Hanner ffordd drwodd ac o’r pellter hwn, mae’n ymddangos fod ‘Steddfod y Stryd’ yn llwyddiant diamheuol. Eisoes mae dyn yn dechrau meddwl pryd y gellir ei wneud eto, ac ym mhle. Y funud hon nid yw’n hawdd meddwl am leoliadau addas, ond efallai y daw rhyw weledigaeth. Yn y cyfamser, siawns na fydd yr eisteddfodwyr yn barod i ddygymod rai troeon eto â’r mwd traddodiadol.
Ond diflas yw’r ensyniad a glywyd braidd yn rhy aml y dyddiau diwethaf, fod yr Eisteddfod cyn hyn yn ‘gaeedig’. Peidiwch â siarad lol, wir. Mae ffens o gwmpas cae sioe a chae rasys ceffylau a chae ymryson cŵn defaid a chae pêl-droed. Os yw’r hyn sy tu mewn yn apelio atom rydym yn talu am fynd i mewn, a dyna ni. Nid ataliwyd neb erioed o unrhyw eisteddfod oherwydd ei iaith na’i liw na’i darddiad; ac fel mae’r blog hwn wedi dweud o’r blaen. yr unig beth a all wneud ambell Eisteddfod Genedlaethol ychydig yn llai hygyrch yw traffig yr ardal o gwmpas.
Trawodd un peth fi eleni, sef cyn lleied a wna’r cyfryngau, Cymreig ac arall, o Eisteddfod Llangollen. Gwneler yn fawr o hon, yn lle cwyno a chynrhoni yn erbyn Cymreictod yr Eisteddfod Genedlaethol.
Geirda i’r Archdderwydd am un peth a ddywedodd wrth goroni Catrin Dafydd, sef ein hatgoffa am ei gwaith ardderchog fel ymgyrchydd dros y blynyddoedd. Wrth longyfarch Catrin yn wresog heddiw, cofiaf am ei harweiniad ym mlynyddoedd cynta’r ganrif ar fater y Coleg Cymraeg Ffederal, – y rali a drefnodd yn Eisteddfod Meifod 2003, a’r wylnos ar noson oer iawn o’r Gwanwyn dilynol ar risiau’r Cynulliad. Rhoddodd Catrin dân yn yr ymgyrch ar adeg pan oedd cynifer o bobl eraill yn claddu eu neiniau neu’n torri eu gwalltiau neu o blaid ‘cydweithio, nid Coleg Ffederal’ – yn cynnwys rhai sy’n sêr disglair yn ffurfafen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol erbyn heddiw.
Am wahanol resymau ni bûm erioed mewn Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Dyma’r bedwaredd imi ei cholli. Ond cofiaf y sôn wythnos Eisteddfod 1960 fod ‘y brifddinas yn cynhesu at y Gymraeg’ a rhyw bethau felly. Hyd yma nid yw’r ffigurau’n dweud ei fod wedi digwydd. A yw’n mynd i ddigwydd y tro hwn?
Clywn yn ddigon aml am y ‘cynnydd’ a’r ‘bwrlwm’, a chyfeirir at dwf addysg Gymraeg yn y ddinas a thrwy’r de-ddwyrain yn gyffredinol. Addewir agweddau mwy cefnogol eto, a mwy o ddarpariaeth, gan Gyngor Caerdydd. Da iawn os yw’n wir. Ond mae un agwedd ychydig yn rhyfedd ar hyn oll. Ddeugain i hanner can mlynedd yn ôl, ofn mawr y gwleidyddion Llafur a’u gweision oedd y byddai ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn magu cenedlaetholwyr. Nid ymddengys fod hynny’n digwydd o gwbl. Mae’n berffaith saff.
