Archif | Mehefin, 2024

Farage, Pwtyn ac ati

23 Meh

Yr hen Farage o dani yn ofnadwy oherwydd ei sylwadau am ryfel Wcrain. Ond arhoswch chi, doedd ei safwynt ddim mor wahanol i’r hyn a ddywedodd y blog hwn ar 21 Mai 2022, https://glynadda.wordpress.com/2022/05/.

Syndod, siom hefyd, yw gweld John Swinney, Prif Weinidog yr Alban a dyn call iawn fel rheol, yn dweud yr un peth â gwleidyddion y consensws marwol ar y pwnc dan sylw, ac yn ei ddweud mor gryf. N.F. yn ‘fradwr i fuddiannau pobl yr Ynysoedd hyn’. Efallai ei fod, mewn rhyw bethau, ond nid yn y cyswllt hwn.

Tipyn o ymateb ar wefan The National https://www.thenational.scot/news/24405150.john-swinney-nigel-farage-traitor-people-uk/, gwerth ichi droi ati. Bob yn ail â digon o’r cecru niwrotig sy’n nodweddu trafodaethau’r Alban y dyddiau hyn, fe welwch safbwyntiau sy’n hawlio sylw. Powliwch i lawr at ail ymateb Brian Doyle ac yna ymateb Bill Cockburn, y ddau yn grediniol fod llaw gwasanaethau cudd gwledydd y Gorllewin mewn gyrru cwch i’r dŵr yn Wcrain a rhoi esgus i’r Pwtyn fynd i ryfel er mwyn ychwanegu at ei rym a’i boblogrwydd. Rhyfedd na byddai Swinney’n ymwybodol o bethau fel hyn. Onid yw’n cofio ‘Diwrnod Fred West’ yn ei wlad ei hun?

Beth bynnag, rhagwelaf nad yw Farage yn mynd i golli cymaint ag un bleidlais ar gyfri’r mater hwn, na neb arall yn mynd i ennill un. Arall yw cerdyn Nigel, sef y Mewnfudo. Hyn sy’n ei wneud yn arwr gwerin, yn deilwng olynydd i ‘Old Enoch’ yng ngolwg etholwyr anwleidyddol nas cynhyrfir ond gan ambell ddôs o’r Adain Dde. (A chyda llaw, hyd yma nid wyf wedi clywed yr un blaid na’r un ymgeisydd yn sôn am broblem Mewnfudiad pobl wyn i Gymru o wlad gyfagos!)

Brysiwn at destun arall, rhag ofn ichi feddwl fod y blogiwr hwn wedi mynd yn bleidleisiwr Reform! Yn ei sgwrs â Nick Robinson echnos fe’i cyhoeddodd N.F. ei hun yn niwciwr i’r gwraidd, â’i ffydd yn llwyr yn yr ‘adweithyddion bychain’ y mae Rolls-Royce yn eu cymell arnom am bris aruthrol. Dyma felly osod Nigel ar yr un ochr â Rhun, Liz a Llinos Medi, gyda’r hen G.A. ar yr ochr arall.

Ychydig o hwyl …

19 Meh

… etholiadol ac arall

● Ganol Mai, ar wahoddiad Cyfeillion Ellis Wynne ac Adran y Gymraeg, ‘Prifysgol’ Bangor, mi rois bwt o sgwrs yn Nhalsarnau ar destun Y Bardd Cwsg a Jonathan Swift. Awgrym i’r trefnwyr at y flwyddyn nesaf: llogi Stadiwm y Mileniwm a chael sesiwn ar ‘Wynne (Ellis) a Swift (Taylor).’ Beth amdani, gan gofio fod Taylor neithiwr wedi cyfarch y gynulleidfa yn iaith y Bardd Cwsg ? Y miloedd wedi cael noson i’w chofio yn ôl yr hanes, dim ond rhyw £700 y pen ar gyfartaledd. Be ydi hyn am ryw ‘Argyfwng Costau Byw’ deudwch?

