Archif | Medi, 2013

Wel, Deulu bach…

24 Medi

Dau deulu Cymreig sydd wedi mynd yn rhan o lafar gwlad.  ‘Teulu Abram Wd’ yw’r cyntaf, a aeth yn ymadrodd am deulu mawr, canghennog, – yn enwedig pan fyddai criw ohonynt yn glanio gyda’i gilydd yn rhywle. ‘Ew, dyma deulu Abram Wd wedi cyrraedd!’  ‘Teulu Bach Nantoer’ yw’r ail, yn enwedig mewn cyfarchiadau: ‘Wel Deulu Bach Nantoer, sut mae pawb yma heno?’  ‘Wel, Deulu Bach Nantoer, thâl hi ddim fel hyn welwch chi.’ 

A dyma’r hen G.A., drwy fenthyca’r teclyn gan ei fab, wedi darllen ei e-lyfr cyntaf. Ie, Teulu Bach Nantoer, wedi ei olygu ar ei ganmlwyddiant gan Siwan M. Rosser gyda rhagymadrodd priodol dros ben, a’i ryddhau drwy’r ddyfais newydd gan Cromen. Da iawn wir.

‘Pam na wnaeth Dalen Newydd hyn, yng nghyfres Cyfrolau Cenedl?’  Ateb, canolbwyntio gormod ar Beddau’r Proffwydi, hithau’n gant oed eleni, hithau’n llawn o’r themâu mythaidd a oedd, mae’n amlwg, yn bethau byw i Gymry 1913, yn arbennig Dychweliad y Plentyn Coll i’r Hen Aelwyd Gymreig.

Aeth trigain mlynedd a mwy heibio oddi ar imi ddarllen Teulu Bach Nantoer o’r blaen.  Rwy’n meddwl imi ei fwynhau gryn dipyn yn fwy heddiw na’r pryd hynny, – er gwaetha’r ffaith imi ei gael yn rhodd gan gyd-ardalwr caredig.  Tipyn yn ddiniwed oedd hanes y Teulu Bach i hogyn a oedd erbyn hynny wedi treulio oriau difyr lawer, – ie oriau mawr hefyd – uwchben Luned Bengoch a’r Dryslwyn, Capten, Nic a Nic Oedd, Nic Fydd, Nedw a Hunangofiant Tomi, Dai y Dderwen a Siencyn Tanrallt, Madam Wen, Dirgelwch Gallt y Ffrwd a rhai o nofelau Meuryn.  Peth arall hefyd. Bu T. H. Parry-Williams, meddai ef, ‘unwaith yn fachgen deg, / Yn gallu llwyr-gredu mewn Tylwyth Teg’. Ond rhaid fy mod i erbyn yr oedran hwnnw – ie, ‘bachgen deg’ oeddwn hefyd – wedi rhoi’r gred honno o’r naill du. Daeth yn ei hôl, rwy’n falch o ddweud, ers llawer blwyddyn, neu o leiaf fe ddaeth llwyr barodrwydd i dderbyn y Stori Dylwyth Teg fel math neu ddosbarth o stori.

Rheswm arall am y mwynhad mawr y tro hwn oedd darllenadwyedd y testun, wedi ei ddiweddaru y mymryn angenrheidiol o ran orgraff ond heb ymyrryd dim oll â’r geiriad (egwyddor Cyfrolau Cenedl hefyd).  Wedi gweld paragraff gwyddom y gallwn ddarllen ymlaen yn ddiogel hyderus ddiddamwain, heb berygl camu i bwll o ddiffyg ystyr a chamgystrawen, – fel a all ddigwydd inni ysywaeth mewn peth o’r sgrwtsh anllythrennog a ganmolir ac a wobrwyir heddiw.

Fe ddywedir fod y Teulu Bach wedi gwerthu 30,000 ar ei ymddangosiad cyntaf. Bydd yn ddiddorol gweld sut y gwna ar ei newydd, newydd wedd.

§

Gyda chyhoeddi’r e-lyfr bu tipyn o drafod ar fywyd a gwaith ei awdures, L. M. Owen (Jones wedyn), Moelona.  Da iawn o beth yw hyn hefyd. Mi ddywedaf air yma am ddau o blith ei llyfrau niferus.

