… etholiadol ac arall
● Ganol Mai, ar wahoddiad Cyfeillion Ellis Wynne ac Adran y Gymraeg, ‘Prifysgol’ Bangor, mi rois bwt o sgwrs yn Nhalsarnau ar destun Y Bardd Cwsg a Jonathan Swift. Awgrym i’r trefnwyr at y flwyddyn nesaf: llogi Stadiwm y Mileniwm a chael sesiwn ar ‘Wynne (Ellis) a Swift (Taylor).’ Beth amdani, gan gofio fod Taylor neithiwr wedi cyfarch y gynulleidfa yn iaith y Bardd Cwsg ? Y miloedd wedi cael noson i’w chofio yn ôl yr hanes, dim ond rhyw £700 y pen ar gyfartaledd. Be ydi hyn am ryw ‘Argyfwng Costau Byw’ deudwch?
● Ac ychydig filltiroedd i fyny’r lôn, pobl Stad y Gurnos wedi cael modd i fyw am fod Syrcas Deithiol Nigel Farage wedi ymweld â’u bro. Awn ni ddim ar ôl y cwestiwn be ddywedai Henry Richard, Keir Hardie ac S.O. Davies … Ond dal ati Nigel, i ddwyn tipyn oddi ar Lafur, yn enwedig tua’r Alban yna.
● Boris o’i wyliau yn Sardinia yn anfon negeseuon o gefnogaeth i ymgeiswyr Torïaidd yma ac acw. Tebyg iawn i Lloyd George, yn Jamaica ar y pryd ac wedi clywed am drosglwyddo prawf yr Ysgol Fomio i Lundain, yn sgrifennu at ei ferch Megan: ‘Fe fyddai’n dda gen i fod yna, ac yn sicr fe fyddai’n dda gen i fod 40 mlynedd yn iau. Fe fyddwn i’n barod i fentro protest a fyddai’n eu herio nhw. Petawn i’n Saunders Lewis fyddwn i ddim yn ildio yn yr Old Bailey; byddwn yn mynnu eu bod nhw’n f’arestio i, a dydw i ddim yn siŵr na wnawn i hi’n anodd iddyn nhw wneud hynny. … Rydw i’n gobeithio y bydd yr Aelodau Cymreig yn codi helynt, a honno’n effeithiol, yn y Tŷ.’
● Cwyno fod gormod o sŵn yr Efengyl mewn ysgol uwchradd ym Mhowys. Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘nad oes hawl gan ysgolion cymunedol i fod â gogwydd crefyddol’. Tybed? Ydi ‘Rasembli’ boreol yn dal yr un fath? Emyn, darlleniad, gair o weddi, cyhoeddiadau, llongyfarchion, a chloi gyda ram-dam am rywbeth neu’i gilydd, sef uchafbwynt yr addoliad i’r rhai ohonom oedd yn digwydd bod yn ddieuog y bore hwnnw.
● Gwylied Stephen Kinnock ei hun ! Mae Capten Beany yn ei herio yn enw Plaid Honco Wirion. A beth am siawns Syr Grumpus L. Shorticus ar ran yr un blaid ym Môn? Rhy gall, mae’n beryg.
“a chloi gyda ram-dam am rywbeth neu’i gilydd”.
Wna’i byth anghofio fy wythnos gyntaf yn ‘rysgol fawr. Newydd orffen canu’r emyn,
“There’s a wideness in God’s mercy
Like the wideness of the sea;
There’s a kindness in His justice
Which is more than liberty”
Cyn i’r nodyn olaf farw, dechreuodd y prifathro fytheirio, “Bring David Evans to me, and I will throttle him in front of the whole school”
Gwneud dynion ohonom…
Nodweddiadol !