O Gwmpas Bangor

8 Medi

Rwyf am fod yn blwyfol iawn y tro hwn, ac am ymdroi o gwmpas Dyffryn Adda, sef Bangor a’r cyffiniau.

Y stori gyntaf yw fod Cwmni Redrow newydd gael cydsyniad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd i godi 245 o dai newydd ym Mhenrhosgarnedd.  Mae cryn wrthwynebiad i’w glywed yn lleol ar sail traffig, mynediad &c.  Gwrthwynebiad digon dilys mae’n ddiamau, ond y pwnc mawr, a’r pwnc digrif i feddwl yr hen G.A., yw hwn.  Fe ddynodir un rhan o dair o’r tai (81) fel “tai fforddiadwy”.  Pam codi’r ddwy ran o dair arall (163) felly, os na fydd neb yn gallu eu fforddio?  Beth fyddai esboniad Pwyllgor Cynllunio Gwynedd, a’r Cabinet, a’n cynghorwyr lleol?

Beryg bod yr hen sinig hwnnw’n iawn, “tai fforddiadwy” =  tai salach, i’r Cymry ?

§

Yn Stryd Fawr Bangor dyma globen o neuadd breswyl newydd gyda’r enw bras, NEUADD PENRHYN.  Cwmni o’r enw Fresh Student Living sydd wedi ei chodi. Mae’n ymddangos na wyddai’r cwmni, ac nad oedd neb wedi ei atgoffa chwaith,  fod NEUADD Y PENRHYN arall dri munud i lawr y lôn, ac yno ers canmlwydd a hanner, yn adeilad a sefydliad enwog ac yn gartref Cyngor y Ddinas.  Ie, “conffiws”, fel sylwyd yn y wasg leol eisoes.

§

Nid yn unig mae pobl wrthi hyd y lle ’ma heb wybod dim am y ddinas, ei daearyddiaeth na’i hanes, mae hefyd wedi codi “genhedlaeth nad adnabu Joseff”.  Arwydd o’r un peth yw’r enw sy’n cael ei gynnig ar y theatr newydd a fydd yn rhan o ganolfan Pontio, “Theatr Bryn Terfel”.  Cododd galwad am enwi’r theatr ar ôl Wilbert Lloyd Roberts, sylfaenydd Cwmni Theatr Cymru a sylfaenydd y theatr wreiddiol ar yr un safle: awgrym a llawer o synnwyr ynddo. Ond beth am gyn-fyfyriwr o Goleg Bangor ac yna darlithydd yno, yr un a gynhyrchodd ddramâu Cymraeg y Coleg yn flynyddol am ran orau ei oes, ac ysgrifennu rhai ohonynt, a gwasanaethu’n helaeth yn y gymdeithas tu allan fel cynhyrchydd, dramodydd a beirniad? Oes rhywun wedi meddwl am “Theatr John Gwilym Jones?”  Ac os naddo, pam?

Darllenwn mai “Theatr Bryn Terfel” yw dewis Cyngor Prifysgol Bangor, ac fe’i hamddiffynwyd gan y Prifathro John Hughes gan ddweud fod Bryn yn “enw mawr rhyngwladol yn y celfyddydau … eisoes wedi lleisio ei gefnogaeth i Pontio … ac wedi datgan ei fod yn falch iawn o’r cynnig.”  Ond wir, a yw’r un o’r rhain yn ddigon o reswm?  Caf yr argraff nad yw’r Prifathro Hughes yn dallt rhyw lawer o ddalltins am hanes y coleg na’r ardal na Chymru, ac nad yw wedi dechrau cropian ym myd y Pethe eto, ac argraff hefyd nad oes neb wrth law ar Gyngor na Llys Prifysgol Bangor i’w gynghori.

Y peth a barodd imi feddwl fel hyn o’r blaen oedd sylw anfaddeuol y Prifathro ddwy flynedd yn ôl pan oedd Prifysgol Cymru’n chwalu dan ymosodiad ei hen elynion. Yn ôl Dr. Hughes, newydd gyrraedd o’r Ynys Werdd, “brand llwgr” (tainted brand) oedd y Brifysgol bryd hynny, a pheryg iddi wneud drwg i enwau prifysgolion eraill Cymru.  Amlwg nad oedd wedi ystyried, ac amlwg unwaith eto nad oedd neb wedi awgrymu wrtho, fod nifer ar ei staff yn meddu graddau’r Brifysgol hon, a miloedd lawer o gyn-fyfyrwyr Bangor â’u teyrngarwch o hyd i’r hen Goleg ar y Bryn ac i Brifysgol Cymru. Gallaf feddwl, petai’r diweddar Brifathro Charles Evans wedi dweud peth mor dramgwyddus â hyn, y byddai yna andros o helynt.  Cywilydd hefyd ar aelodau o Gyngor y Coleg a ategodd y sylw.

Yn ôl i fyd y theatr.  Mae eleni’n hanner can mlwyddiant cyfansoddi’r ddrama Hanes Rhyw Gymro a’i pherfformiad cyntaf, yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963.  Y flwyddyn nesaf bydd yn hanner can mlwyddiant ei pherfformio ym Mangor dan gyfarwyddyd yr awdur, gyda Neuadd Prichard Jones yn llawn dair gwaith os nad pedair.  Oni fyddai’n beth da ei chyflwyno yn theatr newydd Pontio?  Byddai, pe ceid:  (a) cynhyrchydd a fedrai ei dehongli, (b) cast o tua 35 a fedrai lefaru’r llinellau a’u meddwl, (c) cynulleidfa a fyddai’n deall themâu’r ddrama – ac a fyddai’n fodlon dod p’run bynnag.  Amheus iawn a oes un o’r tri ar gael bellach.

Sôn am lenwi Neuadd P.J.  Hanner can mlynedd yn ôl byddai hynny’n digwydd yn rheolaidd hefyd ar gyfer cynyrchiadau Cymdeithas Gilbert & Sullivan y Coleg.  Nosweithiau mawr gyda The Gondoliers, Princess Ida a chlasuron eraill!  Bydd rhai o’m cyfeillion yn wfftio at fy hoffter o’r gweithiau hyn, ond ni wadaf hen deyrngarwch bellach. Mae nonsens Gilbert a Sullivan, (a) fel straeon P.G. Wodehouse, yn beth sy’n cadw rhywun yn gall, a (b) fel cân William Blake, “Jerusalem”, yn beth sy’n awgrymu fod gobaith i Loegr eto.  Wel, fe godwyd fy nghalon yn aruthrol wrth weld poster yn hysbysebu The Mikado gan y Gymdeithas G&S atgyfodedig ryw noson ym mis Mai yn Neuadd John Phillips.   Yno â ni heb feddwl ddwywaith, fy mhriod a minnau. Siom, hogia bach!  I ddechrau, y neuadd wedi ei sleisio yn ei hanner, wrth gwrs, gan wallgofiaid y Brifysgol, fel y sleisiwyd y stiwdio ddrama ardderchog rai blynyddoedd yn ôl.  Maint y gynulleidfa?  Rhyw ddau ddwsin.  Ac am na byddaf yn hoffi bychanu neb sy’n dal i drio, ni ddywedaf ddim am y perfformiad.  Pan oedd yn goleg o fil a hanner o fyfyrwyr yr oedd cymaint, cymaint mwy o fynd ar bethau, Cymraeg a Saesneg.

Ond, yn nannedd pob anhawster, pob llwyddiant i’r cwmni da sydd yn ddiweddar wedi ailsefydlu Cymdeithas y Ddrama Gymraeg yn y Brifysgol (“y Coleg”, fel y bydd yr hen G.A. yn dal i ddweud). 

Gadael sylw