Yr oeddwn wedi darllen Storïau o Hanes Cymru rai blynyddoedd cyn darllen Teulu Bach Nantoer, a hefyd wedi ei astudio (wedi ei ‘wneud’, fel y dywedem) yn Ysgol Penfforddelen erbyn bod yn rhyw ddeg oed. Teimlaf ddyled iddo o hyd, fel i’w gydymaith, eto o wasg Hughes a’i Fab, ond mor wahanol ei deimlad, Ein Hen, Hen Hanes gan W. Ambrose Bebb.  Caf fy hun yn meddwl cryn dipyn amdano y dyddiau hyn, wrth edrych ymlaen at ddiwrnod ‘Ar Wib  trwy Hanes Cymru’, sydd i’w gynnal yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, ddydd Sadwrn 19 Hydref.   Sut mae adrodd dwy fil o flynyddoedd o hanes pobl – ie, fe ddywedwn ni ‘hanes cenedl’ am y tro, heb wynebu’r her o ddiffinio ‘cenedl’ – lle mae un chwaraewraig amlwg yn absennol?  Y chwaraewraig honno yw’r wladwriaeth. Pa stori sydd i’w hadrodd lle nad oes gwladwriaeth o gwbl am ran helaethaf y cyfnod, na phrin gysgod o’r un, na fawr obaith sefydlu un? Gallaf ddychmygu rhai o haneswyr Lloegr, er enghraifft, yn dweud fod y peth yn amhosibl. Ond fe waeth haneswyr y Cymry rywbeth ohoni, rywsut neu’i gilydd. Fe ellir sôn am gyflwr y bobl. Fe ellir sôn am sefydliadau, eu twf a’u gwaith. Ac fe ellir sôn am ymdrech unigolion i gadw pethau i fynd.  Dyna, yn bennaf, a wnaeth Moelona, o gwymp y Llyw Olaf ymlaen: ymdrechion Owain Glyndër, John Penry, Yr Esgob Morgan, Griffith Jones … a rhes o rai eraill hyd at ei hoes ei hun. Gallai pawb ohonom amrywio’r rhestr o unigolion, ond mae’r patrwm yn gwneud synnwyr.  Mwy na hynny, mi gredaf ei fod yn gwneud synnwyr hefyd i ni blant, drigain mlynedd yn ôl.  Mwy na hynny eto, mae gen i  hefyd ryw syniad iddo helpu i’n cadw ar y trywydd iawn.

Heddiw ddiwethaf dyma’r adroddiad ar ‘Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru’, gwaith grŵp wedi ei sefydlu gan y Llywodraeth.  Dyma ni, ‘bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant mewn swydd ar gyfer pob athro/athrawes’.  Digido deunyddiau, mewnosod, arfer da cyfredol, cydlynydd pwnc, ail-strwythuro, mynediad rhwydd &c &c … a holl rwtshi-ratsh arferol jargon byd addysg ein dydd.  Ar fy ngwir, petai pob plentyn Cymraeg ei iaith, i ddechrau, yn cael darllen neu ‘wneud’ Storïau o Hanes Cymru Moelona erbyn bod yn un ar ddeg oed, byddai’n gychwyn da iawn. Ac fe ddysgai’r  athrawon andros o lot hefyd.

§

Ffynnonloyw, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 1939, yw’r fwyaf uchelgeisiol o nofelau Moelona. ‘Stori Tair Cenhedlaeth’ y gelwir hi, a daw i’r cof mai dyna a ofynnid yng nghystadleuaeth y nofel, Eisteddfod Castell Nedd, 1934.  Gosodwyd Traed Mewn Cyffion (Kate Roberts) a Creigiau Milgwyn (G. Wynne Griffith) yn gydradd fuddugol gan y beirniad, Dr. Tom Richards, mewn dyfarniad dadleuol.  Hyd y gwelaf, ni chynigiodd Moelona mo’i nofel hi. Petai wedi gwneud, buasai’n rhaid ei hystyried yn ymgeisydd teilwng. Mae Ffynnonloyw yn stori o gryn graffter, ar y thema ddiosgoi o Chwalfa, yn gofyn yn bryderus ‘beth a ddaw o’r hen deulu, ac o’r hen le?’, ac yn hynny o beth ar briffordd rhyddiaith storïol Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Hanes teulu go helaeth o gefndir Moelona ei hun sydd yma, pawb yn ymadael, yn mynd ar wasgar, y rhan fwyaf yn golledig i Gymru, ond un neu ddau’n cael eu hachub fel pentewynion tân.  Gyda mwy o drwch (can tudalen arall?), a mwy o fanylder ar rai pethau, gallasai fod yn nofel dda dros ben.

