Taro i mewn i Clickonwales, heb fod yno ers tro. Caed yno drafodaethau y dyddiau diwethaf ar (a) dyfodol y wasg brintiedig, a (b) dyfodol gwleidyddol Cymru, dan bwnc gwahanol ond cysylltiedig yn y pen draw.
‘The end game for newspapers’ yw pennawd Simon Farrington, newyddiadurwr profiadol iawn a chyn-olygydd Wales on Sunday. Mae ei ddisgrifiad a’i ragolwg yn rhai cyfarwydd, ond â’r dystiolaeth o’u plaid yn helaeth ac yn cynyddu. Gwêl y papurau lleol wythnosol yn cau ledled y Deyrnas, a’r ychydig bapurau dyddiol Llundeinig ac arall yn beryglus o ddibynnol ar barodrwydd biliwnyddion i dywallt eu harian. Ymatebodd rhai i’r ysgrif, pawb yn cytuno â’r darlun yn gyffredinol ond fel Simon Farrington ei hun yn methu â gweld chwaith fod y cyfryngau digidol yn barod na chymwys i lenwi’r bwlch. A chyfyngu’r sylw am y tro i’r wasg leol fasnachol, gwelaf anhawster mawr. Prif gynhaliaeth y wasg hon oddi ar yr Ail Ryfel fu: (a) hysbysebion modurdai, gwerthwyr tai ac arwerthwyr, a (b) hysbysiadau swyddi a gwasanaethau gan awdurdodau cyhoeddus. Bu trai mawr ar y mathau hyn o hysbyseb, nid am eu bod wedi eu trosglwyddo i ‘bapurau newydd’ digidol ond am fod gan yr hysbysebwyr eu gwefannau eu hunain. Pe bawn i’n werthwr tai neu geir, a fyddai diben imi hysbysebu’n helaeth ar wefan ‘papur’ neu ‘gylchgrawn’ digidol? Onid digon fyddai ambell hysbyseb sydyn, gymharol rad yn tynnu sylw at fy ngwefan fy hun a chyda dolen i fynd ati?
Fel un sy’n dal i gredu, er gwaethaf popeth, mai peth wedi ei wneud o bapur yw papur, bûm i’n meddwl llawer tybed nad oes, yng ngwendid presennol a chynyddol y wasg leol, fasnachol, Saesneg, gyfle i adfywio’r wasg Gymraeg ac ail-greu cynulleidfa ddarllen eang drwy gyfrwng cyfres o bapurau Cymraeg am ddim, a fyddai’n adeiladu ar sylfaen werthfawr y papurau bro. Gwariodd ein cwmni ni, Dalen Newydd Cyf., arian go helaeth, a’i golli, ar arbrawf yn y cyfeiriad hwn naw mlynedd yn ôl. Efallai yr adroddaf yr holl hanes ryw ddiwrnod, yn cynnwys rhan anogoneddus ambell wleidydd a fethodd hyd yn oed â chydnabod llythyr ar y mater. Erbyn heddiw, gyda chrebachu pellach ar y gronfa hysbysebion, gallaf ddychymygu fod pethau’n fwy anodd fyth. Ond fe dâl parhau i feddwl am y peth, ac efallai yr hoffai’r darllenwyr edrych eto ar eitem 1 Gorffennaf 2013, ‘Gwasg mewn Gwasgfa’.
Oherwydd …
§
At Clickonwales y dyddiau hyn hefyd mae tipyn o gloriannu ar ganlyniadau’r etholiad. ‘It’s time for a fundamental re-think,’ medd Steve Brooks, cefnogwr Llafur. ‘What next for Wales from Plaid Cymru?’ gofyn Leanne Wood. ‘Back to the drawing board,’ medd y cenedlaetholwr Syd Morgan. Ie, pam y gwnaeth UKIP ynghyd â’r Torïaid mor dda drwy’r rhan helaethaf o Gymru, gan fwrw Plaid Cymru i’r cysgod yn etholaethau’r Cymoedd lle mae hi wedi llafurio ers hanner canrif? Dychmygwch ofyn i un o bleidleiswyr UKIP heddiw, neu yn wir y diwrnod wedi’r etholiad, beth a ŵyr am ymgeisydd ei blaid. Y tebygrwydd uchel yw na fydd yn cofio hyd yn oed ei enw. Pam pleidleisio iddo felly? Mae’r ateb yn syml iawn : oherwydd cytuno â’i bolisi. Oherwydd ei fod yn cynrychioli rhyw syniadau yr oedd y pleidleisiwr yn eu coleddu eisoes. Ble cafodd y pleidleisiwr, ym Merthyr a Chwm Cynon, yng Nghaerffili a Blaenau Gwent, yn Nyffryn Clwyd a Wrecsam, ie yng Ngheredigion a Môn, y syniadau hynny i’w coleddu? Ateb: o’i bapur newydd. O’r Sun, y Daily Mail, y Daily Express. Efallai fod diwedd y rhain yn dod, ond nid yw wedi dod. A oes gwasg Gymraeg, neu Gymreig, i roi golwg wahanol ar y byd? Nac oes.
§
Ond wedyn, beth am yr Alban? Cafodd yr SNP ei llwyddiant ysgubol yn nannedd gwasg elyniaethus dros ben, gyda dwy eithriad yn unig, y papur The National, a sefydlwyd ar frys yn sgil y refferendwm y llynedd, a lled-gefnogaeth y Sun Albanaidd. Ond un ffactor, yn sicr, yn yr Alban oedd bywiogrwydd blogiau fel Wings over Scotland, Bella Caledonia, Wee Ginger Dug a Munguin’s Republic, a fu’n dyrnu arni o ddydd i ddydd, yn sylweddol, yn ffraeth ac yn ddidrugaredd o ddychanol, yn denu ymatebion wrth y cannoedd ac yn medru codi symiau anrhydeddus o arian ymron dros nos. Diniwed sobor, mewn cymhariaeth, yw ein blogiau yng Nghymru, Cymraeg a Saesneg, tystiolaeth efallai o ddiwylliant wedi dod i ben ei rawd. Eithriad yw Jac o’ the North, sy’n gwybod sut i’w dweud-hi ac yn barod i ddweud yr hyn na ddywed neb arall. Rwy’n synnu na byddai mwy’n gwybod amdano. Ond eto caiff Jac ymatebion da, tipyn gwell na ni’r blogwyr bach Cymraeg.
bwrw’r hoelen ar ei phen ond o yr och a’r diflastod wrtthfeddwl am y dyfodol du…………..
Diolch yn fawr Gaynor. Am ei bod hi mor anodd ysbrydoli, calonogi, deffro, cymell, symbylu, tanio ac ysgwyd y Cymry, bydd yr hen G.A. weithiau’n trio joch o’r DU, fel y bydd Rhagluniaeth bob hyn a hyn yn trio rhyw gic — gweler eitem 14 Mai.