Ydi hi’n ddiwrnod Ffŵl Ebrill, deudwch? Oes rhywun yn rhywle’n tynnu coes.?
Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn newid ei henw yn ‘Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton’.
Nid yr hen G.A. sy’n breuddwydio ? Mae hyn yn wir, ydi ?
Wel os felly dyma awgrymu ambell enw arall ar gyfer rhai o adrannau blaengar prifysgolion Cymru:
Ysgol Resymeg Donald J. Trump, Prifysgol Aberystwyth
Ysgol Iaith a Diwylliant Cymraeg George Thomas, Prifysgol Caerdydd
Ysgol Athroniaeth Foesol a Dyngarwch Vladimir Pwtyn, Prifysgol Glyndŵr
Ysgol Economeg Fred the Shred, Prifysgol Bangor
Ysgol Gweinyddiaeth Dryloyw a Dim-Defnyddio-Tun-Blacin Kim Jong Un, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Metropolitan Abertawe Coleg Ceredigion.
§
Ond gwell difrifoli mae’n debyg.
Ie, pathetig.
Chwerthinllyd i’r eithaf.
Tynnwch yr un arall … mae arni glychau 😉