§

 A dychwelyd at Deulu Bach Nantoer, oes, mae ambell beth bach od yn y stori.  Beth yn union, o ran y stori, yw diben sgwrs yr offeiriad i blant yr ysgol ym Mhennod VI ? Neges O.M. Edwards sydd ynddi, fel y sylwyd yn ystod y drafodaeth y dyddiau hyn.  Y mae’n unol â chywair y gwaith, yn wir â rhan mewn creu’r cywair. Ond beth yw ei pherthynas â’r digwyddiadau? A oes perthynas?

Ar ymddangosiad cyntaf ‘y gŵr a’r wraig ddieithr’ (Pennod IV), fe sylwa Ieuan ac Alun ‘fod y dyn yn gwisgo modrwy, un lydan a thlws iawn, ar ei fys bach’.  Beth mae Moelona yn ei ensynio?

Yn ôl i Landdeiniolen

24 Medi

Image

O wasg Dalen Newydd Cyf. yr wythnos hon daw’r wythfed o ‘Gyfrolau Cenedl’, Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill gan W.J. Gruffydd.

Dyma’r disgrifiad ohoni:

Dyma ddetholiad newydd o blith cynnyrch rhyddiaith toreithiog yr Athro W. J. Gruffydd. Yn ogystal â bod yn fardd, ysgolhaig a golygydd, yr oedd Gruffydd hefyd yn ‘feirniad diwylliant’ mewn ystyr eang, yn bwrw’i olygon dros lenyddiaeth, bywyd cymdeithasol, gwleidyddiaeth a chrefydd gan weld y pethau hyn oll yn eu perthynas â’i gilydd; ac wrth fwrw’i lygad, bwrw’i fol hefyd, gan fynegi barn bersonol iawn a chan gynrychioli yr un pryd draddodiad o feddwl yng Nghymru Ymneilltuol a Rhyddfrydol.

Adlewyrchir yma Gymru rhwng trigain a chanmlwydd yn ôl, a Chymru yr amharwyd arni’n ddwfn gan helbulon byd y cyfnod, yn benodol gwrthdrawiadau gwaedlyd gwladwriaethau Ewrop. Ceisiai Gruffydd weld sut orau y gallai Cymru oroesi drwy hyn oll.  Cawn weld i ba raddau y gall cenhedlaeth newydd werthfawrogi ei ddadansoddiad ef a’r atebion yr oedd yn eu cynnig, a pha mor berthnasol heddiw yw ei ymgais ef i’w ‘wneuthur ei hun yn ddealladwy i’w gyd-genedl’.

O ran ysgrifennu Cymraeg, nid oes gwell patrwm na Gruffydd, a gall pawb ohonom fwynhau ei ddweud ysgubol ac elwa o’i ddarllen.

Fe welir fod y gyfrol hon yn gydymaith i’r un o’i blaen, Dramâu W.J. Gruffydd: Beddau’r Proffwydi a Dyrchafiad Arall i Gymro.   Mae’r ddwy gyda’i gilydd yn gwneud PECYN LLANDDEINIOLEN y gellir ei gael gan y cyhoeddwyr am y pris gostyngol o £20 yn lle £23. Ni chodir am y post. E-bostiwch i ddal ar y cynnig. Hefyd gallwn gynnig cyfrol 8 am £12 yn lle £15 i’r rheini sydd wedi prynu cyfrol 7.  Cymerwn eich gair!  Fe ŵyr yr hen Ddalen Newydd  pwy yw ei ffrindiau, hidiwch chi befo!  E-bostiwch ni.

Cofiwch hefyd am BECYN TWM O’R NANT (£25 yn lle £30) a PHECYN LLANDYGÁI (£20 yn lle £27.50).

Gobeithio eich bod wedi darllen y cyfweliadau â W.J.G. yn rhifynnau Mehefin a Gorffennaf-Awst o BARN.  Ac efallai yr hoffech ddarllen y stori ‘Trobwynt’ ar y blog hwn, archif Mai..