● Ac ychydig filltiroedd i fyny’r lôn, pobl Stad y Gurnos wedi cael modd i fyw am fod Syrcas Deithiol Nigel Farage wedi ymweld â’u bro. Awn ni ddim ar ôl y cwestiwn be ddywedai Henry Richard, Keir Hardie ac S.O. Davies … Ond dal ati Nigel, i ddwyn tipyn oddi ar Lafur, yn enwedig tua’r Alban yna.

● Boris o’i wyliau yn Sardinia yn anfon negeseuon o gefnogaeth i ymgeiswyr Torïaidd yma ac acw. Tebyg iawn i Lloyd George, yn Jamaica ar y pryd ac wedi clywed am drosglwyddo prawf yr Ysgol Fomio i Lundain, yn sgrifennu at ei ferch Megan: ‘Fe fyddai’n dda gen i fod yna, ac yn sicr fe fyddai’n dda gen i fod 40 mlynedd yn iau. Fe fyddwn i’n barod i fentro protest a fyddai’n eu herio nhw. Petawn i’n Saunders Lewis fyddwn i ddim yn ildio yn yr Old Bailey; byddwn yn mynnu eu bod nhw’n f’arestio i, a dydw i ddim yn siŵr na wnawn i hi’n anodd iddyn nhw wneud hynny. … Rydw i’n gobeithio y bydd yr Aelodau Cymreig yn codi helynt, a honno’n effeithiol, yn y Tŷ.’

● Cwyno fod gormod o sŵn yr Efengyl mewn ysgol uwchradd ym Mhowys. Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘nad oes hawl gan ysgolion cymunedol i fod â gogwydd crefyddol’. Tybed? Ydi ‘Rasembli’ boreol yn dal yr un fath? Emyn, darlleniad, gair o weddi, cyhoeddiadau, llongyfarchion, a chloi gyda ram-dam am rywbeth neu’i gilydd, sef uchafbwynt yr addoliad i’r rhai ohonom oedd yn digwydd bod yn ddieuog y bore hwnnw.

● Gwylied Stephen Kinnock ei hun ! Mae Capten Beany yn ei herio yn enw Plaid Honco Wirion. A beth am siawns Syr Grumpus L. Shorticus ar ran yr un blaid ym Môn? Rhy gall, mae’n beryg.

Dim gwobr …

16 Meh

Na, dim gwobr am ddyfalu’r testun heddiw eto.

● Dros bythefnos i fynd, digon o amser, siawns, i’r Albanwyr anghofio siom y bêl-droed echnos. Tipyn o drafodaeth ar un o’r gwefannau Albanaidd am effeithiau gwleidyddol a seicolegol llwyddiant a methiant mewn chwaraeon. Faint o les gwleidyddol a wnaeth llwyddiant Cymru mewn rygbi ddyddiau fu? Ateb syml: DIM.

● Pennawd un o’r papurau ddydd Gwener, fod rhyw arolwg yn dangos Llafur yn curo’r Ceidwadwyr ‘on defence’. Beth yw ystyr hyn tybed? Fod botwm niwclear Syr Keir yn fwy poblogaidd? Ynteu fod ‘nashynal syrfus’ Rishi yn llai poblogaidd?

● Ac ar y pwnc diwethaf, clywsom yn ‘Seiat y Ddau Arweinydd’ y noson o’r blaen na all plant Rishi ddim disgwyl nes i’r peth ddod. Edrych ymlaen yn ofnadwy, meddai eu tad. Ydyn, dyffeia’-i nhw! Petai’r breuddwyd yn cael ei wireddu, plant pa ddosbarth, ddywedwch chi, fyddai’n rhoi’r ordors? A phlant pa ddosbarthiadau fyddai’n rhedeg ac ufuddhau?