Peth arall y clywsom dipyn o sôn amdano yw’r duedd newydd gan deidiau a’r neiniau o’r ardaloedd Cymraeg i brynu ail gartref yn y brifddinas er mwyn ‘carco’r wyrion’. Iawn meddwn innau, ac fel y mae’r blog hwn wedi dweud o’r blaen mae’n iawn i bob Cymro gael hendref a hafod os gall eu fforddio. Ond beth am weithio y ffordd arall hefyd? Gymry proffesiynol, llwyddiannus a chefnog Caerdydd, gofalwch eich bod yn prynu tŷ yn eich hen fro a chadw rhyw droedle yno. Byddai hynny’n rhywbeth.
difyr fel arfer. Hoffwn i weld yr Eisteddfod yn “rhannu y cariad” ym mhob bro mae’n ymweld gyda, hynny yw mae’r trigolion lleol yn chwysu chwartiau i godi aran a busnesau lleol yn darparu nawdd i gefnogi yr Wyl ond nifer fechan o’r busnesau yn y broydd megis siopau, bwytai a thafarndai yn elwa yn ariannol wythnos yr eisteddfod. Mae pawb yn aros ar y maes carafannau gyda’r criw arferol o bobl, mae pawb yn aros ar y maes ar gyfer y bar a’r adloniant hwyr a gweithgareddau eraill. Mae hyn i gyd wedi gwella naws yr Wyl ond mae wir angen i’r Eisteddfod cynnal digwydyddiadu yn y trefi – yn yr ysgolion, capeli, neuaddau, colegau, canol drefi , sefydliadau amgen sydd yn britho llefydd fel Caernarfon, Abertawe, Caerfyrddin, Llanelli. Byddai hyn yn siwr o agor llygaid y mwyafrif llethol o;r trigolion lleol sydd ddim yn yn mynd ar gyfyl y steddfod ( cofiwch mai minority sport yw hi ) fel ma wedi gwneud yng Nghaerdydd. Bydd yn ddidorol gweld sut ffurf gymrith steddfod Tregaron, mae pafiliwn Bont lan yr hewl a choleg Llambed ar bwys hefyd. Sortiwch digon o fysus gwennol mas i arbed y traffig hefyd ar yr hewlydd cul. Siwr ewn ni nol at y pwdel yng Ngheredigion!
Awgrymiadau da, digon i feddwl amdano. Ond mae’n debyg na bydd byth osgoi ar y pwdel !
Cytuno; gwir pob gair. Bruce
Clywch, clywch parthed Steddfod Llangollen sydd wedi gwneud gwaith arwrol yn dilyn yr Ail Ryfel Byd i ddangos cenhedloedd ar eu gorau. Pe bai’r fath ddathliad yn rhan o’r Fringe, mae’n sicr y byddai’r wasg a’r cyfryngau yn moli llawer mwy arno. Beth yw’r rheswm am eu tawedogrwydd dybed??
Cytuno hefyd gyda’r anogaeth ar i Gymry’r ddinas brynu ail gartrefi yn eu hardaloedd genedigol – byddai’n ateb dau ddiben : rhwystro mwy o fewnfudo uniaith Saesneg; a chadw’r cyswllt gyda’i gwreiddiau.
Os oes angen pwdel/llacs/mwd ar ambell un o blith yr eisteddfodwyr, gallai’r Cynulliad fod o help trwy gludo’r mwd ymbelydrol maen nhw wedi ei groesawu o orsaf niwclear Hinkley, Gwlad yr Haf, a’i daenu ar risiau’r Senedd. ‘Nostalgie de la boue’,yn wir.
Diolch, Glyn Adda, am y math o sylwadau yr oeddem yn arfer eu cael ar y radio ers talwm, pan gafwyd trafodaeth fywiog, deifiol a digrif ar weithgareddau’r dydd ar y maes. Ble’r aeth yr hiwmor a’r dychan?
Ac fe fyddai’n dda i rai o’r sylwebwyr ar y cyfryngau gael copi bob un o lyfr Dafydd Glyn Jones, ‘Iawn Bob Tro’, i ddysgu rheolau’r iaith yn well. Nid yw rhai ohonynt yn gwybod yr wyddor yn Gymraeg, ‘chwaith, na sut i’w hadrodd.
Rydych yn hollol iawn, Dydy’r Eisteddfod wastad wedi bod yn agored i bawb. Ond nid y realiti oedd y broblem i lawer o’r Gymru ddi-gymraeg ond y canfyddiad – yr ofn o deimlo estronwyr ymysg cymdeithas glos oedd yn siarad iaith wahanol. Dydy’r Eisteddfod Caerdydd heb newid realiti ond mae’n cyflawni jobyn ‘PR’ ardderchog. Yn fy nhyb i mae’n holl bwysig i’r dyfodol yr iaith bod y Cymry di-gymraeg yn medru meddwl o’r iaith fel rhywbeth pwysig iddyn nhw – rhan o’u heithafiaeth.