Enwi Theatr

12 Medi

Gweld bod y pwnc hwn wedi ysgogi ymateb ar GOLWG 360.  Yn wir mae’n un o’r “pynciau llosg” heddiw, sy dipyn bach yn ddigri.  Gobeithio nad ydym yn ei osod ar yr un tir â, dyweder, cwestiwn Wylfa B, penderfyniad y llywodraeth ar drosglwyddo organau, neu wahoddiad Carwyn i Trident ! 

Ac yn sicr does ar yr hen G.A. ddim eisiau ffraeo  ynghylch enwau unigolion. Yr hyn sy o blaid W.L.R. a J.G.J. yw eu bod ill dau yn ddynion theatr, ac wedi gweithio blynyddoedd lawer yn y fan a’r lle. Dim amarch o gwbl i B.T. chwaith, ond mae gwahaniaeth yma rhwng (a) cysylltu a (b) coffáu.  Mae’r Saeson yn rhai garw iawn am goffáu, a ninnau braidd yn wan, er gwaethaf gwaith da Cymdeithas Bob Owen a chymdeithasau eraill wedi eu henwi ar ôl cymwynaswyr.

Yr argraff a gaf oddi wrth ddatganiad Cyngor Prifysgol Bangor yw bod yna ddiffyg gwybod rhyw lawer o ddim byd. Welsh Greats?  Hm … Tom Jones?  Shirley Bassey?  A … ym … Tom Jones? “That’s it,” chwedl Private Eye.

Mae llawer o synnwyr yn awgrym un neu ddau o gyfranwyr GOLWG 360 o ddychwelyd at yr hen enw, Theatr Gwynedd.  A diau, fel yr awgryma rhai, y bydd yno ystafelloedd y tu mewn lle gellir coffáu rhai o arloeswyr y ddrama ym Mangor a’r cylch.

O Gwmpas Bangor

8 Medi

Rwyf am fod yn blwyfol iawn y tro hwn, ac am ymdroi o gwmpas Dyffryn Adda, sef Bangor a’r cyffiniau.

Y stori gyntaf yw fod Cwmni Redrow newydd gael cydsyniad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd i godi 245 o dai newydd ym Mhenrhosgarnedd.  Mae cryn wrthwynebiad i’w glywed yn lleol ar sail traffig, mynediad &c.  Gwrthwynebiad digon dilys mae’n ddiamau, ond y pwnc mawr, a’r pwnc digrif i feddwl yr hen G.A., yw hwn.  Fe ddynodir un rhan o dair o’r tai (81) fel “tai fforddiadwy”.  Pam codi’r ddwy ran o dair arall (163) felly, os na fydd neb yn gallu eu fforddio?  Beth fyddai esboniad Pwyllgor Cynllunio Gwynedd, a’r Cabinet, a’n cynghorwyr lleol?

Beryg bod yr hen sinig hwnnw’n iawn, “tai fforddiadwy” =  tai salach, i’r Cymry ?

§

Yn Stryd Fawr Bangor dyma globen o neuadd breswyl newydd gyda’r enw bras, NEUADD PENRHYN.  Cwmni o’r enw Fresh Student Living sydd wedi ei chodi. Mae’n ymddangos na wyddai’r cwmni, ac nad oedd neb wedi ei atgoffa chwaith,  fod NEUADD Y PENRHYN arall dri munud i lawr y lôn, ac yno ers canmlwydd a hanner, yn adeilad a sefydliad enwog ac yn gartref Cyngor y Ddinas.  Ie, “conffiws”, fel sylwyd yn y wasg leol eisoes.

§

Nid yn unig mae pobl wrthi hyd y lle ’ma heb wybod dim am y ddinas, ei daearyddiaeth na’i hanes, mae hefyd wedi codi “genhedlaeth nad adnabu Joseff”.  Arwydd o’r un peth yw’r enw sy’n cael ei gynnig ar y theatr newydd a fydd yn rhan o ganolfan Pontio, “Theatr Bryn Terfel”.  Cododd galwad am enwi’r theatr ar ôl Wilbert Lloyd Roberts, sylfaenydd Cwmni Theatr Cymru a sylfaenydd y theatr wreiddiol ar yr un safle: awgrym a llawer o synnwyr ynddo. Ond beth am gyn-fyfyriwr o Goleg Bangor ac yna darlithydd yno, yr un a gynhyrchodd ddramâu Cymraeg y Coleg yn flynyddol am ran orau ei oes, ac ysgrifennu rhai ohonynt, a gwasanaethu’n helaeth yn y gymdeithas tu allan fel cynhyrchydd, dramodydd a beirniad? Oes rhywun wedi meddwl am “Theatr John Gwilym Jones?”  Ac os naddo, pam?