● Peth ‘rhinweddol’ i’w wneud y dyddiau hyn yw wfftio at Farage. Rhaid imi ddweud, mae ‘be wnaiff Nigel’ os digwydd iddo gael ei ethol yn fy anesmwytho i lai na ‘be wnaiff ei gefnogwyr’ wedi cael gwynt dan eu haden. Nid amhosib fod ymyrraeth Reform y tro hwn yn gwneud tipyn bach o les drwy ddwyn nid yn unig oddi ar y Torïaid ond oddi ar Lafur hefyd. Oherwydd dyn a ŵyr, nid yw Llafur yn brin o bobl adweithiol. Rwy’n dweud wrthych eto, nid Farage sy’n cynrychioli pwerau’r tywyllwch yn yr etholiad hwn, ond Starmer. Daw hwnnw o ganol y Sefydliad, a chyda chefnogaeth y cyfryngau a’r gwasanaethau cudd, ef yw offeryn y Wladwriaeth Ddofn i atal annibyniaeth yr Alban, i ddiogelu Trident a thrwy hynny safle Lloegr yn y byd. Unrhyw un fydd yn cwyno wrtha’ i ei fod ei hun, neu berthynas iddo, wedi gorfod disgwyl 24 awr am ambiwlans, byddaf yn gofyn iddo ‘wnest ti fotio dros bedair sybmarîn newydd?’

● ‘Y Pwnc o Addysg’ chwedl Daniel Owen. Llafur am osod TAW ar ben ffioedd ysgolion preifat, a dyfalwch pwy sy yn erbyn. Beth bynnag am hynny, fel hyn y byddaf i’n meddwl. Croeso i unrhyw un agor ysgol breifat a chodi am gael mynd iddi. Y broblem fawr gydag ysgolion preifat Prydain yw fod cynifer ohonynt hefyd yn ysgolion preswyl. Os na chaiff plentyn fynd adre am ei de erbyn tua phedwar o’r gloch bob dydd, bydd yr effeithiau seicolegol ac emosiynol yn siŵr o ddangos. Ystyriwch – gydag eithriad, ac mae eithriadau – hogiau ysgolion bonedd Lloegr. A’i roi’n gynnil, dydyn nhw ddim chwarter call. Ac ystyriwch y canlyniadau ledled y byd.

● Rwy’n dal i edrych tipyn ar y gwefannau Albanaidd, The National, Wee Ginger Dug, Scot Goes Pop, Bella Caledonia &c. O leiaf mae yma olygwedd wahanol i stori feunyddiol y cyfryngau Prydeinig, ac yn wahanol i hen Flog G.A. maent yn derbyn llif o ymatebion. Rhaid dweud mai cenedlaetholwyr o wahanol fathau sy’n ymateb, rhai yn dal i gredu yn yr SNP, rhai yn llyncwyr mul ofnadwy, sy’n gwneud y drafodaeth yn dra niwrotig ar adegau. Ni chlywir byth leisiau’r Prydeinwyr. Ymatebwr diddorol ac adeiladol iawn yw ‘Scottish Skier’, meistr ar ystadegau ac un sy’n medru edrych tu ôl i’r arolygon barn. Gwerth ei ddarllen.

Chware Teg i’r Dyn Bach !

8 Meh

Pawb yn lladd ar yr hen Rishi yn y modd mwyaf ofnadwy. Ond ’rhoswch chi …

Arlywyddion yw Macron a Biden, yn cynrychioli gweriniaethau. Yn ogystal â bod yn bennau llywodraeth, mae’r ddau hefyd yn bennau gwladwriaeth. Fel arall mae hi yn y Deyrnas hon, pen llywodraeth yn unig yw’r Dyn Bach. Nid y fo, ond y pen coronog, sydd yn dechnegol yn ein cynrychioli ni oll ar achlysuron fel hyn. Ond dyna ni, amlwg na chroesodd ei feddwl ei amddiffyn ei hun ar y tir cyfansoddiadol hollol ddilys hwn.

Yr oedd Scholtz yno, er mai Canghellor, h.y. math o brif weinidog, ydyw, a bod Arlywydd yn dechnegol uwch ei ben. Pwy fedr enwi Arlywydd yr Almaen? Oedd o yn y Coffâd? Cystal bod y Canghellor yno, i ddiolch am y waredigaeth rhag yr enwocaf o’i ragflaenwyr.

