Brysiwch i ddarllen …

28 Mai

Brysiwch i ddarllen ysgrif Dylan Morgan ar Nation Cymru.

Ydi’r tri Niwciwr Mawr (Rh. ab I., Ll.M a L.S,-R.) yn mynd i ateb yr erthygl bwynt wrth bwynt? (Nid rhyw falu awyr am ‘yr hogyn bach dros y ffordd’ a rhyw rwtsh felly.)

Ydyn nhw wedi darllen llyfr Mabon eto?

Dros fwy nag un etholiad diweddar, a’r tro yma’n fwy nag erioed, rwyf wedi teimlo am B.C., unrhyw gefnogaeth gaiff hi, fe’i caiff am yr hyn ddylai hi fod, nid am yr hyn yw hi.

Ac fe’i caiff hi, os caiff hi, yn yr Hen Dywysogaeth, Cymru Cunedda. Beth am y ‘torri trwodd’ hwnnw yn y De, a ddisgwylir ers trigain mlynedd? Drwy ei thriniaeth warthus o Leanne, taflu’r cyfle i ffwrdd eto.

Imi gael dweud wrthych, byddaf yn fotio i Catrin Wager yn etholaeth newydd (a digon rhyfedd) Bangor-Aberconwy. Bu Catrin yn gynghorydd da dros y ward lle rwy’n byw, yn ateb llythyrau, yn delio â phethau’n syth, ac yn cymryd ochr pan oedd rhai eraill ‘heb glywed’.

Ond am y cynghorwyr hynny oedd yn rhy bwysig i ateb fy llythyrau i ar fater y Premiwm, rwy’n addo eto, gewch chi fynd i ganu.

Gadael sylw