Newydd Sbon gan Ddalen Newydd

29 Mai

Fel awdur storïau byrion a nofelau y meddyliwn yn gyntaf a phennaf am Kate Roberts. Ond da yw cofio mai fel dramodydd y dechreuodd ar ei gyrfa lenyddol. Bu iddi ymwneud â thua phymtheg o ddramâu, fel cyfieithydd, fel cyd-awdur ac fel awdur yn ei hawl ei hun. Yn y gyfrol hon cyhoeddir am y tro cyntaf dair drama gyfan, wreiddiol o waith Kate Roberts.

Drama yw Ffarwel i Addysg yn atgofio dyddiau coleg ac yn lleisio rhyw anniddigrwydd ynghylch safle merch mewn amodau caethiwus, sy’n thema mor gyfarwydd yn ei gweithiau eraill. Perthyn Y Cynddrws i ddosbarth neu dylwyth diddorol o lenyddiaeth am bobl yn cyfarfod yn y byd a ddaw, neu ar ei drothwy. A thybed beth a wnewch chwi ddarllenwyr o’r sgets Wrth Aros Loco ?

Mewn Rhagymadrodd cynhwysfawr olrheinir holl berthynas Kate Roberts â’r ddrama, gan gysylltu ei themâu fel dramodydd â phrif themâu ei gwaith.

£15.00

Gan eich llyfrwerthwr neu o dalennewydd.cymru

Gadael sylw