai blynyddoedd yn ôl, ac nid perthynas ddibwys chwaith, ‘pennaeth cwmni cyfreithiol Cymraeg amlycaf Caerdydd’ – yntau bellach yn briod â Haf wedi dwy briodas arall dra gwahanol i’w gilydd. O gwmpas Menna try amrywiaeth bellach o gydnabod personol a phroffesiynol, mewn bywyd sy’n gofyn llawer o wledda allan ac mewn byd lle llifa aberoedd o wahanol ddiodydd gan achosi ambell dro anffodus.

Gwahanol yw byd Trystan. Ond a oes ganddo achos o gwbl? Achos cyfreithlon, nac oes wrth gwrs. Ond achos moesol? Gallwn ddeall pam mae ef yn cnoi wrth feddwl am yr yrfa a gafodd ei gyn-gariad, gyrfa o bowlio’n ddidrafferth drwy’r drysau troi-rownd o un cwango i’r nesaf. Ond gofynnwn a yw ef wedi ei gosbi gymaint ag y mae’n ei feddwl am iddo unwaith ‘weithredu’ dros yr iaith. A oedd raid iddo fynd i Loegr yn syth ar ôl ei ryddhau o’r carchar? ‘Falle nad oedd raid, ond fan’na oedd y swyddi.’ Cafodd waith yng Nghymru drwy’r blynyddoedd wedyn, a hwnnw’n waith i’r llywodraeth, ‘Dydi perthyn i Gymdeithas yr Iaith erioed wedi bod yn rhwystr i ddyrchafiad,’ meddai Wyn Ellis-Evans, Cadeirydd ‘Y Corff’. Ie, dyn bydol-ddoeth a diddyfnder sy’n ei ddweud, ond mae’n debyg ei fod yn wir. A beth yn union sydd gan Trystan i’w ddatgelu am Menna? Amryw bethau bach sydd â’r effaith o’i hanesmwytho. Ond a all mewn unrhyw fodd fod yn gwybod y peth mawr, am ei pherthynas hi â Hywel? Pam yr ymatebodd Hywel fel y gwnaeth? Mae peidio â dweud gormod yn allweddol yn y nofel hon, ac yn rhan o’i llwyddiant.

Gwir hynny hefyd am y dychan sy’n rhedeg drwyddi. Ceir rhai yn ein cynghori y dylai dychan fod yn ‘gynnil’ neu’n ‘ysgafn’ bob amser; dyweder hynny wrth Aristoffanes, Iwfenal, Molière, Ellis Wynne, Twm o’r Nant … Ond weithiau gall y dychanwr yn bwrpasol atal ei law, fel y gwneir yma. Rydym yn deall yn ddigon buan mai dyn llyfn, llwyddiannus yw Hywel ac mai cymeriad sinigaidd, adweithiol yw Richie, ac nid oes raid dyrnu ar y ddealltwriaeth sydd rhyngddynt hwy, a chysylltiadau eraill hefyd, ynghylch y datblygiad tai mawr yng Nghasnewydd. ‘The stench of homely corruption,’ chwedl Harri Webb ers talwm, gwyddom ei fod o gwmpas, a rhaid ei dderbyn, fel y tywydd. Mae ergyd ddychanol fawr y nofel yn yr hyn nas dywedir, yn y cwestiwn nas gofynnir. Digwydd y stori dros gyfnod o ryw dri mis. Erbyn diwedd y cyfnod, a oes unrhyw beth wedi ei wneud i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg a’i rhagolygon? Go brin. Nid oes hyd yn oed sôn fod y logo newydd wedi ei ddewis! Rhyngddynt, mae’n beryg fod Richie a Menna wedi taro ar wirionedd. Meddai ef ‘Chwara’r system ydan ni i gyd yntê, does dim mwy i’r peth na hynny.’ Gofyn hithau ‘Neu ai’r system sy’n ein chware ni?’

‘Gobaith Mawr y Ganrif’, gobaith yr ugeinfed ganrif ydyw wrth gwrs, a darn go fyr ohoni at hynny. Cawn wybod fod Menna, Trystan a rhai o’u cyfoedion yn dal i’w goleddu ar ddechrau’r 1980au, ond i rai ohonom fe dderbyniodd ergyd yn ’79 nad yw wedi dod trosti eto. A oes unrhyw un yn ei fagu bellach? Yn ddiweddar mewn pwt o ddarlith, wrth edrych yn ôl dros y trigain mlynedd diwethaf yn hanes Cymru a hynt yr iaith yn benodol, mi ofynnais y cwestiwn ‘beth a ddylem ni, neu a allem ni, fod wedi ei wneud yn wahanol?’ Teimlaf fy ngyrru gan y nofel hon i’w ofyn eto.

Dyma inni unwaith yn rhagor y cyfuniad a welwn yn holl nofelau Robat Gruffudd, dealltwriaeth o’r sgôr wleidyddol a diwylliannol yng Nghymru ynghyd â stori sy’n cydio’n syth ac yn gyrru ymlaen â sicrwydd. Nid ydym byth yn gwybod beth a wneir nesaf gan yr un o’r pedwar prif gymeriad, ond pan ddaw mae’n argyhoeddi. Mae yma naws y foment, un o brif hanfodion ffuglen, a’r dialog yn fyw mewn sawl tafodiaith.

Cwestiwn mawr arall. Beth sy’n egluro bywiogrwydd ffuglen Gymraeg heddiw, a chymaint o bethau eraill yn mynd i lawr?

2 Ymateb to “Peidio dweud, peidio gofyn …”

  1. Jina Ebrill 20, 2024 at 8:00 am #

    euogrwydd ynnachosi’r awydd i ddianc i fyd ffantasi?

    diolch am adolygiad perffaith – dweud digon heb ddatgelu gormod, ac yn creu ysfa i fynd i brynu’r gyftol ( neu fenthyg copi’r gŵr!)

  2. glynadda Ebrill 20, 2024 at 10:21 am #

    Diolch Jina. Gwerth ei chael, fel nofelau Robat i gyd.

Gadael sylw