Wythnos i fynd, a dyma etholiad di-liw! Fel petai Syr Anysbrydoledig wedi bwrw’i hudoliaeth farwol ar bob dim. Cofio’r holl sticeri ceir ers talwm?
Beth bynnag, mae rhyw ychydig o daflenni wedi dod trwy’r drws yma.
● Reform UK ag un neges seml a chanolog: ‘THE IMMIGRATION ELECTION’. Rhyfedd nad oes yna ddim fersiwn Gymraeg yn cyhoeddi ‘ETHOLIAD Y MEWNLIFIAD’ ! Sut gwnaethon nhw anghofio?
● Llafur â thaflen arbennig i Fangor, ac yn addo pob peth i helpu Bangor. Da iawn.
● Dal i ddisgwyl neges gyffrous y Democratiaid Rhyddfrydol.
● Bythefnos yn ôl, onid y Nashynal Syrfus oedd y Weledigaeth Fawr oedd yn mynd i’w sgubo-hi i’r Dyn Bach? Go ryw dawel yw taflen ddiweddara’r Torïaid ar y pen hwn. Ein hymgeisydd yma, Robin Millar, yn dweud tua gwaelod y ddalen ei fod ‘o’i blaid’ – fel petai’n bodoli eisoes.
● Ond dyma ichi daflen.
‘Rwyf yn erbyn gwasanaeth milwrol gorfodol. Dweud “Na” i ganolfannau milwrol NATO a’r Unol Daleithiau ym Mhrydain. Sefyll yn erbyn adnewyddu Trident gyda chost o dros £21 biliwn, arfau niwclear eraill ac ynni niwclear hefyd … Dylid defnyddio’r arian hyn ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a thai cymdeithasol …’Go dda’r hen Blaid Cymru,’ meddech chi … ond rhwbiwch eich llygaid. Taflen Kathrine Jones, ymgeisydd y Blaid Lafur Sosialaidd (‘Plaid Arthur Scargill’) yw hon. Wir, mi ddyliwn fotio iddi, gan mai hi sy’n dweud y pethau y dylai Plaid Cymru fod yn eu dweud; ond rwyf wedi addo fôt i ymgeisydd arall …
● Pwy benderfynodd y byddai Plaid Cymru’n ymladd yr etholiad hwn heb yr un llwchyn o bolisi? Fel rwyf wedi dweud droeon o’r blaen, pob cefnogaeth y mae’r Blaid yn ei chael y dyddiau hyn, cefnogaeth ydyw i’r hyn a ddylai hi fod, yn ôl dealltwriaeth y Cymry Cymraeg. Am ba hyd y gall hyn barhau? A dod yn ôl at y Gwasanaeth ‘Cenedlaethol’ bonbigrybwyll, sut na neidiodd P.C. ar war y peth y funud y cyhoeddodd Rishi ei weledigaeth? Dowch o’na arweinwyr y Blaid, rhag ofn i’r peth ddod i fod ryw dro (e.e. drwy i Lafur gydio ynddo), be ydi’r cynllun, y plan, rŵan, i addo, i ofalu, i ymorol, i sicrhau ac i warantu na fydd byth yn weithredol yng Nghymru, mwy nag yng Ngogledd Iwerddon?
§
Lloffion o’r Alban
● Y polau wedi bod yn ddistaw iawn am tua phythefnos. Be mae hyn yn ei ddweud? Wedi deffro ychydig bach heddiw.
● Y Daily Record echdoe yn annog peth na wnaeth erioed o’r blaen: ‘VOTE LABOUR’. Be mae hynna’n ei ddweud?
● Rishi mewn neges i’r Albanwyr yn addo rhoi annibyniaeth ‘on the back burner’. Ei adael i ffrwtian yn dawel felly?
● Un peth rhyfedd ym maniffesto’r SNP, sef cael gwared â Thŷ’r Arglwyddi. Un o sefydliadau Lloegr yw’r siambr hynod hon, oedd yn bodoli ganrifoedd cyn Deddf Uno 1707. Mater i bobl Lloegr yw beth i’w wneud â hi os bydd yr Alban ryw dro wedi mynd. Ac fel rhan o ‘this our realm of England’ byddai i Gymru fach hithau ei rhan mewn penderfynu.
Styc yn Armenia ydw i. Beth yw’r sefyllfa ar Ynys Mon?
Dim syniad.