Unwaith yn rhagor dyma’r ddau doriad o Seren, papur Saesneg myfyrwyr Bangor, a’r tro hwn rhoddais ychydig danlinellu yn y naill a’r llall.
Wedi darllen y frawddeg wedi ei thanlinellu mewn GWYRDD yn y toriad cyntaf, hwyrach yr hoffech fwrw golwg ar flog Jac o’ the North, 18 Chwefror, ac yna’r ddolen oddi yno i flog 26 Ionawr. Fe ddywed Jac bethau gwir a phwysig am ymyrraeth myfyrwyr mewn gwleidyddiaeth leol, a hefyd am ddylanwad yr N.U.S., magwrfa draddodiadol i wleidyddion Llafur.
Wedyn yr ail doriad. Unwaith eto, beth yw neges y frawddeg wedi ei thanlinellu mewn COCH ? Gadawaf y cwestiwn ar fwrdd Plaid Cymru, rhanbarth Arfon.
Gadael Ymateb