Darllenwn mai “Theatr Bryn Terfel” yw dewis Cyngor Prifysgol Bangor, ac fe’i hamddiffynwyd gan y Prifathro John Hughes gan ddweud fod Bryn yn “enw mawr rhyngwladol yn y celfyddydau … eisoes wedi lleisio ei gefnogaeth i Pontio … ac wedi datgan ei fod yn falch iawn o’r cynnig.”  Ond wir, a yw’r un o’r rhain yn ddigon o reswm?  Caf yr argraff nad yw’r Prifathro Hughes yn dallt rhyw lawer o ddalltins am hanes y coleg na’r ardal na Chymru, ac nad yw wedi dechrau cropian ym myd y Pethe eto, ac argraff hefyd nad oes neb wrth law ar Gyngor na Llys Prifysgol Bangor i’w gynghori.

Y peth a barodd imi feddwl fel hyn o’r blaen oedd sylw anfaddeuol y Prifathro ddwy flynedd yn ôl pan oedd Prifysgol Cymru’n chwalu dan ymosodiad ei hen elynion. Yn ôl Dr. Hughes, newydd gyrraedd o’r Ynys Werdd, “brand llwgr” (tainted brand) oedd y Brifysgol bryd hynny, a pheryg iddi wneud drwg i enwau prifysgolion eraill Cymru.  Amlwg nad oedd wedi ystyried, ac amlwg unwaith eto nad oedd neb wedi awgrymu wrtho, fod nifer ar ei staff yn meddu graddau’r Brifysgol hon, a miloedd lawer o gyn-fyfyrwyr Bangor â’u teyrngarwch o hyd i’r hen Goleg ar y Bryn ac i Brifysgol Cymru. Gallaf feddwl, petai’r diweddar Brifathro Charles Evans wedi dweud peth mor dramgwyddus â hyn, y byddai yna andros o helynt.  Cywilydd hefyd ar aelodau o Gyngor y Coleg a ategodd y sylw.

Yn ôl i fyd y theatr.  Mae eleni’n hanner can mlwyddiant cyfansoddi’r ddrama Hanes Rhyw Gymro a’i pherfformiad cyntaf, yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963.  Y flwyddyn nesaf bydd yn hanner can mlwyddiant ei pherfformio ym Mangor dan gyfarwyddyd yr awdur, gyda Neuadd Prichard Jones yn llawn dair gwaith os nad pedair.  Oni fyddai’n beth da ei chyflwyno yn theatr newydd Pontio?  Byddai, pe ceid:  (a) cynhyrchydd a fedrai ei dehongli, (b) cast o tua 35 a fedrai lefaru’r llinellau a’u meddwl, (c) cynulleidfa a fyddai’n deall themâu’r ddrama – ac a fyddai’n fodlon dod p’run bynnag.  Amheus iawn a oes un o’r tri ar gael bellach.

Sôn am lenwi Neuadd P.J.  Hanner can mlynedd yn ôl byddai hynny’n digwydd yn rheolaidd hefyd ar gyfer cynyrchiadau Cymdeithas Gilbert & Sullivan y Coleg.  Nosweithiau mawr gyda The Gondoliers, Princess Ida a chlasuron eraill!  Bydd rhai o’m cyfeillion yn wfftio at fy hoffter o’r gweithiau hyn, ond ni wadaf hen deyrngarwch bellach. Mae nonsens Gilbert a Sullivan, (a) fel straeon P.G. Wodehouse, yn beth sy’n cadw rhywun yn gall, a (b) fel cân William Blake, “Jerusalem”, yn beth sy’n awgrymu fod gobaith i Loegr eto.  Wel, fe godwyd fy nghalon yn aruthrol wrth weld poster yn hysbysebu The Mikado gan y Gymdeithas G&S atgyfodedig ryw noson ym mis Mai yn Neuadd John Phillips.   Yno â ni heb feddwl ddwywaith, fy mhriod a minnau. Siom, hogia bach!  I ddechrau, y neuadd wedi ei sleisio yn ei hanner, wrth gwrs, gan wallgofiaid y Brifysgol, fel y sleisiwyd y stiwdio ddrama ardderchog rai blynyddoedd yn ôl.  Maint y gynulleidfa?  Rhyw ddau ddwsin.  Ac am na byddaf yn hoffi bychanu neb sy’n dal i drio, ni ddywedaf ddim am y perfformiad.  Pan oedd yn goleg o fil a hanner o fyfyrwyr yr oedd cymaint, cymaint mwy o fynd ar bethau, Cymraeg a Saesneg.

Ond, yn nannedd pob anhawster, pob llwyddiant i’r cwmni da sydd yn ddiweddar wedi ailsefydlu Cymdeithas y Ddrama Gymraeg yn y Brifysgol (“y Coleg”, fel y bydd yr hen G.A. yn dal i ddweud). 

Colofnydd Newydd

8 Medi

Gweld bod GOLWG wedi cael colofnydd newydd, Leighton Andrews AC.  Yn ei ysgrif gyntaf mae’n trafod annibyniaeth i’r Alban.  Mae Mr. Andrews yn erbyn, ac mae’n ystyried – heb ddod at unrhyw gasgliadau pendant, hyd y gwelaf i – sut y gall helpu’r ymgyrch “na”. 

Iawn, pawb â’i farn ar y pwnc mawr hwn, ond gwelaf yma ddilema wirioneddol i lywodraeth Cymru a hefyd i’r Blaid Lafur.

Os erys yr Alban yn rhan o’r wladwriaeth unedol, cymerwn y bydd llongau Trident yn aros ar lannau Clud. Dyna, rhaid inni gymryd, ddymuniad Mr. Andrews.  Ond wedyn ni bydd siawns i Gymru gael Trident, sef dymuniad Carwyn Jones. “Mwy na chroeso,” fe gofir, oedd ei eiriau yr haf y llynedd.

Pwy sy’n llefaru dros Lafur yn hyn o beth?  Cymeraf mai Carwyn, gan mai ef yw’r arweinydd, ac mai dyna yn awr bolisi llywodraeth Cymru.  I ennill y wobr fawr hon i Gymru, onid oes angen yn awr ymgyrchu o blaid “ie” yn yr Alban?

§

Ond dowch inni roi eironi o’r naill du.  Tasg fawr gwleidyddiaeth y byd oddi ar 1945 fu, ac yw, rheoli arfau niwclear. Bydd rhai yn dal fod y cydbwysedd grym, neu’n wir y “cydbwysedd braw” fel y dywedir, yn fath o reolaeth, a’i fod wedi gweithio hyd yma. Mae eraill ohonom yn deall “rheoli” fel “cael gwared”, ac yn credu mai dyma’r unig wir ateb. Mae’r hen Glyn Adda oddi ar tua 1954-5, drwy aml newid meddwl ar bob mathau o bynciau eraill yng Nghymru a’r tu hwnt, wedi credu hyn yn ddiysgog.  Credodd rhai – ac efallai fod ambell un yn dal i gredu – mai gwaith y Chwith Brydeinig yw rhoi cychwyn.  Daethpwyd agosaf at y nod hwn yng nghynhadledd y Blaid Lafur, Hydref 1961; ond gofalodd Hugh Gaitskell nad aed ddim pellach, ac am hynny fe’i canoneiddiwyd ef fel Prif Arwr yr Adain Dde ym Mhrydain drwy weddill yr ugeinfed ganrif. 

Uwd o ragrith yw’r Chwith Brydeinig. Tasg y cenhedloedd Celtaidd yw hon, ac yn awr mae i’r Albanwyr y cyfle i’w chyflawni.  Dyna pam y mae annibyniaeth yr Alban yn bwnc mor anferth, ac yn bwnc nad yw pawb, o bell ffordd, yn deall eto hyd a lled ei ymhlygiadau.  Byddai “ie” yn gam aruthrol ymlaen i ddynol ryw.  Ond pob rhyddid i Leighton anghytuno os dyna’i farn.

Diolch am Gefnogaeth!

8 Medi

Newydd gofio edrych ar yr ymateb, http://www.clickonwales.org, i’m hen ysgrif a gyhoeddwyd ar Galan Awst.  Rhyfeddu, a chodi fy nghalon, o weld maint y gefnogaeth. Ew, diolch, gyfeillion!  Awgrym, gobeithio, i’r cylchgrawn Welsh Agenda ymbwyllo cyn cyhoeddi rhagor o bethau hollol hurt !