Colli Meredydd Evans

21 Chw

Yr oedd Mered mewn oedran teg. Gwyddem ei fod yn wael iawn ers rhai dyddiau.  Serch hynny chwithdod mawr fu clywed heno am ei golli. Ysgytwad hefyd.  Hyn yn arbennig oherwydd ei gefnogaeth bersonol ddiysgog mewn sawl mater. Gwn y bydd llawer yn rhannu’r union deimlad.

Cafodd fywyd llawn, lliwgar ac amrywiol. O’r Co-Op yn Ffestiniog daeth yn fyfyriwr disglair mewn athroniaeth. Bu’n aelod o staff Y Cymro, yn diwtor yng Ngholeg Harlech, yn ddarlithydd ac ymchwilydd mewn dwy o brifysgolion America. Wedi dychwelyd i Gymru bwriodd ddau gyfnod fel darlithydd allanol yng ngholegau’r Brifysgol, a rhwng y ddau, tymor llwyddiannus iawn fel cynhyrchydd yn y BBC.  Creodd nifer o raglenni yn y traddodiad gorau o gyfuno difyrrwch a sylwedd, ac yn anad un dim efallai gosododd seiliau’r mudiad canu poblogaidd Cymraeg y mae’n rhaid ei gyfrif yn un o brif lwyddiannau’r hanner canrif diwethaf.   Parhaodd ei frwdfrydedd dros ei briod bwnc academaidd, a bu’n dŵr o nerth dros y blynyddoedd i Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion.  Yn gyfochrog parhaodd ei ymchwil aruthrol i hanes ein caneuon gwerin, gan eu perfformio er addysg a mwynhad difesur. Ddechrau’r 1970au ef fu ysgogydd cychwynnol sefydlu Y Dinesydd yng Nghaerdydd, y papur bro cyntaf. Dyna egin pren deiliog arall.

Wedi gweithio oddi mewn i fwy nag un sefydliad yng Nghymru, gwelai Mered yn glir iawn rai o’u cyfyngiadau a’u methiannau, a daeth yn fwy a mwy o ymgyrchydd, yn fewnol ac allanol.  Yn ystod y blynyddoedd diweddar bu’n llywydd Cylch yr Iaith, mudiad bychan a fu ac sydd eto yn mentro i feysydd lle na throedia pawb.  Ymgyrchu diball Cylch yr Iaith a gadwodd fater y Coleg Cymraeg Ffederal ar yr agenda wleidyddol am dair blynedd ar ddeg, gan sicrhau yn y diwedd greu ‘y Coleg Cymraeg Cenedlaethol’ fel y gelwir ef bellach.  Bydded i bawb sydd mewn unrhyw fath o gysylltiad ag ef gofio hyn.

Ie, un o gewri ein hoes oedd Mered, heb rithyn o amheuaeth.  Safai ar wahân i dyrfa’r hunangeiswyr digywilydd. Tra bydd Cymry fe erys ffrwyth ei waith. Cawn hefyd ddal i wrando ar Driawd y Buarth, Mari Fach, yr Hen Feic Peni-ffardding.   A Charol y Blwch.

O’r tŷ hwn yr ydym am fod ymhlith y lliaws a fydd am estyn cydymdeimlad a dymuniadau da i Phyllis, Luned a’r teulu.

Un Ymateb to “Colli Meredydd Evans”

  1. JiG Chwefror 22, 2015 at 8:53 am #

    Clyw, clyw. Teyrnged gytbwys ac yn sicr yn taro tant ar yr aelwyd hon. Diolch

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: