Y floedd

2 Mai

Er gwaetha’r hyn a ddywedodd y blog hwn dro neu ddau o’r blaen o blaid y breniniaethau Protestannaidd, dyma’ch sicrhau na bydd yr hen G.A. yn ymuno yn Y FLOEDD y gofynnir inni i gyd ei rhoi ddydd Sadwrn nesaf fel rhan o’r ddefodaeth. Addewid o deyrngarwch bythol i’r pen coronog, addewid i’r wladwriaeth ydyw, ac yn ymarferol mae’n golygu cefnogi holl bolisïau a gweithredoedd y wladwriaeth honno. Yn awr, fe lunnir ac fe weithredir y polisïau, mewn enw ar ran y goron, gan ddau gorff: (a) yn wyneb haul, gan Senedd Westminster, ac i fesur llawer llai gan y seneddau datganoledig, a (b) yn y cysgodion, gan y Wladwriaeth Ddofn. Pwy yn union yw aelodau honno, ni allwn ond bras-ddyfalu, a byddaf yn amau na ŵyr yr aelodau eu hunain yn iawn. Ond fel y Tylwyth Teg yn stori T.H. Parry-Williams, ‘mae hi’n bod’.

Gwaith y Wladwriaeth Ddofn yw gwarchod buddiannau Lloegr, sy’n mynd hefyd dan yr enw ‘Prydain’, fel y gwelir hwy gan ryw bobl. Ac yn hynny oll y prif beth yw dal gafael ar Trident. Os cyfyd unrhyw fath o fygythiad, rhaid ei daclo, ac fe wneir hynny drwy dargedu unigolion. Anaml iawn y daw’r perygl o gyfeiriad y Chwith Brydeinig, ond pan fu bron i Corbyn ennill etholiad cyffredinol roedd raid gwneud rhywbeth. Ac fe wnaed. Y perygl mwy real a pharhaol bellach yw mudiad annibyniaeth yr Alban. Petai hwnnw’n llwyddo, dyna’i diwedd hi, diwedd gêm naw canrif.

§

Echnos, fel paratoad at y diwrnod, mi wyliais ddwy raglen frenhinol, ‘The Windsors’ gyda Harry Enfield ac yna rhaglen Frankie Boyle. Rhaid canmol y gyntaf yn fawr am safon ei dynwarediadau a’i chartwnau, a’r brif wobr yn mynd i’r Cymro Bach oedd yn chwifio’i iwnion jac yn orffwyll ac yn gweiddi ‘We want a prober coronation!’ Ai dyma’r ‘Prydeiniwr Olaf’ y soniai Gwyn Alf Williams amdano? Gan ddethol dyrnaid o frenhinoedd a breninesau’r canrifoedd, fe ddywedodd Frankie bethau hallt yn ei ddull cwrs ei hun; gallai fod wedi dweud gwaeth am y rhan fwyaf ohonynt.

Beth bynnag, at hyn rwy’n dod. Y ffaith bod rhaglenni fel hyn yn cael eu llunio a’u darlledu o gwbl. Nefoedd fawr, cofio’r gân ‘Carlo’ – yr wfftio, y gwaredu, y digio, y bygwth, ‘y cywilydd o fod yn Gymry’! Mae rhyw dro ar fyd. Be sy wedi digwydd? Caf ryw argraff yn ddiweddar, rhyw deimlad, fod y Wladriaeth Ddofn am ryw reswm wedi gollwng y teulu brenhinol fel arf yn y wir frwydr, y frwydr i ddiogelu’r gwir fuddiannau. Bydd ganddi arfau eraill, mwy na thebyg. Cadwn olwg ar yr Alban yna.

Gadael sylw