Nid yn annisgwyl, fe siaradwyd llawer iawn o lol ar y ddau ddiwrnod. Yr hen Yncl Jo, er enghraifft, yn mwydro ’mlaen am America bob amser yn sefyll dros ryddid ac yn erbyn gormes. Chile … Nicaragua … El Salvador … &c &c.

 §

Yr ymatebwyr Albanaidd y bore ’ma yn bur bles ar berfformiad Stephen Flynn yn nadl y saith plaid neithiwr. Un ohonyn nhw hefyd wedi hoffi cyfraniad ‘the Welsh Nationalist laddie, I canna remember his name …’

Ond mewn difri calon ac yn enw’r nefoedd, be wnewch chi o un sylw gan arweinydd y Blaid? Fod gan Gymru ‘draddodiad balch’ — ia ar fy llw, ‘proud tradition’, dyna’i eiriau – o anfon pobl ifainc i’r lluoedd arfog. Traddodiad, oes, ond wedi ei greu gan ein sefyllfa israddol. Ar adeg fel hyn fe ddylai ‘Stwffio’r Sais a’i fyddinoedd’ fod yn hollol ganolog yn negesau PC a’r SNP. Ni ddaeth allan yn ddigon clir neithiwr, hyd yn oed yn atebion Flynn, fod y ddwy blaid genedlaethol ar berwyl hollol wahanol, ac mewn gêm holl wahanol, i eiddo’r pleidiau ‘Prydeinig’.

§

Tipyn o sôn ar y safleoedd Albanaidd am amddiffyniad milwrol y wlad honno os bydd hi rywdro yn annibynnol. Amryw’n dweud na allant feddwl ond am un wladwriaeth erioed sydd wedi ymosod ar yr Alban, ac mai Lloegr yw honno. Oes beryg i ryw wlad arall wneud? Go brin, oni bai fod Pwtyn yn gollwng un ar Glasgow am fod hoff longau tanfor Syr Anysbrydoledig wedi eu hangori yno.

Lloffion etholiadol

7 Meh

● Waw ! Darllen fod Rhun wedi ad-drefnu ei gabinet cysgodol. Mabon yn brif chwip ac yn llefarydd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Dewis da. O ran iechyd ac amgylchedd yng Nghymru, y prif beth heddiw a thros y blynyddoedd nesaf fydd DIM MWY O NIWCLEAR. Gobeithio y bydd Mabon, fel prif chwip, yn chwpio’r arweinydd, ynghyd ag o leiaf ddau ymgeisydd yn yr etholiad hwn, i gadw at bolisi gwrth-niwclear eu Plaid.

● Gweld dyfynnu Leanne heddiw, yn dweud mai Rhun fydd ‘llais Cymru’ yn y rhaglenni rhyngbleidiol. Trueni o hyd nad Leanne yw’r llais.

● Rishi wedi pechu’n ofnadwy drwy golli rhan o goffâd D-day. Cyn waethed tybed, mor ddamniol a niweidiol, â chôt ddwffl Michael Foot ar Ddydd y Cadoediad ers talwm?

● Helynt Vaughan Gething, a mater y ‘parasiwtio’. Peth peryglus yw proffwydo, ond rwyf am broffwydo y tro hwn. Yr effaith ar bleidlais Llafur yng Nghymru? DIM. Parasiwtiwch sach blawd efo ruban coch o ben draw’r byd, a’r cwbl a wêl yr etholwyr rhwng Blaenau Gwent a Llanelli fydd lliw’r ruban.

● Yr etholiad mwyaf digalon, a mwyaf chwerthinllyd hefyd, o fewn fy nghof i. O ran y ‘ddwy blaid fawr’, ras tua’r dde. A chlywais i erioed gymaint o guro’r drwm rhyfelgar mewn unrhyw etholiad – Syr Keir â’r botwm niwclear, Rishi â’i nashynal syrfus. Cyn sgriblo’r olaf ar gefn hen amlen, a oedd y dyn bach wedi ystyried Gogledd Iwerddon?